2 SAMUEL 2
Dafydd yn cael ei wneud yn frenin Jwda
1 Beth amser wedyn, dyma Dafydd yn gweddïo ar yr ARGLWYDD a gofyn, “Ddylwn i symud i fyw i un o drefi Jwda?” A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Ie, dos!”. “I ba un?” meddai Dafydd. “I Hebron,” Ref oedd yr ateb.
2 Felly aeth Dafydd yno, gyda'i ddwy wraig, Achinoam o Jesreel Ref ac Abigail, gweddw Nabal o Carmel.
3 A dyma'r dynion oedd wedi bod gydag e, a'u teuluoedd, yn mynd gyda Dafydd i fyw yn y trefi yn ardal Hebron.
4 Yna dyma ddynion Jwda yn dod ac eneinio Dafydd yn frenin ar bobl Jwda.
Clywodd Dafydd mai pobl Jabesh yn Gilead oedd wedi claddu Saul.
5 Felly dyma fe'n anfon neges atyn nhw, “Bendith yr ARGLWYDD arnoch chi am fod mor deyrngar i'ch meistr Saul, a'i gladdu.
6 Boed i'r ARGLWYDD fod yn garedig a ffyddlon i chi. Dw i hefyd yn mynd i'ch gwobrwyo chi am wneud hyn.
7 Peidiwch bod ag ofn. Byddwch yn ddewr! Er bod eich meistr, Saul, wedi marw, mae pobl Jwda wedi fy eneinio i yn frenin arnyn nhw.”
Ish-bosheth yn cael ei wneud yn frenin Israel
8 Yn y cyfamser, roedd Abner fab Ner, Ref un o gapteiniaid byddin Saul, wedi cymryd Ish-bosheth, mab Saul, a mynd ag e drosodd i Machanaîm. Ref
9 Yno roedd wedi'i wneud e'n frenin ar Israel gyfan – gan gynnwys ardal Gilead, pobl Asher, Jesreel, Effraim a Benjamin.
10 Roedd Ish-bosheth, mab Saul, yn bedwar deg oed pan ddaeth yn frenin ar Israel. Bu'n frenin arnyn nhw am ddwy flynedd. Ond roedd pobl Jwda yn dilyn Dafydd.
11 Bu Dafydd yn frenin yn Hebron am saith mlynedd a hanner.
Rhyfel rhwng Israel a Jwda
12 Yna dyma Abner fab Ner a swyddogion milwrol Ish-bosheth, mab Saul, yn mynd o Machanaîm i Gibeon. Ref
13 A dyma Joab, mab Serwia, Ref a swyddogion milwrol Dafydd yn mynd allan i'w cyfarfod nhw. Dyma'r ddau grŵp yn aros, un bob ochr i'r pwll yn Gibeon.
14 Dyma Abner yn gweiddi draw at Joab, “Gad i rai o'r milwyr ifanc ymladd yn erbyn ei gilydd o'n blaenau ni.” A dyma Joab yn cytuno.
15 Felly dyma nhw'n cyfri un deg dau o lwyth Benjamin ar ochr Ish-bosheth, ac un deg dau o swyddogion Dafydd.
16 Wrth reslo gyda'i gilydd dyma pob un yn gwthio'i gleddyf i ochr ei wrthwynebydd, a dyma nhw i gyd yn syrthio'n farw. (Dyna pam maen nhw'n galw'r lle hwnnw yn Gibeon yn ‛Faes y Llafnau‛.)
17 Roedd yr ymladd yn galed y diwrnod hwnnw, a chafodd Abner a byddin Israel eu trechu gan filwyr Dafydd.
18 Roedd tri mab Serwia Ref yno, sef Joab, Abishai ac Asahel. Roedd Asahel yn gallu rhedeg mor gyflym â gasél,
19 a dyma fe'n mynd ar ôl Abner. Roedd yn gwbl benderfynol o'i ddal.
20 Dyma Abner yn troi i edrych yn ôl a galw arno, “Ai ti ydy e Asahel?” “Ie, fi!” meddai Asahel.
21 “Dos ar ôl rhywun arall. Dal un o'r milwyr ifanc a chymryd ei arfau e,” meddai Abner wrtho. Ond doedd Asahel ddim yn fodlon rhoi'r gorau iddi.
22 Galwodd Abner arno eto, “Tro yn ôl! Does gen i ddim eisiau dy ladd di. Sut allwn i wynebu Joab dy frawd?”
23 Ond roedd Asahel yn gwrthod stopio. Felly dyma Abner yn ei daro yn ei fol â bôn ei waywffon, nes iddi ddod allan drwy'i gefn. Syrthiodd Asahel yn farw yn y fan a'r lle. Roedd pawb aeth heibio lle roedd Asahel wedi marw yn sefyll yn syn.
24 Yna dyma Joab ac Abishai yn mynd ar ôl Abner. Erbyn iddi nosi roedden nhw wedi cyrraedd bryn Amma sydd gyferbyn â Giach, i gyfeiriad anialwch Gibeon.
25 Roedd dynion Benjamin wedi casglu at ei gilydd yno ac yn sefyll gydag Abner yn un grŵp ar ben y bryn.
26 A dyma Abner yn gweiddi ar Joab, “Ydyn ni'n mynd i ddal ati i ladd ein gilydd am byth? Os daliwn ni ati bydd pethau yn ofnadwy o chwerw yn y diwedd. Dwed wrth dy ddynion am stopio mynd ar ôl eu brodyr!”
27 Dyma Joab yn ei ateb, “Petaet ti heb ddweud hyn, mor sicr â bod Duw yn fyw, byddai'r dynion wedi dal ati i fynd ar eich ôl chi drwy'r nos!”
28 Yna dyma Joab yn chwythu'r corn hwrdd, Ref a dyma nhw'n stopio mynd ar ôl Israel, a rhoi'r gorau i'r ymladd.
29 Y noson honno dyma Abner a'i ddynion yn croesi Dyffryn Iorddonen, a martsio yn eu blaenau drwy'r bore wedyn nes cyrraedd yn ôl i Machanaîm.
30 Roedd Joab wedi stopio mynd ar ôl Abner, a dyma fe'n galw'i filwyr at ei gilydd. Dim ond un deg naw o ddynion Dafydd oedd wedi'u colli, ar wahân i Asahel.
31 Ond roedd milwyr Dafydd wedi rhoi crasfa go iawn i ddynion Benjamin, sef byddin Abner – roedd tri chant chwe deg ohonyn nhw wedi'u lladd.
32 Dyma Joab a'i filwyr yn cymryd corff Asahel a'i gladdu ym medd ei dad yn Bethlehem. Wedyn, dyma nhw'n teithio drwy'r nos a chyrraedd yn ôl i Hebron wrth iddi wawrio.
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity