2 SAMUEL 9
Dafydd a Meffibosheth, mab Jonathan
1 Dyma Dafydd yn gofyn, “Oes yna unrhyw un yn dal ar ôl o deulu Saul, i mi fod yn garedig ato fel gwnes i addo i Jonathan?”Croes
2 A dyma ddyn o'r enw Siba oedd wedi bod yn was i Saul yn cael ei alw at Dafydd. Gofynnodd y brenin iddo, “Ti ydy Siba?” Atebodd, “Ie, syr, fi ydy dy was.”
3 Dyma'r brenin yn ei holi, “Oes yna unrhyw un o deulu Saul yn dal yn fyw, i mi fod yn garedig ato fel gwnes i addo o flaen Duw?” Atebodd Siba, “Oes. Mae yna fab i Jonathan sy'n dal yn fyw. Mae e'n anabl. Mae e'n gloff yn ei ddwy droed.”
4 “Ble mae e?” meddai'r brenin. A dyma Siba'n dweud, “Mae e yn Lo-defâr, yn aros gyda Machir fab Ammiel.”
5 Felly dyma'r Brenin Dafydd yn anfon i'w nôl o dŷ Machir.
6 Pan ddaeth Meffibosheth (mab Jonathan ac ŵyr Saul) at y Brenin Dafydd, dyma fe'n mynd ar ei liniau ac ymgrymu o'i flaen â'i wyneb ar lawr. “Meffibosheth?” meddai Dafydd. Ac atebodd, “Ie, syr, dy was di.”
7 “Paid bod ag ofn,” meddai Dafydd wrtho, “Dw i'n mynd i fod yn garedig atat ti, fel gwnes i addo i dy dad Jonathan. Dw i am roi tir dy daid Saul yn ôl i ti, a byddi'n cael bwyta wrth fy mwrdd i yn rheolaidd.”
8 Dyma Meffibosheth yn ymgrymu eto a dweud, “Pwy ydw i? Pam ddylet ti gymryd sylw o gi marw fel fi?”
9 Yna dyma'r brenin yn galw am Siba, gwas Saul. Ac meddai wrtho, “Dw i wedi rhoi popeth oedd piau Saul a'i deulu i ŵyr dy feistr.
10 Dw i eisiau i ti a dy feibion, a dy weision i gyd, ofalu am y tir iddo. Bydd cynnyrch y tir yn fwyd i deulu dy feistr. Ond bydd Meffibosheth yn bwyta wrth fy mwrdd i yn rheolaidd.” (Roedd gan Siba un deg pump o feibion a dau ddeg o weision.)
11 Dyma Siba yn ateb, “Bydd dy was yn gwneud popeth mae fy meistr, y brenin, wedi'i orchymyn.”
Felly cafodd Meffibosheth fwyta'n rheolaidd wrth fwrdd y brenin, fel petai'n un o feibion y brenin ei hun.
12 Roedd gan Meffibosheth fab bach o'r enw Micha. Roedd teulu Siba i gyd, a'i weision, yn gweithio i Meffibosheth.
13 Ond roedd Meffibosheth ei hun yn byw yn Jerwsalem, ac yn cael bwyta'n rheolaidd wrth fwrdd y brenin. Roedd e'n anabl – yn gloff yn ei ddwy droed.
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity