|
|
(Marc 16:19-20; Luc 24:50-53)
6 Pan oedd y disgyblion yn cyfarfod gyda Iesu roedden nhw'n gofyn iddo o hyd, “Arglwydd, ai dyma pryd rwyt ti'n mynd i ryddhau Israel a'i gwneud yn wlad annibynnol unwaith eto?” 7 Ateb Iesu oedd: “Duw sy'n penderfynu pethau felly. Does dim rhaid i chi wybod beth ydy'r amserlen mae Duw wedi'i threfnu. 8 Ond bydd yr Ysbryd Glân yn disgyn arnoch chi, ac yn rhoi nerth i chi ddweud amdana i wrth bawb – yn Jerwsalem a Jwdea, yn Samaria, a drwy'r byd i gyd.” 9 Yna ar ôl iddo ddweud hynny cafodd ei godi i fyny i'r awyr o flaen eu llygaid. Dyma gwmwl yn dod o'i gwmpas a diflannodd o'u golwg. 10 Tra oedden nhw'n syllu i'r awyr yn edrych arno'n mynd, yn sydyn dyma ddau ddyn mewn dillad gwyn yn ymddangos wrth eu hymyl nhw, 11 a dweud, “Chi Galileaid, beth dych chi'n ei wneud yma yn syllu i'r awyr? Mae Iesu wedi cael ei gymryd i'r nefoedd oddi wrthoch chi. Ond yn union yr un fath ag y gweloch e'n mynd bydd yn dod yn ôl eto.”“ ‘Bydded ei le yn anial,
heb neb yn byw yno.’ Croes
“Ac mae'n dweud hefyd,‘Gad i rywun arall gymryd ei waith.’ Croes
21 “Felly mae'n rhaid i ni ddewis rhywun i gymryd ei le – un ohonoch chi oedd gyda ni pan oedd yr Arglwydd Iesu yma. 22 Rhywun fuodd yno drwy'r adeg, o'r dechrau cyntaf pan gafodd ei fedyddio gan Ioan i'r diwedd pan gafodd Iesu ei gymryd i fyny i'r nefoedd. Rhaid i'r person, fel ni, fod yn dyst i'r ffaith fod Iesu wedi dod yn ôl yn fyw.” 23 Dyma ddau enw yn cael eu cynnig: Joseff oedd un, sef Barsabas (sy'n cael ei alw'n Jwstus weithiau hefyd), a Mathïas oedd y llall. 24 Felly dyma nhw'n gweddïo, “Arglwydd, rwyt ti'n nabod calon pawb. Dangos i ni pa un o'r ddau yma rwyt ti wedi'i ddewis 25 i wasanaethu fel cynrychiolydd personol i Iesu yn lle Jwdas; mae hwnnw wedi'n gadael ni, ac wedi mynd lle mae'n haeddu.” 26 Yna dyma nhw'n taflu coelbren, a syrthiodd o blaid Mathïas; felly cafodd e ei ddewis i fod yn gynrychiolydd personol i Iesu gyda'r unarddeg.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity