|
|
2 “O blith holl bobloedd y ddaear,
chi ydy'r rhai wnes i ddewis —
a dyna pam mae'n rhaid i mi eich galw chi i gyfrif
am yr holl ddrwg dych chi wedi ei wneud.”
heb fod wedi trefnu i gyfarfod?
4 Ydy llew yn rhuo yn y goedwig
pan does ganddo ddim ysglyfaeth?
Ydy llew ifanc yn grwnian yn fodlon yn ei ffau
oni bai ei fod wedi dal rhywbeth?
5 Ydy aderyn yn cael ei ddal mewn rhwyd
os nad oes abwyd yn y trap?
Ydy trap ar lawr yn cau yn sydyn
heb fod rhywbeth wedi ei ddal ynddo?
wrth glywed yr utgorn rhyfel yn seinio yn y dre?
Ydy dinistr yn gallu dod ar ddinas
heb i'r
ARGLWYDD adael i'r peth ddigwydd? ARGLWYDD, yn gwneud dim bydheb ddangos ei gynllun i'w weision y proffwydi.
pwy sydd ddim yn ofni?
Mae fy Meistr, yr
ARGLWYDD, wedi siarad,felly pwy sy'n mynd i wrthod proffwydo?
9 Cyhoedda hyn i'r rhai sy'n byw yn y plastai yn Ashdod Ref
ac yn y plastai yng ngwlad yr Aifft!
Dywed: “Dewch at eich gilydd i ben bryniau Samaria
i weld yr anhrefn llwyr sydd yn y ddinas,
a'r gormes sy'n digwydd yno.
10 Allan nhw ddim gwneud beth sy'n iawn!”
— yr
ARGLWYDD sy'n dweud hyn.“Yn eu plastai maen nhw'n storio trysorau
sydd wedi eu dwyn trwy drais.”
11 Felly dyma mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud:“Bydd gelyn yn amgylchynu'r wlad!
Bydd yn rhwygo popeth oddi arni
ac yn ei gadael yn noeth.
Bydd ei chaerau amddiffynnol yn cael eu hysbeilio'n llwyr!”
12 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Fel bugail yn ‘achub’ unrhyw beth o safn y llew
— dwy goes, neu ddarn o'r glust —
dyna'r math o ‘achub’ fydd ar bobl Israel sy'n byw yn Samaria.
Dim ond coes y gwely neu gornel y fatras fydd ar ôl!
13 Gwrando ar hyn, a rhybuddia bobl Jacob”
— fy Meistr, yr
ARGLWYDD sy'n dweud hyn, y Duw holl-bwerus —14 “Pan fydda i'n cosbi Israel am wrthryfela,
bydda i'n dinistrio'r allor sydd yn Bethel.
Bydd y cyrn ar gorneli'r allor
yn cael eu torri ac yn disgyn ar lawr.Croes
15 Bydda i'n dymchwel eu tai, a'u tai haf nhw hefyd.
Bydd y tai oedd wedi eu haddurno ag ifori yn adfeilion.
Bydd y plastai yn cael eu chwalu'n llwyr!”
— yr
ARGLWYDD sy'n dweud hyn.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity