|
|
17 ‘Mae Duw yn dweud: Yn y cyfnod olaf
Bydda i'n tywallt fy ysbryd ar y bobl i gyd.
Bydd eich meibion a'ch merched yn proffwydo,
bydd dynion ifanc yn cael gweledigaethau,
a dynion hŷn yn cael breuddwydion.
tywallt fy Ysbryd ar fy ngweision i gyd,
yn ddynion a merched,
a byddan nhw'n proffwydo.
19 Bydd pethau rhyfeddol yn digwydd yn yr awyr
ac arwyddion gwyrthiol yn digwydd ar y ddaear –
gwaed a thân a mwg yn lledu ym mhobman.
20 Bydd yr haul yn troi'n dywyll
a'r lleuad yn mynd yn goch fel gwaed
cyn i'r diwrnod mawr, rhyfeddol yna ddod,
sef, Dydd yr Arglwydd.
21 Bydd pawb sy'n galw ar enw'r Arglwydd
yn cael eu hachub.’ Croes
22 “Bobl Israel, gwrandwch beth dw i'n ddweud: Dangosodd Duw i chi ei fod gyda Iesu o Nasareth – dych chi'n gwybod hynny'n iawn, am fod Duw wedi gwneud gwyrthiau rhyfeddol drwyddo, a phethau eraill oedd yn dangos pwy oedd e. 23 Roedd Duw'n gwybod ac wedi trefnu ymlaen llaw beth fyddai'n digwydd iddo. Gyda help y Rhufeiniaid annuwiol dyma chi'n ei ladd, drwy ei hoelio a'i hongian ar groes. 24 Ond dyma Duw yn ei godi yn ôl yn fyw a'i ollwng yn rhydd o grafangau marwolaeth. Roedd yn amhosib i farwolaeth ddal gafael ynddo! 25 Dyna'n union ddwedodd y Brenin Dafydd:‘Gwelais fod yr Arglwydd gyda mi bob amser.
Am ei fod yn sefyll wrth fy ochr i
fydd dim yn fy ysgwyd i.
26 Felly mae nghalon i'n llawen
a'm tafod yn gorfoleddu;
mae fy nghorff yn byw mewn gobaith,
27 am na fyddi di'n fy ngadael i gyda'r meirw, Ref
gadael i'r un sydd wedi cysegru ei hun i ti bydru yn y bedd.
28 Rwyt wedi dangos y ffordd i fywyd i mi;
bydd bod gyda ti yn fy llenwi â llawenydd.’ Croes
29 “Frodyr a chwiorydd, mae'n amlwg bod y Brenin Dafydd ddim yn sôn amdano'i hun. Buodd farw a chafodd ei gladdu ganrifoedd yn ôl, ac mae ei fedd yn dal gyda ni heddiw. 30 Ond roedd Dafydd yn broffwyd, ac yn gwybod fod Duw wedi addo y byddai un o'i ddisgynyddion yn eistedd ar ei orsedd, sef y Meseia. Croes 31 Roedd yn sôn am rywbeth fyddai'n digwydd yn y dyfodol. Sôn am y Meseia'n dod yn ôl yn fyw oedd Dafydd pan ddwedodd na chafodd ei adael gyda'r meirw ac na fyddai ei gorff y pydru'n y bedd! Croes 32 A dyna sydd wedi digwydd! – mae Duw wedi codi Iesu yn ôl yn fyw, a dŷn ni'n lygad-dystion i'r ffaith! 33 Bellach mae'n eistedd yn y sedd anrhydedd ar ochr dde Duw. Rhoddodd y Tad yr Ysbryd Glân oedd wedi'i addo, iddo ei dywallt arnon ni. Dyna dych chi wedi'i weld a'i glywed yn digwydd yma heddiw. 34 “Meddyliwch am y peth! – chafodd y Brenin Dafydd mo'i godi i fyny i'r nefoedd, ac eto dwedodd hyn:‘Dwedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd:
“Eistedd yma yn y sedd anrhydedd Ref
35 nes i mi wneud i dy elynion blygu
fel stôl i ti orffwys dy draed arni.”’ Croes
36 “Felly dw i am i Israel gyfan ddeall hyn: Mae Duw wedi gwneud yr Iesu wnaethoch chi ei groeshoelio yn Arglwydd, a Meseia.” 37 Roedd pobl wedi'u hysgwyd i'r byw gan beth ddwedodd Pedr, a dyma nhw'n gofyn iddo ac i'r apostolion eraill, “Frodyr, beth ddylen ni wneud?” 38 Dyma Pedr yn ateb, “Rhaid i chi droi cefn ar eich pechod, a chael eich bedyddio fel arwydd eich bod yn perthyn i Iesu y Meseia a bod Duw yn maddau eich pechodau chi. Wedyn byddwch chi'n derbyn yr Ysbryd Glân yn rhodd gan Dduw. 39 Mae Duw wedi addo hyn i chi ac i'ch disgynyddion, ac i bobl sy'n byw yn bell i ffwrdd – pawb fydd yr Arglwydd ein Duw yn eu galw ato'i hun.” 40 Aeth Pedr yn ei flaen i ddweud llawer iawn mwy wrthyn nhw. Roedd yn eu rhybuddio nhw ac yn apelio'n daer, “Achubwch eich hunain o afael y gymdeithas droëdig yma!” 41 Dyma'r rhai wnaeth gredu beth oedd Pedr yn ei ddweud yn cael eu bedyddio – tua tair mil ohonyn nhw y diwrnod hwnnw!Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity