|
|
3 Mae'r arwyddion mae'n eu rhoi yn rhyfeddol!
Mae ei wyrthiau yn syfrdanol!
Fe ydy'r un sy'n teyrnasu am byth,
ac yn rheoli popeth o un genhedlaeth i'r llall!
4 Roeddwn i, Nebwchadnesar, yn byw'n foethus ac yn ymlacio adre yn y palas. 5 Ond un noson ces i freuddwyd wnaeth fy nychryn i go iawn. Roedd beth welais i yn hunllef ddychrynllyd. 6 Felly dyma fi'n gorchymyn fod dynion doeth Babilon i gyd i gael eu galw, er mwyn iddyn nhw ddweud wrtho i beth oedd ystyr ddirgel y freuddwyd. 7 Dyma'r dewiniaid, y swynwyr, y dynion doeth a'r consurwyr i gyd yn dod, a dyma fi'n dweud wrthyn nhw beth oedd y freuddwyd. Ond doedden nhw ddim yn gallu dweud wrtho i beth oedd hi'n ei olygu. 8 Ond wedyn dyma Daniel yn dod (yr un gafodd ei alw'n Belteshasar, ar ôl y duw roeddwn i'n ei addoli) – mae ysbryd y duwiau sanctaidd ynddo fe. A dyma fi'n dweud wrtho yntau beth oedd y freuddwyd. 9 “Belteshasar. Ti ydy'r prif swynwr. Dw i'n gwybod fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot ti, a does run dirgelwch yn peri penbleth i ti. Dw i eisiau i ti ddweud beth ydy ystyr y freuddwyd yma. 10 Dyma beth welais i yn y freuddwyd:Rôn i'n gweld coeden fawr yng nghanol y ddaear –
roedd hi'n anhygoel o dal.
11 Roedd y goeden yn tyfu'n fawr ac yn gref.
Roedd y goeden yn ymestyn mor uchel i'r awyr
roedd i'w gweld o bobman drwy'r byd i gyd.
12 Roedd ei dail yn hardd, ac roedd digonedd o ffrwyth arni –
digon o fwyd i bawb!
Roedd anifeiliaid gwyllt yn cysgodi dani,
ac adar yn nythu yn ei brigau.
Roedd popeth byw yn cael eu bwyd oddi arni.
13 “Tra rôn i'n gweld hyn yn y freuddwyd, dyma angel Ref sanctaidd yn dod i lawr o'r nefoedd. 14 Dyma fe'n gweiddi'n uchel,‘Torrwch y goeden i lawr, a thorri ei changhennau i ffwrdd!
Tynnwch ei dail a chwalu ei ffrwyth!
Gyrrwch yr anifeiliaid i ffwrdd,
a heliwch yr adar o'i brigau!
15 Ond gadewch y boncyff a'r gwreiddiau yn y ddaear,
gyda rhwymyn o haearn a phres amdano.
Bydd y gwlith yn ei wlychu gyda'r glaswellt o'i gwmpas;
a bydd yn bwyta planhigion gwyllt gyda'r anifeiliaid.
16 Bydd yn sâl yn feddyliol ac yn meddwl ei fod yn anifail. Ref
Bydd yn aros felly am amser hir. Ref
17 Mae'r angylion Ref wedi cyhoeddi hyn,
a'r rhai sanctaidd wedi rhoi'r ddedfryd!
“‘Y bwriad ydy fod pob person byw i ddeall fod y Duw Goruchaf yn teyrnasu dros lywodraethau'r byd. Mae'n gallu eu rhoi i bwy bynnag mae eisiau, hyd yn oed y person mwyaf di-nod.’ 18 Dyna'r freuddwyd ges i,” meddai Nebwchadnesar. “Dw i eisiau i ti, Belteshasar, ddweud beth mae'n ei olygu. Does neb arall o ddynion doeth y deyrnas wedi gallu esbonio'r ystyr i mi. Ond dw i'n siŵr y byddi di'n gallu, am fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot ti.”Mae ei awdurdod yn para am byth,
ac mae'n teyrnasu o un genhedlaeth i'r llall.
35 Dydy pobl y byd i gyd yn ddim o'i gymharu ag e.
Mae'n gwneud beth mae ei eisiau
gyda'r grymoedd nefol, a phobl ar y ddaear.
Does neb yn gallu ei stopio
na'i herio drwy ddweud, ‘Beth wyt ti'n wneud?’
36 “Pan ges i fy iacháu, ces fynd yn ôl i fod yn frenin, gydag anrhydedd ac ysblander. Daeth gweinidogion y llywodraeth a'r uchel-swyddogion i gyd i'm gwneud yn frenin unwaith eto. Roedd gen i fwy o awdurdod nag erioed! 37 A dyna pam dw i'n addoli, ac yn rhoi'r clod a'r anrhydedd i gyd i Frenin y nefoedd, sydd bob amser yn gwneud beth sy'n iawn ac yn deg. Mae'n rhoi'r rhai balch yn eu lle!”Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity