2 SAMUEL 1
Dafydd yn clywed fod Saul wedi marw
1 Roedd Saul wedi marw, a Dafydd wedi mynd yn ôl i Siclag ar ôl gorchfygu'r Amaleciaid. Roedd wedi bod yno am ddeuddydd
2 pan ddaeth dyn ato y diwrnod wedyn o wersyll Saul. Roedd y dyn wedi rhwygo'i ddillad a rhoi pridd ar ei ben. Dyma fe'n dod at Dafydd a mynd ar ei liniau ac ymgrymu o'i flaen.
3 “O ble wyt ti wedi dod?” gofynnodd Dafydd. A dyma fe'n ateb, “Wedi dianc o wersyll Israel ydw i.”
4 “Dwed wrtho i, beth sydd wedi digwydd?” holodd Dafydd. A dyma'r dyn yn dweud, “Roedd rhaid i filwyr Israel ffoi, a chafodd llawer ohonyn nhw eu hanafu a'u lladd. Mae Saul a'i fab Jonathan wedi'u lladd hefyd!”
5 A dyma Dafydd yn gofyn iddo, “Sut wyt ti'n gwybod fod Saul a Jonathan wedi marw?”
6 A dyma fe'n ateb, “Rôn i ar Fynydd Gilboa, a dyma fi'n digwydd dod ar draws Saul yn pwyso ar ei waywffon. Roedd cerbydau rhyfel a marchogion y gelyn yn dod yn agos ato.
7 Trodd rownd, a dyma fe'n fy ngweld i a galw arna i. ‘Dyma fi,’ meddwn i.
8 ‘Pwy wyt ti?’ gofynnodd. A dyma fi'n ateb, ‘Amaleciad ydw i.’
9 A dyma fe'n crefu arna i, ‘Tyrd yma a'm lladd i. Dw i'n wan ofnadwy, a prin yn dal yn fyw.’
10 Felly dyma fi'n mynd draw ato a'i ladd, achos roeddwn i'n gweld ei fod wedi'i anafu'n ddrwg, ac ar fin marw. Yna dyma fi'n cymryd ei goron a'i freichled, a dod â nhw yma i ti syr.”
11 Dyma Dafydd yn rhwygo'i ddillad; a gwnaeth y dynion oedd gydag e yr un fath.
12 Buon nhw'n galaru, yn wylo ac ymprydio drwy'r dydd dros Saul a'i fab Jonathan, a dros fyddin yr ARGLWYDD, pobl Israel oedd wedi cael eu lladd yn y frwydr.
13 Gofynnodd Dafydd i'r dyn ifanc oedd wedi dod â'r neges iddo, “Un o ble wyt ti?” “Mab i Amaleciad wnaeth symud yma i fyw ydw i,” atebodd y dyn.
14 “Sut bod gen ti ddim ofn lladd y dyn roedd yr ARGLWYDD wedi'i eneinio'n frenin?” meddai Dafydd.
15 Yna galwodd un o'i filwyr draw, a dweud wrtho, “Tyrd yma. Lladd e!” A dyma'r milwr yn ei ladd yn y fan a'r lle.
16 Roedd Dafydd wedi dweud wrtho, “Arnat ti mae'r bai dy fod ti'n mynd i farw. Ti wedi tystio yn dy erbyn dy hun drwy ddweud mai ti laddodd yr un roedd yr ARGLWYDD wedi'i eneinio'n frenin.”
Cân Dafydd, er cof am Saul a Jonathan
17 Dyma Dafydd yn cyfansoddi'r gân yma i alaru am Saul a'i fab Jonathan.
18 (Dwedodd fod pobl Jwda i'w dysgu hi – Cân y Bwa. Mae hi i'w chael yn Sgrôl Iashar): Ref
19 Mae ysblander Israel yn gorwedd yn farw ar ei bryniau.
O, mae'r arwyr dewr wedi syrthio!
20 Peidiwch dweud am y peth yn Gath,
peidiwch sôn am hyn ar strydoedd Ashcelon Ref –
rhag i ferched y Philistiaid orfoleddu,
a merched y paganiaid ddathlu.
21 Boed dim mwy o wlith a glaw ar fynyddoedd Gilboa!
Dim mwy o gnydau'n tyfu yno!
Dyna lle cafodd tarianau'r arwyr eu baeddu;
mae tarian Saul yn dirywio, heb ei rhwbio ag olew.
22 Roedd bwa saeth Jonathan bob amser yn tynnu gwaed
ac yn taro cnawd milwyr y gelyn.
Doedd cleddyf Saul byth yn dod yn ôl yn lân.
23 Saul a Jonathan – mor annwyl, mor boblogaidd!
Gyda'i gilydd wrth fyw ac wrth farw!
Yn gyflymach nag eryrod,
yn gryfach na llewod.
24 Ferched Israel, wylwch am Saul.
Fe oedd yn rhoi dillad drud i chi
a thlysau aur i'w haddurno.
25 Mae'r arwyr dewr wedi syrthio'n y frwydr.
Mae Jonathan yn gorwedd yn farw ar y bryniau.
26 Dw i'n galaru ar dy ôl di Jonathan, fy mrawd.
Roeddet ti mor annwyl i mi.
Roedd dy gariad Ref di ata i mor sbesial,
roedd yn well na chariad merched.
27 O, mae'r arwyr dewr wedi syrthio;
mae'r arfau rhyfel wedi mynd!
I'r pen