|
|
1 Gwae chi sydd mor gyfforddus yn Seion,
ac yn teimlo mor saff ar fryniau Samaria!
Chi bobl bwysig y genedl sbesial ma —
ie, chi mae pobl Israel yn troi atyn nhw am arweiniad.
2 Dych chi'n dweud wrthyn nhw,
“Ewch draw i ddinas Calne, i weld sut mae pethau yno!
Ewch yn eich blaen wedyn i Chamath fawr,
ac i lawr i Gath Ref y Philistiaid.
Ydy pethau'n well arnyn nhw nag ar y ddwy wlad yma?
Oes ganddyn nhw fwy o dir na chi?”
3 Dych chi'n gwrthod derbyn fod dydd drwg yn dod.
Dych chi'n gofyn am gyfnod o drais!
4 Druan ohonoch chi, sy'n diogi ar eich soffas ifori moethus.
Yn gorweddian ar glustogau cyfforddus,
ac yn mwynhau gwledda ar gig oen
a'r cig eidion gorau.
5 Yn mwmian canu i gyfeiliant y nabl —
a meddwl eich bod chi'n gerddorion gwych fel y brenin Dafydd!
6 Dych chi'n yfed gwin wrth y galwyni
ac yn pampro eich cyrff gyda'r olew gorau!
Ond dych chi'n poeni dim fod dinistr yn dod
ar bobl Joseff!
7 Felly, chi fydd y rhai cyntaf i gael eich caethgludo,
a hynny'n fuan iawn!
Bydd y gwledda a'r gorweddian yn dod i ben!
ARGLWYDD, yn tyngu iddo'i hun:“Dw i'n casáu balchder gwlad Jacob,
ac yn ffieiddio ei phlastai.
Bydda i'n cyhoeddi y bydd dinas Samaria a'i phobl
yn cael eu rhoi yn llaw'r gelyn.”
— yr
ARGLWYDD sy'n dweud hyn, y Duw holl-bwerus. 9 Os bydd deg o bobl yn dal yn fyw mewn tŷ, byddan nhw'n marw. 10 Yna bydd perthynas yn dod i gasglu'r cyrff o'r tŷ — gyda'r bwriad o'u llosgi. A bydd yn galw ar rywun sy'n cuddio yng nghefn y tŷ, “Oes unrhyw un arall yn fyw ond ti?” ac yn cael yr ateb, “Na, neb.” Yna bydd yn dweud, “Isht! paid hyd yn oed â dweud enw'r ARGLWYDD”. ARGLWYDD yn rhoi gorchymyn:“Mae'r tai mawr crand i gael eu chwalu'n ulw,
a'r tai cyffredin hefyd, yn ddarnau mân.”
12 Ydy ceffylau'n gallu carlamu dros greigiau mawrion?
Ydy'n bosib ei aredig hefo ychen?
Ac eto dych chi wedi troi cyfiawnder yn wenwyn marwol
ac wedi gwneud yr hyn sy'n iawn yn beth chwerw.
13 Dych chi mor falch eich bod chi wedi concro tre Lo-debar Ref ,
a meddech chi wedyn, “Dyn ni wedi dal Carnaim! Ref
Roedden ni'n rhy gryf iddyn nhw!”
14 Ond gwylia di, wlad Israel,
— yr
ARGLWYDD sy'n dweud hyn, y Duw holl-bwerus.Dw i'n codi cenedl i ymladd yn dy erbyn di.
Bydd yn dy ormesu di o Fwlch Chamath yn y gogledd
i Wadi'r Araba Ref lawr yn y de!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity