|
|
(2 Cronicl 25:1-28)
1 Dyma Amaseia, mab Joas, yn dod yn frenin ar Jwda yn ail flwyddyn Jehoas fab Jehoachas fel brenin Israel. 2 Roedd yn ddau ddeg pump pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin am ddau ddeg naw o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Iehoadan, ac roedd hi'n dod o Jerwsalem. 3 Roedd Amaseia yn gwneud beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD, er, ddim fel gwnaeth y Brenin Dafydd, ei hynafiad. Roedd yn union yr un fath â'i dad Joas. 4 Wnaeth yntau ddim cael gwared â'r allorau lleol, ac roedd y bobl yn dal i aberthu anifeiliaid a llosgi arogldarth arnyn nhw. 5 Ar ôl gwneud yn siŵr fod ei afael ar y deyrnas yn ddiogel, dyma fe'n dienyddio'r swyddogion hynny oedd wedi llofruddio ei dad, y brenin. 6 Ond wnaeth e ddim lladd plant y llofruddion, am fod sgrôl Cyfraith Moses yn dweud fod yr ARGLWYDD wedi gorchymyn: “Ddylai rhieni ddim cael eu lladd am droseddau'u plant, na'r plant am droseddau'u rhieni. Dim ond y troseddwr ei hun ddylai farw.” Ref 7 Lladdodd ddeg mil o filwyr Edom yn Nyffryn yr Halen, a chipio dinas Sela yn y frwydr. Newidiodd ei henw i Iocteël; a dyna'r enw arni hyd heddiw. 8 Yna dyma Amaseia'n anfon negeswyr at Jehoas, brenin Israel (mab Jehoachas ac ŵyr Jehw). Y neges oedd, “Tyrd, gad i ni wynebu'n gilydd mewn brwydr.” 9 Dyma Jehoas, brenin Israel, yn anfon neges yn ôl at Amaseia yn dweud: “Un tro yn Libanus dyma ddraenen fach yn afon neges at goeden gedrwydd fawr i ddweud, ‘Rho dy ferch yn wraig i fy mab i.’ Ond dyma anifail gwyllt yn dod heibio a sathru'r ddraenen dan draed! 10 Mae'n wir dy fod ti wedi gorchfygu Edom Amaseia, ond mae wedi mynd i dy ben di! Mwynha dy lwyddiant ac aros adre. Wyt ti'n edrych am drwbwl? Dw i'n dy rybuddio di, byddi di a dy deyrnas yn syrthio gyda'ch gilydd!” 11 Ond doedd Amaseia ddim am wrando. Felly dyma Jehoas, brenin Israel, yn mynd i ryfel yn ei erbyn. Dyma'r ddwy fyddin yn dod wyneb yn wyneb yn Beth-shemesh ar dir Jwda. 12 Byddin Israel wnaeth ennill y frwydr, a dyma filwyr Jwda i gyd yn dianc am adre. 13 Roedd Jehoas, brenin Israel, wedi dal Amaseia, brenin Jwda, yn Beth-shemesh. Yna dyma fe'n mynd ymlaen i Jerwsalem a chwalu waliau'r ddinas o Giât Effraim at Giât y Gornel, pellter o bron i ddau can metr. 14 Cymerodd yr holl aur ac arian, a'r llestri oedd yn y deml ac yn storfa'r palas. Cymerodd wystlon hefyd, ac yna mynd yn ôl i Samaria. 15 Mae gweddill hanes Jehoas – y cwbl wnaeth e, ei lwyddiant milwrol a'i ddewrder yn y rhyfel yn erbyn Amaseia, brenin Jwda – i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel. 16 Pan fuodd Jehoas farw cafodd ei gladdu yn Samaria gyda brenhinoedd Israel, a dyma'i fab, Jeroboam, yn dod yn frenin yn ei le. 17 Buodd Amaseia fab Joas, brenin Jwda, fyw am un deg pump o flynyddoedd ar ôl i Jehoas, brenin Israel, farw. 18 Mae gweddill hanes Amaseia i'w gael yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda. 19 Am fod rhyw bobl yn Jerwsalem wedi cynllwynio yn ei erbyn, dyma fe'n dianc i Lachish. Ond dyma nhw'n anfon dynion ar ei ôl a'i ladd yno. 20 Cafodd y corff ei gymryd yn ôl i Jerwsalem ar geffylau, a chafodd ei gladdu yn Ninas Dafydd gyda'i hynafiaid. 21 Yna dyma bobl Jwda i gyd yn cymryd Wseia, Ref mab Amaseia, oedd yn un deg chwech oed, a'i wneud e'n frenin yn lle ei dad. 22 (Wseia wnaeth ennill tref Elat yn ôl i Jwda a'i hailadeiladu ar ôl i'w dad Amaseia farw.)Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity