2 BRENHINOEDD 13
Jehoachas, brenin Israel
1 Pan oedd Joas fab Ahaseia wedi bod yn frenin ar Jwda am ddau ddeg tair o flynyddoedd, dyma Jehoachas, mab Jehw, yn dod yn frenin ar Israel. Bu'n frenin yn Samaria am un deg saith o flynyddoedd.
2 Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. Roedd e'n dal i addoli'r eilunod wnaeth Jeroboam fab Nebat eu codi, y rhai oedd wedi gwneud i Israel bechu; wnaeth e ddim troi cefn arnyn nhw.
3 Roedd yr ARGLWYDD yn wirioneddol flin gyda phobl Israel. Dyma fe'n gadael i Hasael, brenin Syria a'i fab Ben-hadad, eu rheoli nhw am flynyddoedd lawer.
4 Ond dyma Jehoachas yn gweddïo ar yr ARGLWYDD, a dyma'r ARGLWYDD yn gwrando am ei fod wedi gweld fel roedd Israel yn dioddef o dan frenin Syria.
5 Felly dyma'r ARGLWYDD yn anfon un i achub Israel oddi wrth Syria, a chafodd y bobl fynd i fyw yn eu cartrefi eu hunain eto, fel o'r blaen.
6 Ond wnaethon nhw ddim troi'u cefnau ar eilunod teulu Jeroboam oedd wedi gwneud i Israel bechu. Roedden nhw'n dal ati i bechu fel o'r blaen. Roedd hyd yn oed polyn i'r dduwies Ashera yn dal yn Samaria.
7 Doedd gan Jehoachas ddim byddin ar ôl chwaith, dim ond pum deg o geffylau, deg cerbyd a deg mil o filwyr troed. Roedd brenin Syria wedi'u dinistrio nhw a'u sathru nhw dan draed fel llwch mân ar lawr dyrnu.
8 Mae gweddill hanes Jehoachas – y cwbl wnaeth e a'i lwyddiant milwrol – i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.
9 Bu Jehoachas farw a chael ei gladdu yn Samaria, a dyma'i fab, Jehoas yn dod yn frenin yn ei le.
Jehoas, brenin Israel
10 Roedd Joas wedi bod yn frenin ar Jwda am dri deg saith o flynyddoedd pan ddaeth Jehoas fab Jehoachas yn frenin ar Israel. Bu'n frenin yn Samaria am un deg chwech o flynyddoedd.
11 Gwnaeth yntau hefyd bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, a gwrthod troi cefn ar yr eilunod roedd Jeroboam fab Nebat wedi'u codi, i achosi i bobl Israel bechu. Roedd e'n byw yr un fath.
12 Mae gweddill hanes Jehoas – y cwbl wnaeth e, ei lwyddiant milwrol a'i ddewrder yn y rhyfel yn erbyn Amaseia, brenin Jwda – i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.
13 Pan fuodd Jehoas farw cafodd ei gladdu yn Samaria gyda brenhinoedd Israel, a dyma'i fab, Jeroboam, yn eistedd ar yr orsedd yn ei le.
Proffwydoliaeth olaf Eliseus cyn iddo farw
14 Pan oedd Eliseus yn sâl ac ar ei wely angau aeth Jehoas, brenin Israel, i'w weld. Dyma Jehoas yn torri i lawr i grio o'i flaen a dweud, “Fy nhad, fy nhad! Ti ydy arfau a byddin Israel!” Ref
15 Meddai Eliseus wrtho, “Tyrd â dy fwa a dy saethau yma.” A dyma fe'n gwneud hynny.
16 Wedyn dyma Eliseus yn dweud wrtho, “Gafael yn y bwa.” Yna dyma Eliseus yn rhoi ei ddwylo ar ddwylo'r brenin.
17 Wedyn dyma fe'n dweud wrtho, “Agor y ffenest sy'n wynebu'r dwyrain.” Dyma fe'n agor y ffenest. Yna dyma Eliseus yn dweud, “Saetha!” A dyma fe'n saethu. “Mae'r saeth yna'n symbol o fuddugoliaeth yr ARGLWYDD. Saeth buddugoliaeth dros Syria. Byddi di'n ymosod ar Syria yn Affec ac yn ei difa nhw'n llwyr.”
18 Yna dyma Eliseus yn dweud wrtho, “Cymer y saethau, a tharo'r llawr gyda nhw.” Felly dyma'r brenin yn gafael yn y saethau a tharo'r llawr dair gwaith, ac yna stopio.
19 Roedd y proffwyd yn flin gydag e. “Dylet ti fod wedi taro'r llawr bump neu chwe gwaith! Byddai hynny'n dangos dy fod yn mynd i ddinistrio Syria'n llwyr. Ond nawr dim ond tair gwaith fyddi di'n eu curo nhw.”
20 Bu farw Eliseus a chafodd ei gladdu.
Roedd criwiau o ddynion o Moab yn arfer ymosod ar y wlad bob gwanwyn.
21 Un tro digwyddodd hynny pan oedd rhyw ddyn yn cael ei gladdu. Dyma'r bobl oedd yn ei gladdu yn gweld un o'r criwiau yna o Moab yn dod, felly dyma nhw'n taflu corff y dyn marw i mewn i fedd Eliseus a dianc. Pan gyffyrddodd y corff esgyrn Eliseus, daeth yn ôl yn fyw a chodi ar ei draed.
Rhyfel rhwng Israel a Syria
22 Roedd Hasael, brenin Syria, wedi bod yn cam-drin Israel ar hyd cyfnod Jehoachas fel brenin.
23 Ond dyma'r ARGLWYDD yn tosturio a dangos trugaredd atyn nhw. Roedd yn garedig atyn nhw oherwydd ei ymrwymiad gydag Abraham, Isaac a Jacob. (Hyd heddiw mae e'n dal i wrthod eu dinistrio nhw na chael gwared â nhw!)
24 Pan fuodd Hasael, brenin Syria, farw, daeth ei fab Ben-hadad Ref yn frenin yn ei le.
25 Yna dyma Jehoas fab Jehoachas yn ennill tair brwydr yn erbyn Ben-hadad a chymryd yn ôl y trefi roedd Hasael wedi'u dwyn oddi ar ei dad.
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity