2 SAMUEL 3
1 Aeth y rhyfel rhwng pobl Saul a phobl Dafydd ymlaen am amser hir. Roedd ochr Dafydd yn mynd yn gryfach ac yn gryfach, a dilynwyr Saul yn mynd yn wannach.
Meibion Dafydd gafodd eu geni yn Hebron
(1 Cronicl 3:1-4)
2 Cafodd Dafydd nifer o feibion pan oedd yn byw yn Hebron.
- Amnon oedd yr hynaf, plentyn Achinoam o Jesreel.
- 3 Yr ail oedd Cileab, plentyn Abigail o Carmel, gweddw Nabal.
- Y trydydd oedd Absalom, mab Maacha oedd yn ferch i Talmai, brenin Geshwr. Ref
- 4 Y pedwerydd oedd Adoneia, mab Haggith.
- Y pumed oedd Sheffateia mab Abital.
- 5 Y chweched oedd Ithream, plentyn Egla, gwraig arall i Dafydd.
Cafodd y bechgyn yma i gyd eu geni pan oedd Dafydd yn byw yn Hebron.
Abner yn newid ochr a chefnogi Dafydd
6 Wrth i'r rhyfel fynd yn ei flaen rhwng pobl Saul a phobl Dafydd, roedd Abner yn ennill mwy a mwy o ddylanwad iddo'i hun ar ochr Saul.
7 Pan oedd Saul yn fyw roedd ganddo bartner Ref o'r enw Ritspa, merch Aia. A dyma Ish-bosheth, mab Saul, yn cyhuddo Abner a gofyn iddo, “Pam wnest ti gysgu gyda phartner fy nhad?”
8 Gwylltiodd Abner pan ddwedodd hynny, ac meddai, “Ai rhyw gi o Jwda ydw i? Hyd yn hyn dw i wedi aros yn ffyddlon i deulu Saul dy dad, a'i frodyr a'i ffrindiau; a wnes i ddim dy fradychu di i ochr Dafydd. A beth wyt ti'n wneud? – fy nghyhuddo i o bechu gyda'r wraig yna!
9 Boed i Dduw ddial arna i os na wna i dros Dafydd yr union beth mae'r ARGLWYDD wedi'i addo iddo.
10 Bydd y frenhiniaeth yn cael ei chymryd oddi ar deulu Saul. Bydda i'n helpu i wneud Dafydd yn frenin ar Israel a Jwda, yr holl ffordd o Dan yn y gogledd i Beersheba Ref yn y de.”
11 Wnaeth Ish-bosheth ddim ei ateb yn ôl o gwbl, am fod ganddo ofn Abner.
12 Yna dyma Abner yn anfon neges at Dafydd. “Pwy sy'n rheoli'r wlad yma go iawn? Gwna di gytundeb gyda mi, a gwna i helpu i droi Israel gyfan atat ti.”
13 Atebodd Dafydd, “Iawn, ond ar un amod. Tyrd â Michal merch Saul gyda ti. Cei ddod ata i wedyn.”
14 Anfonodd Dafydd neges at Ish-bosheth, mab Saul. “Rho fy ngwraig Michal yn ôl i mi. Gwnes i gasglu blaengrwyn cant o Philistiaid i'w chael hi.Croes”
15 Felly dyma Ish-bosheth yn gyrru dynion i'w chymryd hi oddi ar ei gŵr, Paltiel fab Laish.
16 A dyma'i gŵr yn ei dilyn hi yn wylo yr holl ffordd i Bachwrîm. Ref Ond wedi i Abner ddweud wrtho am fynd adre, dyma fe'n troi'n ôl.
17 Yn y cyfamser, roedd Abner wedi cael gair gydag arweinwyr Israel. “Ers amser nawr, dych chi wedi bod eisiau cael Dafydd yn frenin.
18 Wel, gwnewch hynny! Mae'r ARGLWYDD wedi dweud amdano, ‘Dw i'n mynd i ddefnyddio Dafydd i achub pobl Israel oddi wrth y Philistiaid ac oddi wrth eu gelynion i gyd.’”
19 Yna aeth i gael gair gyda phobl Benjamin. Ref
Yna dyma Abner yn mynd i Hebron i ddweud wrth Dafydd beth oedd Israel a llwyth Benjamin wedi'i gytuno.
20 Aeth â dau ddeg o ddynion gydag e, a dyma Dafydd yn cynnal gwledd iddyn nhw.
21 Dwedodd Abner wrth Dafydd, “Gad i mi fynd i gasglu Israel gyfan at fy meistr y brenin. Cân nhw wneud cytundeb gyda ti. Wedyn byddi'n frenin ar y cwbl roeddet ti wedi gobeithio amdano.” A dyma Dafydd yn gadael i Abner fynd yn heddychlon.
Joab yn dial ar Abner
22 Yna dyma Joab a rhai o ddynion Dafydd yn cyrraedd yn ôl. Roedden nhw wedi bod ar gyrch ac wedi dod â llawer o bethau yn ôl gyda nhw. (Doedd Abner ddim yn Hebron erbyn hynny, am fod Dafydd wedi gadael iddo fynd yn heddychlon.)
23 Pan ddaeth Joab a'i filwyr yn ôl, clywodd fod Abner fab Ner wedi bod gyda'r brenin, a'i fod wedi gadael iddo fynd yn heddychlon.
24 Aeth Joab at y brenin a dweud, “Beth wyt ti'n wneud? Mae Abner wedi bod yma gyda ti, a ti wedi gadael iddo fynd!
25 Ti'n gwybod sut un ydy Abner. Dod i ysbïo arnat ti oedd e! Ffeindio allan beth ydy dy symudiadau di, a beth wyt ti'n ei wneud!”
26 Ar ôl gadael Dafydd dyma Joab yn anfon dynion gyda neges i alw Abner yn ôl, a daeth yn ôl gyda nhw o ffynnon Sira. (Doedd Dafydd yn gwybod dim am y peth.)
27 Wrth i Abner gyrraedd Hebron dyma Joab yn mynd ag e o'r neilltu wrth y giât, fel petai am gael gair cyfrinachol gydag e. Ond yna dyma fe'n trywanu Abner yn ei fol gyda dagr, a'i ladd. Gwnaeth hyn i ddial arno am ladd ei frawd Asahel.
28 Dim ond wedyn y clywodd Dafydd beth oedd wedi digwydd. “Dw i a'm pobl yn ddieuog o flaen yr ARGLWYDD am ladd Abner fab Ner,” meddai.
29 “Ar Joab mae'r bai. Caiff e a'i deulu dalu'r pris! Bydd rhywun o deulu Joab bob amser yn diodde o glefyd heintus ar ei bidyn, neu wahanglwyf, yn cerdded gyda baglau, Ref wedi'i daro gan gleddyf, neu heb ddigon o fwyd!”
30 (Felly, roedd Joab a'i frawd Abishai wedi llofruddio Abner am ei fod e wedi lladd eu brawd Asahel yn y frwydr yn Gibeon.)Croes
31 Dyma Dafydd yn dweud wrth Joab a phawb oedd gydag e, “Rhwygwch eich dillad, gwisgwch sachliain, a galaru o flaen corff Abner.” Cerddodd y Brenin Dafydd ei hun tu ôl i'r arch,
32 a dyma nhw'n claddu Abner yn Hebron. Roedd y brenin yn crio'n uchel wrth fedd Abner, ac roedd pawb arall yn crio hefyd.
33 Yna dyma'r brenin yn canu cân i alaru am Abner:
“Oedd rhaid i Abner farw fel ffŵl?
34 Doeddet ddim wedi dy glymu;
doedd dy draed ddim mewn cyffion;
Ond syrthiaist fel dyn wedi'i ladd gan rai drwg.”
A dyma pawb yn wylo drosto eto.
35 Roedd ei ddynion yn ceisio perswadio Dafydd i fwyta rhywbeth cyn iddi nosi. Ond roedd Dafydd wedi addo ar lw, “Boed i Dduw ddial arna i os gwna i fwyta darn o fara neu unrhyw beth arall cyn i'r haul fachlud!”
36 Roedd hynny wedi plesio pobl yn fawr. Yn wir roedd popeth roedd y brenin yn ei wneud yn eu plesio nhw.
37 Roedd pawb, gan gynnwys pobl Israel, yn gweld fod gan y brenin ddim byd i'w wneud â llofruddio Abner fab Ner.
38 Dwedodd y brenin wrth ei swyddogion, “Ydych chi'n sylweddoli fod arweinydd milwrol mawr wedi marw yn Israel heddiw?
39 Er fy mod i wedi cael fy ngwneud yn frenin, dw i wedi bod yn ddi-asgwrn-cefn heddiw. Mae'r dynion yma, meibion Serwia, Ref yn rhy wyllt i mi ddelio hefo nhw. Boed i'r ARGLWYDD dalu yn ôl i'r un sydd wedi gwneud y drwg yma!”
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity