|
|
(Actau 9:1-19; 26:12-18)
6 “Roedd hi tua chanol dydd, ac roeddwn i bron â chyrraedd Damascus, ac yn sydyn dyma rhyw olau llachar o'r nefoedd yn fflachio o'm cwmpas i. 7 Syrthiais ar lawr, a chlywed llais yn dweud wrtho i, ‘Saul! Saul! Pam wyt ti'n fy erlid i?’ 8 “Gofynnais, ‘Pwy wyt ti, Arglwydd?’ “‘Iesu o Nasareth ydw i,’ meddai'r llais, ‘sef yr un rwyt ti'n ei erlid.’ 9 Roedd y rhai oedd gyda mi yn gweld y golau, ond ddim yn deall y llais oedd yn siarad â mi. 10 “Gofynnais iddo, ‘Beth wna i, Arglwydd?’ A dyma'r Arglwydd yn ateb, ‘Cod ar dy draed, a dos i Damascus. Yno cei di wybod popeth rwyt ti i fod i'w wneud.’ 11 Rôn i wedi cael fy nallu gan y golau disglair, ac roedd rhaid i mi gael fy arwain gerfydd fy llaw i Damascus. 12 “Daeth dyn o'r enw Ananias i ngweld i. Dyn duwiol iawn, yn cadw Cyfraith Moses yn ofalus ac yn ddyn roedd yr Iddewon yno yn ei barchu'n fawr. 13 Safodd wrth fy ymyl a dweud. ‘Saul, frawd. Derbyn dy olwg yn ôl!’ Ac o'r eiliad honno rôn i'n gallu gweld eto. 14 “Wedyn dwedodd Ananias wrtho i: ‘Mae Duw ein cyndeidiau ni wedi dy ddewis di i wybod beth mae e eisiau, i weld Iesu, yr Un Cyfiawn, a chlywed beth sydd ganddo i'w ddweud. 15 Byddi di'n mynd i ddweud wrth bawb beth rwyt ti wedi'i weld a'i glywed. 16 Felly, pam ddylet ti oedi? Cod ar dy draed i ti gael dy fedyddio a golchi dy bechodau i ffwrdd wrth alw arno i dy achub di.’ 17 “Pan ddes i yn ôl i Jerwsalem roeddwn i'n gweddïo yn y Deml pan ges i weledigaeth – 18 yr Arglwydd yn siarad â mi, ac yn dweud ‘Brysia! Rhaid i ti adael Jerwsalem ar unwaith, achos wnân nhw ddim credu beth fyddi di'n ei ddweud amdana i.’ 19 “‘Ond Arglwydd,’ meddwn innau, ‘mae'r bobl yma'n gwybod yn iawn mod i wedi mynd o un synagog i'r llall yn carcharu'r bobl sy'n credu ynot ti, ac yn eu curo nhw. 20 Pan gafodd Steffan ei ladd am ei fod yn siarad amdanat ti, roeddwn i yno'n cefnogi beth oedd yn digwydd! Fi oedd yn gofalu am fentyll y rhai oedd yn ei ladd.’ 21 “Ond dyma'r Arglwydd yn dweud wrtho i, ‘Dos; dw i'n mynd i dy anfon di'n bell i ffwrdd, at bobl o genhedloedd eraill.’”Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity