2 BRENHINOEDD 2
Duw yn cymryd Elias i'r nefoedd
1 Roedd yr ARGLWYDD ar fin cymryd Elias i'r nefoedd mewn chwyrlwynt. Roedd Elias ac Eliseus yn gadael Gilgal,
2 a dyma Elias yn dweud wrth Eliseus, “Aros di yma. Mae'r ARGLWYDD eisiau i mi fynd ymlaen i Bethel. Ref ” Ond dyma Eliseus yn ateb, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a tithau'n fyw, wna i ddim dy adael di.” A dyma nhw'n mynd i Bethel.
3 Daeth aelodau o urdd proffwydi Bethel allan i gyfarfod Eliseus, a dweud wrtho, “Wyt ti'n gwybod fod yr ARGLWYDD am gymryd dy feistr oddi arnat ti heddiw?” “Ydw, dw i'n gwybod, ond peidiwch sôn am y peth,” meddai Eliseus.
4 Yna dyma Elias yn dweud wrth Eliseus, “Aros di yma. Mae'r ARGLWYDD eisiau i mi fynd i Jericho. Ref ” Ond dyma Eliseus yn ateb, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a tithau'n fyw, wna i ddim dy adael di.” A dyma nhw'n dod i Jericho.
5 Daeth aelodau o urdd proffwydi Jericho at Eliseus, a dweud wrtho, “Wyt ti'n gwybod fod yr ARGLWYDD am gymryd dy feistr oddi arnat ti heddiw?” “Ydw, dw i'n gwybod, ond peidiwch sôn am y peth,” meddai Eliseus.
6 Yna dyma Elias yn dweud wrth Eliseus, “Aros di yma. Mae'r ARGLWYDD eisiau i mi fynd at afon Iorddonen. Ref ” Ond dyma Eliseus yn ateb, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a tithau'n fyw, wna i ddim dy adael di.” A dyma'r ddau'n mynd yn eu blaenau.
7 Roedd pum deg aelod o'r urdd o broffwydi wedi'u dilyn nhw, a phan oedd y ddau'n sefyll ar lan yr afon, roedd y proffwydi yn eu gwylio nhw o bell.
8 Dyma Elias yn cymryd ei glogyn a'i rolio, a tharo'r dŵr gydag e. Dyma lwybr yn agor drwy'r afon, a dyma'r ddau'n croesi drosodd ar dir sych.
9 Yna ar ôl iddyn nhw groesi, dyma Elias yn gofyn i Eliseus, “Dwed wrtho i be ga i wneud i ti cyn i mi gael fy nghymryd oddi wrthot ti?” “Plîs gad i mi gael siâr ddwbl Ref o dy ysbryd di,” meddai Eliseus.
10 Atebodd Elias, “Ti wedi gofyn am rhywbeth anodd. Os byddi di'n fy ngweld i'n cael fy nghymryd i ffwrdd, fe'i cei. Os ddim, gei di ddim.”
11 Yna wrth iddyn nhw fynd yn eu blaenau yn sgwrsio dyma gerbyd o fflamau tân yn cael ei dynnu gan geffylau o dân yn dod rhyngddyn nhw, a chipio Elias i fyny i'r nefoedd mewn chwyrlwynt.
12 Gwelodd Eliseus e, a dyma fe'n gweiddi, “Fy nhad, fy nhad! Ti oedd arfau a byddin Israel!” Ref Yna diflannodd o'i olwg. A dyma Eliseus yn gafael yn ei ddillad a'u rhwygo'n ddau.
13 Dyma fe'n codi clogyn Elias, oedd wedi syrthio oddi arno, a mynd yn ôl at lan afon Iorddonen.
14 Gafaelodd yn y clogyn oedd wedi syrthio oddi ar Elias, a gofyn, “Ydy'r ARGLWYDD, Duw Elias, wedi'n gadael hefyd?” Yna dyma fe'n taro'r dŵr gyda'r clogyn a dyma lwybr yn agor drwy'r afon, a chroesodd Eliseus i'r ochr arall.
15 Pan welodd proffwydi Jericho beth ddigwyddodd, dyma nhw'n dweud, “Mae ysbryd Elias wedi disgyn ar Eliseus.” A dyma nhw'n mynd ato a plygu i lawr o'i flaen,
16 a dweud, “Edrych syr, mae gynnon ni bum deg o ddynion abl yma. Gad iddyn nhw fynd i chwilio am dy feistr, rhag ofn bod y gwynt cryf anfonodd yr ARGLWYDD wedi'i ollwng ar ben rhyw fynydd neu yn rhyw gwm.” Atebodd Eliseus, “Na, peidiwch a'u hanfon nhw.”
17 Ond buon nhw'n pwyso arno nes iddo ddechrau teimlo'n annifyr. Felly yn y diwedd dyma fe'n cytuno, a dyma'r proffwydi'n anfon y dynion i chwilio am Elias. Buon nhw'n chwilio am dri diwrnod ond methu cael hyd iddo.
18 Arhosodd Eliseus yn Jericho nes iddyn nhw ddod yn ôl ato. A dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Wel? Wnes i ddim dweud wrthoch chi am beidio mynd?”
Eliseus yn gwneud gwyrthiau
19 Dyma bobl y dre yn dweud wrth Eliseus, “Mae'r dre yma mewn safle da, fel ti'n gweld, syr. Ond mae'r dŵr yn wael a dydy'r cnydau ddim yn tyfu.”
20 “Dewch â jar newydd i mi, a rhoi halen ynddo,” meddai Eliseus. Felly dyma nhw'n gwneud hynny,
21 a dyma Eliseus yn mynd at lygad y ffynnon a thaflu'r halen i mewn iddi; yna dweud, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Dw i'n puro'r dŵr yma. Fydd e ddim yn achosi marwolaeth nac anffrwythlondeb byth eto.’”
22 Ac mae'r dŵr yn bur hyd heddiw, yn union fel roedd Eliseus wedi dweud.
23 Aeth Eliseus o Jericho yn ôl i Bethel. Pan oedd e ar ei ffordd dyma griw o fechgyn ifanc yn dod allan o'r dre a dechrau gwneud hwyl am ei ben. Roedden nhw'n gweiddi, “Bacha hi, Ref y moelyn! Bacha hi, y moelyn!”
24 Dyma fe'n troi rownd a rhythu arnyn nhw, a galw ar yr ARGLWYDD i'w melltithio nhw. A dyma ddwy arth yn dod allan o'r goedwig a llarpio pedwar deg dau o'r bechgyn.
25 Aeth Eliseus ymlaen i Fynydd Carmel, ac wedyn yn ôl i Samaria.
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity