DEUTERONOMIUM 11
Mae'r ARGLWYDD mor fawr
1 “Rhaid i chi garu'r ARGLWYDD eich Duw, a gwneud beth mae e eisiau – cadw ei ganllawiau, ei reolau a'i orchmynion bob amser.
2 Cofiwch mai nid gyda'ch plant chi dw i'n siarad, ond gyda chi sydd wedi gweld yr ARGLWYDD yn cosbi. Dych chi wedi gweld mor fawr a chryf a nerthol ydy e.
3 Wnaeth eich plant ddim gweld y pethau ofnadwy wnaeth Duw i'r Pharo a'i bobl yn yr Aifft.
4 Wnaethon nhw ddim gweld beth wnaeth e i fyddin yr Aifft, a'u ceffylau a'u cerbydau. Gwnaeth i'r Môr Coch lifo drostyn nhw a'u boddi nhw pan oedden nhw'n ceisio'ch dal chi.
5 Wnaethon nhw ddim gweld beth wnaeth e i chi yn yr anialwch cyn i chi gyrraedd yma.
6 Gwnaeth yr ARGLWYDD i'r ddaear agor yng nghanol y gwersyll, a dyma Dathan ac Abiram (meibion Eliab o lwyth Reuben), a'u teuluoedd a'u pebyll a'u hanifeiliaid i gyd, yn cael eu llyncu gan y ddaear.
7 Gyda chi dw i'n siarad, am mai chi welodd y pethau mawr yma wnaeth yr ARGLWYDD.
Y tir wnaeth yr ARGLWYDD ei addo
8 “Felly gwrandwch yn ofalus ar y gorchmynion dw i'n eu rhoi i chi heddiw. Wedyn byddwch chi'n gallu mynd i mewn a chymryd y tir
9 wnaeth yr ARGLWYDD ei addo i'ch hynafiaid chi. Mae'n dir ffrwythlon – tir lle mae llaeth a mêl yn llifo.
10 Dydy e ddim yr un fath â'r tir yn yr Aifft, o'r lle daethoch chi. Yno roeddech chi'n hau'r had ac yn gorfod gweithio'n galed i'w ddyfrio, fel gardd lysiau.
11 Na, mae'r wlad dych chi'n croesi afon Iorddonen i'w chymryd, yn wlad o fryniau a dyffrynnoedd, a'r tir yn cael ei ddyfrio gan y glaw sy'n disgyn o'r awyr.
12 Tir mae'r ARGLWYDD eich Duw yn gofalu amdano, o ddechrau'r flwyddyn i'w diwedd.
13 “Os gwrandwch chi'n ofalus ar y gorchmynion dw i'n eu rhoi i chi heddiw, a charu'r ARGLWYDD eich Duw â'ch holl galon ac â'ch holl enaid,
14 mae e'n addo ‘Bydda i'n anfon glaw ar y tir ar yr amser iawn, sef yn yr hydref a'r gwanwyn, er mwyn i chi gasglu'ch cnydau o ŷd a grawnwin ac olewydd.
15 Bydda i'n rhoi porfa i'ch anifeiliaid, a digonedd o fwyd i chi ei fwyta.’
16 “Gwnewch yn siŵr eich bod chi ddim yn troi cefn arno a dechrau addoli duwiau eraill!
17 Os gwnewch chi hynny, bydd yr ARGLWYDD yn digio'n lân hefo chi, ac yn gwneud iddi stopio glawio. Fydd dim cnydau'n tyfu, a byddwch chi'n cael eich symud o'r tir da mae'r ARGLWYDD ar fin ei roi i chi.
18 “Felly dysga'r gorchmynion yma ar dy gof. Rhwyma nhw ar dy freichiau i dy atgoffa di, a gwisga nhw ar dy dalcen i'w cofio.
19 Dysga nhw'n gyson i dy blant, a'u trafod nhw pan fyddi adre yn y tŷ, ac i ffwrdd oddi cartref, pan fyddi'n mynd i gysgu, ac yn codi yn y bore.
20 Ysgrifenna nhw ar ffrâm drws dy dŷ, ac ar giatiau'r dref.
21 Os gwnei di hynny, byddi di a dy ddisgynyddion yn aros yn y wlad wnaeth yr ARGLWYDD ei haddo i dy hynafiaid am byth.
22 “Os gwnewch chi'n union fel dw i'n dweud, caru'r ARGLWYDD eich Duw, byw fel mae e eisiau i chi fyw ac aros yn ffyddlon iddo,
23 byddwch chi'n gyrru allan y bobloedd sydd o'ch blaenau chi, ac yn cymryd tir oddi ar genhedloedd mwy a chryfach na chi.
24 Byddwch chi'n cael pob modfedd sgwâr o dir fyddwch chi'n cerdded arno. Bydd eich ffiniau'n mynd o'r anialwch yn y de i Libanus yn y gogledd, ac o afon Ewffrates yr holl ffordd at Fôr y Canoldir.
25 Fydd neb yn gallu'ch rhwystro chi. Fel gwnaeth e addo i chi, bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn gwneud i chi godi ofn ar bawb, lle bynnag dych chi'n mynd.
26 “Gwrandwch yn ofalus – dw i'n rhoi dewis i chi, rhwng bendith a melltith.
27 Bendith gewch chi os byddwch chi'n ufudd i orchmynion yr ARGLWYDD.
28 Ond melltith gewch chi os byddwch chi'n cymryd dim sylw o'i orchmynion, yn troi cefn ar y ffordd dw i'n ei gosod o'ch blaen chi, ac yn addoli eilun-dduwiau dych chi'n gwybod dim amdanyn nhw.
29 Pan fydd yr ARGLWYDD eich Duw yn mynd â chi i mewn i'r wlad dych chi i'w chymryd, rhaid i chi gyhoeddi'r fendith ar Fynydd Gerisim, a'r felltith ar Fynydd Ebal.
30 Maen nhw'r ochr draw i afon Iorddonen, ar dir y Canaaneaid sy'n byw yn Nyffryn Iorddonen, Ref wrth ymyl Gilgal, heb fod yn bell o dderwen More.
31 “Dych chi ar fin croesi afon Iorddonen i gymryd y tir mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei roi i chi. Dyna lle byddwch chi'n byw.
32 Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw'r rheolau a'r canllawiau dw i wedi'u rhoi i chi heddiw.
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity