DEUTERONOMIUM 13
1 “Falle bydd proffwyd neu rywun sy'n cael gweledigaethau drwy freuddwydion yn dod atoch chi ac yn dweud fod gwyrth ryfeddol yn mynd i ddigwydd.
2 Hyd yn oed os ydy'r wyrth yn digwydd, a'r proffwyd yn ceisio'ch cael chi i addoli duwiau eraill (eilun-dduwiau oeddech chi'n gwybod dim amdanyn nhw o'r blaen),
3 peidiwch gwrando arno. Mae'r ARGLWYDD yn eich rhoi chi ar brawf, i weld os ydych chi wir yn ei garu â'ch holl galon ac â'ch holl enaid.
4 Dych chi i fod i ddilyn yr ARGLWYDD eich Duw, a'i barchu e yn unig. Bod yn ufudd i'w orchmynion, gwneud beth mae e'n ddweud, ei wasanaethu ac aros yn ffyddlon iddo.
5 “Os ydy proffwyd neu rywun sy'n cael gweledigaethau drwy freuddwydion, yn ceisio'ch arwain chi i droi cefn ar yr ARGLWYDD, dylai gael ei ddienyddio. Yr ARGLWYDD eich Duw wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft, a'ch rhyddhau chi o fod yn gaethweision. Rhaid i chi gael gwared â'r drwg sydd yn eich plith chi.
6 “Os ydy un o'ch teulu agosaf, neu'ch ffrind gorau, yn ceisio'ch denu chi i addoli duwiau eraill
7 (sdim ots o lle – eilun-dduwiau'r bobl o'ch cwmpas chi, neu unrhyw le drwy'r byd i gyd),
8 peidiwch gwrando na chymryd unrhyw sylw. Peidiwch teimlo trueni drosto, na gwneud esgusion, na chadw'i ran.
9-10 Rhaid iddo gael ei ladd, drwy daflu cerrig ato. A chi ddylai daflu'r garreg gyntaf ato, ac wedyn pawb arall gyda chi.
11 Bydd pobl Israel yn clywed am y peth, ac yn dychryn, ac wedyn fydd neb yn gwneud y drwg byth eto.
12 “Tasech chi'n clywed yn un o'r trefi mae'r ARGLWYDD eich Duw yn eu rhoi i chi, fod
13 rhyw bobl ddrwg wedi mynd ati i annog pobl y dre i addoli duwiau eraill (eilun-dduwiau oeddech chi'n gwybod dim amdanyn nhw o'r blaen),
14 rhaid i chi ymchwilio i'r mater a holi pobl yn fanwl i ddarganfod os ydy'r stori'n wir. Ac os ydy'n wir fod peth mor ofnadwy wedi digwydd,
15 rhaid i bobl y dref honno gael eu lladd – rhaid i bawb a phopeth byw gael eu lladd, gan gynnwys yr anifeiliaid.
16 Yna rhaid i chi gasglu'r pethau gwerthfawr i ganol sgwâr y dref, a llosgi'r dref a'r cwbl yn offrwm i'r ARGLWYDD eich Duw. Bydd y dref yn cael ei gadael yn domen o adfeilion, a byth i gael ei hadeiladu eto.
17 Peidiwch cadw dim byd sydd i fod i gael ei ddinistrio. Wedyn bydd yr ARGLWYDD yn stopio bod yn ddig, yn teimlo trueni, a bod yn garedig atoch chi, ac yn rhoi lot o blant i chi fel gwnaeth e addo i'ch hynafiaid.
18 “Felly rhaid i chi wneud beth mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei ddweud, cadw'r gorchmynion dw i'n eu pasio ymlaen i chi heddiw, a gwneud beth sy'n iawn yn ei olwg e.
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity