2 SAMUEL 4
Ish-bosheth yn cael ei ladd
1 Pan glywodd Ish-bosheth, mab Saul, fod Abner wedi'i ladd yn Hebron roedd wedi anobeithio'n llwyr, ac roedd Israel gyfan wedi dychryn.
2 Roedd gan Ish-bosheth ddau ddyn yn gapteiniaid yn ei fyddin, Baana a Rechab. Roedden nhw'n feibion i Rimmon o Beëroth Ref ac yn perthyn i lwyth Benjamin. (Roedd Beëroth yn cael ei gyfri fel rhan o Benjamin.
3 Roedd pobl wreiddiol Beëroth wedi ffoi i Gittaïm, ac maen nhw'n dal i fyw yno hyd heddiw fel mewnfudwyr.)
4 Roedd gan Jonathan, mab Saul, fab o'r enw Meffibosheth oedd yn gloff. Roedd e'n bump oed pan ddaeth y newydd o Jesreel fod Saul a Jonathan wedi'u lladd.Croes Dyma'i nyrs yn gafael ynddo i ffoi, ond wrth iddi ruthro dyma fe'n cwympo, a dyna pryd aeth e'n gloff.
5 Aeth Rechab a Baana, meibion Rimmon o Beëroth, i dŷ Ish-bosheth. Roedd hi'n ganol dydd a'r haul ar ei boethaf, ac roedd Ish-bosheth yn gorffwys.
6 Aethon nhw i mewn i'w dŷ gan esgus eu bod yn nôl gwenith, ond dyma nhw'n ei drywanu yn ei fol. Wedyn dyma'r ddau yn dianc.
7 Roedden nhw wedi mynd i'r tŷ tra oedd Ish-bosheth yn ei ystafell yn gorffwys ar ei wely. Ar ôl ei drywanu a'i ladd, dyma nhw'n torri ei ben i ffwrdd. Yna cymryd y pen, a theithio drwy'r nos ar hyd ffordd yr Araba.
8 Dyma nhw'n dod â phen Ish-bosheth i'r brenin Dafydd yn Hebron, a dweud wrtho, “Dyma ben Ish-bosheth, mab Saul, dy elyn oedd yn ceisio dy ladd di. Heddiw mae'r ARGLWYDD wedi dial ar Saul a'i deulu ar ran ein meistr y brenin.”
9 Ond dyma Dafydd yn eu hateb nhw: “Mor sicr a bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr un sydd wedi fy achub i o bob helynt.
10 Pan ddaeth rhyw ddyn ata i yn Siclag i ddweud fod Saul wedi marw,Croes roedd yn meddwl ei fod yn dod â newyddion da. Ond gafaelais ynddo a'i ladd! Dyna oedd y wobr gafodd hwnnw am ei ‛newyddion da‛!
11 Dych chi wedi lladd dyn diniwed tra oedd yn cysgu yn ei dŷ ei hun! Rhaid i mi wneud i chi dalu am dywallt ei waed e, a chael gwared â chi oddi ar wyneb y ddaear yma!”
12 Felly dyma Dafydd yn gorchymyn i'w filwyr ladd y ddau. Dyma nhw'n gwneud hynny, torri eu dwylo a'u traed i ffwrdd, a hongian y cyrff wrth y pwll yn Hebron. Ond dyma nhw'n cymryd pen Ish-bosheth, a'i gladdu lle roedd bedd Abner, yn Hebron.
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity