|
|
(Actau 9:1-19; 22:6-16)
12 “Dyna'n union oeddwn i'n ei wneud ryw ddiwrnod – roedd y prif offeiriaid wedi rhoi'r awdurdod a'r cyfrifoldeb i mi fynd ar ôl y Cristnogion yn Damascus. 13 Roedd hi tua chanol dydd pan oeddwn i ar fy ffordd yno. Yna'n sydyn, eich mawrhydi, dyma olau o'r awyr yn disgleirio o'm cwmpas i a phawb oedd gyda mi. Roedd yn olau llawer mwy tanbaid na'r haul. 14 Dyma ni i gyd yn disgyn ar lawr, a chlywais lais yn siarad â mi yn Hebraeg, ‘Saul, Saul, pam wyt ti'n fy erlid i? Dim ond gwneud drwg i ti dy hun wyt ti wrth dynnu'n groes i mi.’ Ref 15 “A dyma fi'n gofyn, ‘Pwy wyt ti, Arglwydd?’ A dyma'r Arglwydd yn ateb, ‘Iesu ydw i, sef yr un rwyt ti'n ei erlid. 16 Cod ar dy draed. Dw i wedi dy ddewis di i fod yn was i mi. Dw i am i ti ddweud wrth bobl am beth sydd wedi digwydd, ac am bopeth arall bydda i'n ei ddangos i ti. 17 Bydda i'n dy achub di o afael dy bobl dy hun a phobl y cenhedloedd eraill. Dw i'n dy anfon di atyn nhw 18 i agor eu llygaid nhw er mwyn iddyn nhw droi o dywyllwch i oleuni, a dianc o afael Satan at Dduw. Bydda i'n maddau eu pechodau nhw, a byddan nhw'n cael perthyn i'r bobl hynny sydd wedi'u gwneud yn lân drwy gredu ynof fi.’ 19 “Felly, eich mawrhydi, dw i wedi ufuddhau i'r weledigaeth ges i o'r nefoedd. 20 Dw i wedi bod yn dweud wrth bobl fod rhaid iddyn nhw droi cefn ar eu pechodau a throi at Dduw – a byw mewn ffordd sy'n dangos eu bod wedi newid go iawn. Gwnes i hynny gyntaf yn Damascus, ac wedyn yn Jerwsalem ac ar draws Jwdea, a hefyd i bobl o genhedloedd eraill. 21 A dyna pam wnaeth yr Iddewon fy nal i yn y deml a cheisio fy lladd i. 22 Ond mae Duw wedi edrych ar fy ôl i hyd heddiw, a dyna sut dw i'n dal yma i rannu'r neges gyda phawb, yn fach a mawr. Dw i'n dweud dim byd mwy na beth ddwedodd y proffwydi a Moses fyddai'n digwydd – 23 sef y byddai'r Meseia yn dioddef, ac mai fe fyddai'r cyntaf i ddod yn ôl yn fyw oddi wrth y meirw, yn oleuni i Iddewon a phobl o genhedloedd eraill.” 24 Yn sydyn dyma Ffestus yn gweiddi ac yn torri ar draws ei amddiffyniad, “Ti ddim yn gall, Paul! Mae dy holl ddysg yn dy yrru di'n wallgof!” 25 “Na, dw i ddim yn wallgof, eich Anrhydedd Ffestus,” meddai Paul. “Mae'r cwbl dw i'n ei ddweud yn berffaith wir ac yn rhesymol. 26 Mae'r Brenin Agripa yn deall y pethau yma, a dw i'n gallu siarad yn blaen gydag e. Dw i'n reit siŵr ei fod wedi clywed am hyn i gyd, achos wnaeth y cwbl ddim digwydd mewn rhyw gornel dywyll o'r golwg. 27 Agripa, eich mawrhydi – ydych chi'n credu beth ddwedodd y proffwydi? Dw i'n gwybod eich bod chi!” 28 “Wyt ti'n meddwl y gelli di berswadio fi i droi'n Gristion mor sydyn â hynny?” 29 Atebodd Paul, “Yn sydyn neu beidio – dw i'n gweddïo ar Dduw y gwnewch chi, a phawb arall sy'n gwrando arna i yma heddiw, ddod yr un fath â fi – ar wahân i'r cadwyni yma!” 30 Yna dyma'r brenin yn codi ar ei draed, a chododd y llywodraethwr a Bernice gydag e, a phawb arall oedd yno. 31 Roedden nhw'n sgwrsio wrth fynd allan, “Dydy'r dyn wedi gwneud dim byd i haeddu marw na hyd yn oed ei garcharu,” medden nhw. 32 “Gallet ti ei ollwng yn rhydd oni bai am y ffaith ei fod wedi gwneud apêl i Gesar,” meddai Agripa wrth Ffestus.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity