|
|
(2 Cronicl 34:3-7,29-33)
1 Dyma'r brenin Joseia yn galw arweinwyr Jwda i gyd at ei gilydd yn Jerwsalem. 2 Yna dyma fe'n mynd i'r deml, ac roedd pobl Jwda a Jerwsalem, yr offeiriaid a'r proffwydi gydag e. Roedd pawb yno, o'r ifancaf i'r hynaf. Yna dyma sgrôl yr ymrwymiad oedd wedi'i darganfod yn y deml yn cael ei darllen yng nghlyw pawb. 3 A dyma'r brenin yn sefyll wrth y piler ac addo o flaen yr ARGLWYDD, i wneud ei orau glas i ddilyn yr ARGLWYDD a chadw'i orchmynion, ei ofynion, a'i reolau. Roedd yn addo cadw amodau'r ymrwymiad oedd yn y sgrôl. A dyma'r bobl yn sefyll i ddangos eu bod yn cytuno. 4 Yna dyma'r brenin yn gorchymyn i Chilceia'r archoffeiriad a'r offeiriaid cynorthwyol a'r porthorion i gymryd allan o'r deml bopeth oedd yn cael ei ddefnyddio i addoli Baal a'r dduwies Ashera a'r sêr. A dyma fe'n llosgi'r cwbl y tu allan i Jerwsalem ar gaeau teras Cidron, cyn mynd â'r lludw i Bethel. 5 Yna dyma fe'n sacio'r offeiriaid ffals oedd wedi'u penodi gan frenhinoedd Jwda i losgi arogldarth ar yr allorau lleol yn nhrefi Jwda o gwmpas Jerwsalem (llosgi arogldarth i Baal, ac i'r haul, lleuad, planedau a sêr). 6 Dyma fe hefyd yn symud polyn y dduwies Ashera o'r deml, a mynd ag e allan o Jerwsalem i Ddyffryn Cidron, a'i losgi yno. Cafodd beth oedd ar ôl ei falu yn llwch mân, yna cafodd y llwch ei daflu i'r fynwent gyhoeddus. 7 Wedyn, dyma fe'n chwalu ystafelloedd y dynion oedd yn buteinwyr cwltig yn y deml, wrth ymyl lle roedd y merched yn gwau llenni ar gyfer Ashera. 8 Dyma fe'n symud yr offeiriaid i gyd o drefi Jwda, a difetha'r holl allorau lleol lle buon nhw'n llosgi arogldarth – o Geba i Beersheba. Wedyn, dyma fe'n chwalu'r allorau i'r gafr-ddemoniaid oedd wrth giât Josua, rheolwr y ddinas – ar y chwith wrth fynd drwy'r giât i'r ddinas. 9 Doedd offeiriaid yr allorau lleol ddim yn cael gwasanaethu wrth allor yr ARGLWYDD yn Jerwsalem. Ond roedden nhw'n cael bwyta'r bara heb furum ynddo gyda'u cyd-offeiriaid. 10 Dyma fe'n difetha'r Toffet oedd yn nyffryn Ben-hinnom,Croes rhag i neb losgi ei fab neu ferch yn aberth i'r duw Molech. 11 A dyma fe'n cael gwared â'r ceffylau oedd brenhinoedd Jwda wedi'u cysegru i'r haul (roedden nhw yn yr iard, wrth y fynedfa i'r deml, wrth ymyl tŷ Nathan-melech, swyddog y palas), a llosgi cerbydau'r haul hefyd. 12 Yna dyma fe'n chwalu'r allorau oedd brenhinoedd Jwda wedi'u codi ar y to uwchben llofft Ahas, a'r allorau roedd Manasse wedi'u hadeiladu yn y ddwy iard yn y deml. Malodd nhw'n lwch mân a thaflu'r llwch i Ddyffryn Cidron. 13 Wedyn chwalu'r allorau lleol paganaidd oedd i'r dwyrain o Jerwsalem ac i'r de o Fynydd y Llygredd, y rhai oedd wedi'u hadeiladu gan y Brenin Solomon i'r duwiau ffiaidd, Ashtart (duwies Sidon), Chemosh (duw Moab), a Milcom (duw pobl Ammon). 14 Dyma Joseia'n malu'r colofnau cysegredig, torri i lawr bolion y dduwies Ashera a gwasgaru esgyrn dynol lle roedden nhw'n arfer bod. 15 Dyma fe hyd yn oed yn chwalu'r allor oedd Jeroboam fab Nebat wedi'i chodi yn Bethel (yr un wnaeth i Israel bechu). Tynnodd yr allor a'r man sanctaidd i lawr a'u llosgi. Malodd yr allor leol yn llwch mân a llosgi polion y dduwies Ashera. 16 Pan drôdd rownd dyma Joseia'n sylwi fod beddau ar ochr y bryn. Felly dyma fe'n anfon dynion i nôl esgyrn dynol o'r beddau a'u llosgi nhw ar yr allor, i'w llygru hi. A dyna sut daeth y neges roddodd yr ARGLWYDD drwy ei broffwyd yn wir, pan oedd Jeroboam yn sefyll wrth yr allor yn ystod rhyw Ŵyl. Ref Yna dyma'r Brenin Joseia yn digwydd sylwi ar fedd y proffwyd oedd wedi dweud y byddai hyn i gyd yn digwydd. 17 “Beth ydy'r garreg fedd yna?” gofynnodd. A dyma bobl Bethel yn ateb, “Dyna fedd y proffwyd ddaeth o Jwda a proffwydo'n union beth rwyt ti wedi'i wneud ar allor Bethel.” 18 A dyma Joseia'n dweud, “Gadwch lonydd iddo fe. Does neb i ymyrryd â'i esgyrn e.” Felly dyma nhw'n gadael llonydd i'w esgyrn e, ac esgyrn y proffwyd arall o ardal Samaria oedd wedi'i gladdu yna. Ref 19 Roedd Joseia hefyd wedi cael gwared â'r temlau ar allorau lleol oedd yn nhrefi Samaria. Brenhinoedd Israel oedd wedi codi'r rheiny, ac wedi digio'r ARGLWYDD drwy wneud hynny. Gwnaeth Joseia yr un peth i'r allorau hynny ag roedd wedi'i wneud i'r allor leol yn Bethel. 20 Dyma fe'n lladd offeiriaid y temlau, a llosgi esgyrn dynol ar yr allorau. Yna, ar ôl gwneud hyn i gyd, dyma Joseia'n mynd yn ôl i Jerwsalem.(2 Cronicl 35:1-19)
21 Dyma'r brenin Joseia yn gorchymyn i'r bobl, “Dych chi i ddathlu Pasg yr ARGLWYDD eich Duw, yn union fel mae'n dweud yn sgrôl yr ymrwymiad yma.” 22 Doedd y Pasg ddim wedi cael ei gadw fel yma ers cyfnod y barnwyr – dim drwy holl gyfnod brenhinoedd Israel a Jwda. 23 Roedd Joseia wedi bod yn frenin am un deg wyth o flynyddoedd pan gynhaliwyd y Pasg yma i'r ARGLWYDD yn Jerwsalem.(2 Cronicl 35:20—36:1)
28 Mae gweddill hanes Joseia, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda. 29 Yn ystod cyfnod Joseia roedd Pharo Necho, brenin yr Aifft, wedi mynd at afon Ewffrates i helpu brenin Asyria. Dyma Joseia yn arwain ei fyddin allan i ymladd yn ei erbyn, ond cafodd Joseia ei ladd yn y frwydr yn Megido gan Pharo Necho. 30 Aeth ei weision â'i gorff yn ôl o Megido i Jerwsalem mewn cerbyd rhyfel, a chafodd ei gladdu yn ei fedd ei hun. Yna dyma bobl y wlad yn cymryd Jehoachas, mab Joseia, a'i eneinio'n frenin yn lle ei dad.(2 Cronicl 36:2-4)
31 Roedd Jehoachas yn ddau ddeg tri pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am dri mis. Enw ei fam oedd Chamwtal (merch Jeremeia o Libna Ref ). 32 Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD fel ei hynafiaid o'i flaen. 33 Dyma Pharo Necho yn ei ddal a'i gadw yn y ddalfa yn Ribla Ref yn ardal Chamath, a dod â'i deyrnasiad yn Jerwsalem i ben. Ar ôl gosod treth ar y wlad o dair tunnell a chwarter o arian a tri deg cilogram o aur, 34 dyma Pharo Necho'n gwneud Eliacim (mab arall i Joseia) yn frenin yn lle ei dad, a newid ei enw i Jehoiacim. Yna cymryd Jehoachas i lawr i'r Aifft, a dyna lle buodd hwnnw farw. 35 Roedd Jehoiacim yn talu'r arian a'r aur oedd y Pharo yn ei hawlio, ond i wneud hynny roedd rhaid iddo drethu'r wlad i gyd. Casglodd yr arian i dalu Pharo Necho drwy godi treth oedd yn seiliedig ar faint o eiddo oedd gan bob un.(2 Cronicl 36:5)
36 Roedd Jehoiacim yn ddau ddeg pump oed pan gafodd ei wneud yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am un deg un o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Sefwda (merch Pedaia o dref Rwma). 37 Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD fel ei hynafiaid o'i flaen.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity