|
|
(1 Cronicl 18:1-17)
1 Beth amser wedyn, dyma Dafydd yn concro'r Philistiaid ac yn eu gorfodi nhw i ildio iddo. 2 Wedyn dyma fe'n concro Moab. Gwnaeth i'r dynion orwedd mewn rhes ar lawr, a dyma fe'n eu mesur nhw'n grwpiau gyda llinyn. Roedd dau hyd y llinyn i gael eu lladd, ac un hyd llinyn i gael byw. A dyna sut daeth Moab o dan awdurdod Dafydd a thalu trethi iddo. 3 Yna dyma Dafydd yn concro Hadadeser fab Rechob, brenin talaith Soba yn Syria. Roedd hwnnw ar ei ffordd i geisio cael yr ardal ar lan afon Ewffrates yn ôl o dan ei awdurdod. 4 Ond dyma Dafydd yn dal mil saith gant o'i farchogion a dau ddeg mil o'i filwyr traed. Cadwodd gant o'r ceffylau, ond gwneud y gweddill i gyd yn gloff. 5 A phan ddaeth Syriaid talaith Damascus i helpu Hadadeser, lladdodd byddin Dafydd ddau ddeg dwy fil ohonyn nhw hefyd. 6 Wedyn, dyma Dafydd yn gosod garsiynau o filwyr ar dir Syria yn Damascus. Daeth y Syriaid o dan ei awdurdod, a gorfod talu trethi iddo. Roedd yr ARGLWYDD yn gwneud i Dafydd ennill pob brwydr ble bynnag roedd e'n mynd. 7 Aeth Dafydd â'r tarianau aur oedd gan swyddogion Hadadeser i Jerwsalem. 8 Cymerodd lot fawr o bres hefyd o Betach a Berothai, trefi Hadadeser. 9 Pan glywodd Toi, brenin Chamath, Ref fod Dafydd wedi concro byddin Hadadeser i gyd, 10 dyma fe'n anfon ei fab Joram at Dafydd i geisio telerau heddwch, ac i longyfarch Dafydd ar ei lwyddiant. (Roedd Hadadeser wedi bod yn rhyfela byth a hefyd yn erbyn Toi.) Aeth Joram â phob math o gelfi aur ac arian a phres gydag e; 11 a dyma Dafydd yn cysegru'r cwbl i'r ARGLWYDD. Roedd wedi gwneud yr un peth gyda'r holl arian ac aur roedd wedi'i gymryd o'r gwledydd wnaeth e eu concro, 12 sef Edom, Moab, pobl Ammon, y Philistiaid a'r Amaleciaid, a'r ysbail roedd wedi'i gymryd oddi ar Hadadeser fab Rechob, brenin Soba. 13 Daeth Dafydd yn enwog hefyd ar ôl iddo daro un deg wyth mil o filwyr Edom Ref yn Nyffryn yr Halen. 14 A dyma fe'n gosod garsiynau ar hyd a lled Edom. Daeth Edom i gyd o dan ei awdurdod a gorfod talu trethi iddo. Roedd yr ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth i Dafydd ble bynnag roedd e'n mynd. 15 Roedd Dafydd yn frenin ar Israel gyfan. Roedd yn trin ei bobl i gyd yn gyfiawn ac yn deg. 16 Joab (mab Serwia Ref ) oedd pennaeth y fyddin. Jehosaffat fab Achilwd oedd cofnodydd y brenin. 17 Sadoc fab Achitwf ac Achimelech fab Abiathar oedd yr offeiriaid. Seraia oedd ei ysgrifennydd gwladol. 18 Benaia fab Jehoiada oedd pennaeth gwarchodlu personol y brenin (Cretiaid Ref a Pelethiaid). Ac roedd meibion Dafydd yn offeiriaid.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity