|
|
(Lefiticus 11:1-47)
3 “Peidiwch bwyta unrhyw beth sy'n ffiaidd. 4 Dyma'r anifeiliaid sy'n iawn i'w bwyta: bustach, dafad, gafr, 5 hydd, gasél, carw, gafr wyllt, orycs, antelop, a'r ddafad fynydd. 6 “Gallwch fwyta unrhyw anifail sydd â charn fforchog ac sy'n cnoi cil. 7 Ond peidiwch bwyta camel, ysgyfarnog, a broch y creigiau. (Er eu bod nhw'n cnoi cil, does ganddyn nhw ddim carn fforchog, felly maen nhw i'w hystyried yn aflan.) 8 Peidiwch bwyta cig moch. (Er fod gan fochyn garn fforchog, dydy e ddim yn cnoi cil. Peidiwch hyd yn oed cyffwrdd mochyn sydd wedi marw!) 9 “Gallwch fwyta unrhyw greaduriaid sy'n byw yn y dŵr sydd ag esgyll a chennau arnyn nhw, 10 ond dim byd sydd heb esgyll a chennau – mae'r rheiny i'w hystyried yn aflan. 11 “Gallwch fwyta unrhyw aderyn sy'n lân yn seremonïol. 12 Ond peidiwch bwyta'r rhain: eryr, fwltur, fwltur du, 13 barcud, hebog, bwncath, 14 gwahanol fathau o frain, 15 estrys, tylluan, gwylan, a hebog o unrhyw fath, 16 tylluan fach, tylluan gorniog, tylluan wen, 17 y pelican, eryr y môr, bilidowcar, 18 storc, gwahanol fathau o grëyr, copog, na'r ystlum chwaith. 19 “Mae pryfed sy'n hedfan yn aflan hefyd. Peidiwch bwyta nhw. 20 Gallwch fwyta unrhyw aderyn sy'n lân yn seremonïol. 21 Peidiwch bwyta corff unrhyw anifail neu aderyn sydd wedi marw ohono'i hun. Gallwch ei roi i'r bobl o'r tu allan sy'n byw yn eich pentrefi chi, neu ei werthu i estroniaid. Ond dych chi'n bobl wedi'u cysegru i'r ARGLWYDD eich Duw. “Peidiwch berwi cig gafr ifanc yn llaeth ei fam.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity