|
|
(1 Cronicl 13:1-14; 15:25—16:6,43)
1 Unwaith eto dyma Dafydd yn casglu milwyr gorau Israel at ei gilydd. Roedd yna dri deg mil ohonyn nhw. 2 Dyma nhw'n mynd gyda Dafydd i Baäla yn Jwda i nôl Arch Duw. Roedd yr enw ‛Arch Duw‛ yn cyfeirio at yr ARGLWYDD hollbwerus, sy'n eistedd ar ei orsedd uwchben y cerwbiaid. 3-4 Dyma nhw'n rhoi Arch Duw ar gert newydd a'i symud hi o dŷ Abinadab, oedd ar ben bryn. Roedd Wssa ac Achïo, meibion Abinadab, yn arwain y cert – Wssa wrth ymyl yr Arch, ac Achïo'n cerdded o'i blaen. 5 Ac roedd Dafydd a phobl Israel i gyd yn dathlu'n llawn hwyl o flaen yr ARGLWYDD, ac yn canu i gyfeiliant pob math o offerynnau. Roedd ganddyn nhw delynau a nablau, drymiau, castanetau a symbalau. 6 Pan gyrhaeddon nhw lawr dyrnu Nachon, dyma'r ychen yn baglu, a dyma Wssa yn estyn ei law a gafael yn Arch Duw. 7 Roedd yr ARGLWYDD wedi digio gydag Wssa am y fath amarch. Cafodd ei daro'n farw yn y fan a'r lle wrth ymyl Arch Duw. 8 Roedd Dafydd wedi gwylltio fod yr ARGLWYDD wedi ymosod ar Wssa; a dyma fe'n galw'r lle yn Perets-Wssa (sef ‛ffrwydriad yn erbyn Wssa‛). Dyna ydy enw'r lle hyd heddiw. 9 Roedd yr ARGLWYDD wedi codi ofn ar Dafydd y diwrnod hwnnw. “Sut all Arch yr ARGLWYDD ddod ata i?” meddai. 10 Doedd e ddim yn fodlon gadael i Arch yr ARGLWYDD fynd gydag e i Ddinas Dafydd. Aeth â hi i dŷ Obed-edom, dyn o Gath. 11 Arhosodd Arch yr ARGLWYDD yn nhŷ Obed-edom am dri mis. A dyma'r ARGLWYDD yn bendithio Obed-edom a'i deulu i gyd. 12 Daeth Dafydd i glywed fod yr ARGLWYDD wedi bendithio Obed-edom a'i deulu am fod Arch Duw yno. Felly dyma fe'n mynd i dŷ Obed-edom i'w nôl hi, a mynd â hi i Ddinas Dafydd, gyda dathlu mawr. 13 Pan oedd y rhai oedd yn cario Arch yr ARGLWYDD wedi cerdded dim ond chwe cham, dyma Dafydd yn aberthu ych a llo wedi'i besgi i Dduw. 14 Roedd Dafydd yn gwisgo effod o liain main, ac yn dawnsio â'i holl egni o flaen yr ARGLWYDD. 15 Roedd e a holl bobl Israel yn hebrwng Arch yr ARGLWYDD gan weiddi'n llawen a chanu'r corn hwrdd. Ref 16 Wrth i Arch yr ARGLWYDD gyrraedd Dinas Dafydd, roedd Michal, merch Saul, yn edrych allan drwy'r ffenest. Pan welodd hi'r brenin yn neidio a dawnsio o flaen yr ARGLWYDD, doedd hi'n teimlo dim byd ond dirmyg tuag ato. 17 Dyma nhw'n dod ag Arch yr ARGLWYDD, a'i gosod yn ei lle yn y babell roedd Dafydd wedi'i chodi iddi. Yna dyma Dafydd yn cyflwyno offrymau i'w llosgi ac offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. 18 Wedi i Dafydd orffen offrymu'r anifeiliaid, dyma fe'n bendithio'r bobl ar ran yr ARGLWYDD hollbwerus. 19 Ac wedyn dyma fe'n rhannu bwyd i holl bobl Israel, y dynion a'r merched. Cafodd pawb dorth o fara, teisen ddatys a theisen rhesin. Yna aeth pawb adre. 20 Pan aeth Dafydd adre i fendithio ei deulu ei hun, dyma Michal, merch Saul, yn dod allan i'w gyfarfod. Ac meddai wrtho, “Wel, wel! Dylech fod wedi gweld brenin Israel heddiw! Dyna lle roedd e'n fflachio o flaen caethferched ei swyddogion, yn dangos popeth iddyn nhw fel rhyw ffŵl coman!” 21 Ond dyma Dafydd yn ei hateb, “Na, dawnsio o flaen yr ARGLWYDD oeddwn i – yr un wnaeth fy newis i yn lle dy dad a dy deulu di. Dewisodd fi yn arweinydd ar bobl Israel, pobl yr ARGLWYDD. O'i flaen e 22 dw i'n fodlon gwneud mwy o ffŵl ohono i fy hun. Falle fod gen ti gywilydd ohono i, ond bydd y caethferched rwyt ti'n sôn amdanyn nhw yn fy mharchu i!” 23 Wnaeth Michal, merch Saul, ddim cael plant o gwbl.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity