|
|
4 Gwrandwch ar hyn, chi sy'n sathru'r gwan,
ac eisiau cael gwared â phobl dlawd yn y wlad.
5 Chi sy'n mwmblan i'ch hunain,
“Pryd fydd Gŵyl y lleuad newydd drosodd? —
i ni gael gwerthu'n cnydau eto.
Pryd fydd y dydd saboth drosodd? —
i ni gael gwerthu'r ŷd eto.
Gallwn godi pris uchel am bwysau prin,
a defnyddio clorian sy'n twyllo.
6 Gallwn brynu am arian bobl dlawd sydd mewn dyled,
a'r rhai sydd heb ddigon i dalu am bâr o sandalau.
Gallwn gymysgu'r gwastraff gyda'r grawn!”
7 Mae'r ARGLWYDD yn tyngu i'w enw ei hun, Balchder Jacob:“Wna i byth anghofio beth maen nhw wedi ei wneud.”
8 Felly bydd y ddaear yn ysgwyd o achos hyn
a phawb sy'n byw arni yn galaru.
Bydd y ddaear gyfan yn codi fel yr Afon Nil;
yn chwyddo ac yna'n suddo fel yr Afon yn yr Aifft.
— fy Meistr, yr
ARGLWYDD sy'n dweud hyn —“bydda i'n gwneud i'r haul fachlud ganol dydd,
a bydd y wlad yn troi'n dywyll yng ngolau dydd.
10 Bydda i'n troi eich partïon yn angladdau
a'ch holl ganeuon yn gerddi galar.
Bydda i'n rhoi sachliain amdanoch chi,
a bydd pob pen yn cael ei siafio.
Bydd fel y galaru pan mae rhywun wedi colli unig fab;
fydd y cwbl yn ddim byd ond un profiad chwerw.
11 “Gwyliwch chi! mae'r amser yn dod”— fy Meistr, yr
ARGLWYDD sy'n dweud hyn —“pan fydda i'n anfon newyn drwy'r wlad.”
Dim newyn am fara neu syched am ddŵr,
ond awydd gwirioneddol i glywed neges yr
ARGLWYDD.12 Bydd pobl yn crwydro o Fôr y Canoldir yn y gorllewin
i'r Môr Marw yn y de,
ac o'r gogledd i'r dwyrain,
er mwyn cael clywed neges yr
ARGLWYDD,ond byddan nhw'n methu.
13 Bryd hynny, bydd merched ifanc hardd a dynion ifanc cryf
yn llewygu am fod syched arnyn nhw —
14 Y rhai sy'n tyngu llw i eilun cywilyddus Samaria,
ac yn dweud, “Fel mae dy dduw di yn fyw, Dan!”
neu “Fel mae'r un cryf sydd ynot ti yn fyw Beerseba!” —
byddan nhw'n syrthio, a byth yn codi eto.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity