2 SAMUEL 23
Geiriau olaf Dafydd
1 Dyma eiriau olaf Dafydd:
“Neges Dafydd fab Jesse.
Neges yr un gafodd ei godi'n arweinydd,
a'i eneinio gan Dduw Jacob.
Neges hoff ganwr Israel.
2 Roedd Ysbryd yr
ARGLWYDD yn siarad trwof fi;
ei neges e oeddwn i'n ei rhannu.
3 Mae Duw Israel wedi siarad,
a dyma mae Craig Israel yn ei ddweud:
‘Mae'r un sy'n llywodraethu'n deg,
gan roi parch i Dduw,
4 fel golau haul ar fore braf digwmwl
yn gwneud i'r glaswellt dyfu o'r ddaear
a sgleinio ar ôl y glaw.’
5 Ie, dyna sut mae Duw'n gweld fy nheulu!
Mae wedi gwneud ymrwymiad am byth i mi.
Mae'r cwbl wedi'i drefnu – mae'n siŵr o ddigwydd!
Bydd yr
ARGLWYDD yn gwneud i mi lwyddo
ac yn dod â'r cwbl dw i eisiau yn wir.
6 Ond mae dynion drwg fel drain
sy'n dda i ddim ond i'w torri i lawr.
Does neb yn gafael ynddyn nhw â'u dwylo,
7 dim ond gydag arf haearn neu goes gwaywffon.
Mae tân yn eu llosgi'n ulw yn y fan a'r lle!”
Milwyr dewr Dafydd
(1 Cronicl 11:10-41)
8 Dyma enwau milwyr dewr Dafydd:
- Iashofam Ref yr Hachmoniad oedd pennaeth ‛Y Tri‛. Roedd e wedi lladd wyth gant o ddynion gyda'i waywffon mewn un frwydr.
- 9 Yna'r nesa ato fe o'r ‛Tri Dewr‛ oedd Eleasar fab Dodo o deulu Achoach. Roedd e gyda Dafydd yn herio'r Philistiaid pan wnaethon nhw gasglu i ryfel yn Pas-dammîm. Roedd gweddill byddin Israel wedi ffoi,
10 ond dyma fe'n sefyll ei dir ac ymladd yn erbyn y Philistiaid. Roedd ei law wedi blino gymaint, ond wnaeth e ddim gollwng ei gleddyf. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth fawr iddo y diwrnod hwnnw. Yna daeth y fyddin yn ôl, ond dim ond i ddwyn pethau oddi ar y cyrff!
- 11 Y nesaf wedyn oedd Samma fab Age o deulu Harar. Un tro roedd byddin y Philistiaid wedi casglu yn Lechi lle roedd cae o ffacbys. Dyma fyddin Israel yn ffoi o flaen y Philistiaid,
12 ond roedd Samma wedi sefyll ei dir yng nghanol y cae, i'w amddiffyn. Roedd wedi ymosod ar y Philistiaid, a dyma'r ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth fawr iddo.
13 Un tro, adeg y cynhaeaf, aeth tri o'r ‛Tri deg‛ i lawr at Dafydd i Ogof Adwlam. Ref Roedd mintai o Philistiaid yn gwersylla yn Nyffryn Reffaïm. Ref
14 Roedd Dafydd yn y gaer ar y pryd, tra oedd prif wersyll garsiwn y Philistiaid yn Bethlehem.
15 Un diwrnod roedd syched ar Dafydd, a dyma fe'n dweud, “Mor braf fyddai cael diod o ddŵr o'r ffynnon sydd wrth giât Bethlehem!”
16 Felly dyma'r ‛Tri Dewr‛ yn mynd drwy ganol gwersyll y Philistiaid a chodi dŵr o'r ffynnon wrth giât Bethlehem. Dyma nhw'n dod â'r dŵr i Dafydd, ond gwrthododd ei yfed. A dyma fe'n ei dywallt ar lawr yn offrwm i'r ARGLWYDD,
17 a dweud, “ ARGLWYDD, allwn i byth wneud y fath beth! Byddai fel yfed gwaed y dynion wnaeth fentro'u bywydau i'w nôl.” Roedd yn gwrthod ei yfed. (Dyna un enghraifft o beth wnaeth y ‛Tri Dewr‛.)
- 18 Abishai, brawd Joab a mab Serwia, oedd pennaeth y ‛Tri deg‛. Roedd e wedi lladd tri chant o ddynion gyda'i waywffon un tro. Roedd e'n enwog fel y Tri.
19 A dweud y gwir, roedd yn fwy enwog na nhw, a fe oedd eu capten nhw. Ond doedd e ddim yn un o'r ‛Tri‛.
- 20 Roedd Benaia fab Jehoiada o Cabseël Ref yn ddyn dewr hefyd. Roedd e wedi gwneud llawer o bethau dewr. Roedd wedi lladd dau o arwyr Moab. Roedd wedi mynd i lawr a lladd llew oedd wedi syrthio i bydew ar ddiwrnod o eira.
21 Roedd hefyd wedi lladd cawr o ddyn o'r Aifft. Roedd gan yr Eifftiwr waywffon yn ei law, ond dim ond pastwn oedd gan Benaia. Dyma fe'n ymosod arno, dwyn y waywffon oddi ar yr Eifftiwr, a'i ladd gyda hi.
22 Pethau fel yna wnaeth Benaia fab Jehoiada yn enwog fel y ‛Tri Dewr‛.
23 Roedd y Tri deg arwr yn meddwl yn uchel ohono, er nad oedd yn un o'r ‛Tri‛. A dyma Dafydd yn ei wneud yn bennaeth ar ei warchodwyr personol.
24 Yna gweddill y ‛Tri deg‛ oedd:
- Asahel, brawd Joab,
- Elchanan fab Dodo o Bethlehem,
- 25 Shamma o Charod,
- Elicâ o Charod,
- 26 Chelets o Pelet,
- Ira fab Iccesh o Tecoa,
- 27 Abieser o Anathoth,
- Mefwnnai o Chwsha,
- 28 Salmon o deulu Achoach,
- Maharai o Netoffa,
- 29 Cheleb fab Baana o Netoffa,
- Itai fab Ribai o Gibea yn Benjamin,
- 30 Benaia o Pirathon,
- Hidai o Wadi Gaash,
- 31 Abi-albon o Arba,
- Asmafeth o Bachwrîm,
- 32 Eliachba o Shaalbon,
- Meibion Iashen,
- Jonathan fab
33 Shamma o Harar,
- Achîam fab Sharar o Harar,
- 34 Eliffelet fab Achasbai o Maacha,
- Eliam fab Achitoffel o Gilo,
- 35 Chetsrai o Carmel, Ref
- Paarai o Arba,
- 36 Igal fab Nathan o Soba,
- Bani o Gad,
- 37 Selec o Ammon,
- Nachrai o Beëroth (oedd yn cario arfau Joab, mab Serwia),
- 38 Ira yr Ithriad,
- Gareb yr Ithriad,
- 39 ac Wreia yr Hethiad.
(Tri deg saith i gyd.)
I'r pen