|
|
(Lefiticus 25:1-7)
1 “Ar ddiwedd pob saith mlynedd, rhaid cyhoeddi fod dyledion yn cael eu canslo. 2 Dyma beth sydd i ddigwydd: Rhaid i'r credydwr ddileu unrhyw ddyledion sydd gan bobl eraill iddo. Ddylai e ddim gorfodi run o'i gydwladwyr yn Israel i dalu'r ddyled. Mae'r amser i ganslo dyledion wedi dechrau. 3 Gallwch hawlio ad-daliad gan bobl o'r tu allan, ond mae dyledion eich cyd-Israeliaid i gael eu canslo. 4 “Ddylai neb fod mewn angen yn eich plith chi, am fod yr ARGLWYDD yn mynd i'ch bendithio chi yn y wlad mae'n ei rhoi i chi, 5 os byddwch chi'n ufudd ac yn cadw'r holl orchmynion dw i'n eu rhoi i chi heddiw. 6 Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn eich bendithio, fel gwnaeth e addo. Bydd pobl Israel yn benthyg i wledydd eraill, ond ddim yn gorfod benthyca gan unrhyw un. Bydd Israel yn rheoli gwledydd eraill, ond fyddan nhw ddim yn eich rheoli chi. 7 “Os bydd un o bobl Israel, sy'n byw yn un o'ch pentrefi chi, mewn angen, peidiwch bod yn galon-galed ac yn grintachlyd. 8 Yn lle hynny, byddwch yn garedig ac yn hael, a benthyg beth bynnag sydd arno'i angen. 9 Gwnewch yn siŵr eich bod chi ddim yn meddwl pethau drwg pan mae'r seithfed flwyddyn (sef blwyddyn canslo dyledion) yn agosáu. Peidiwch meithrin agwedd anghywir tuag at eich cyd-Israeliad sydd mewn angen, a gwrthod benthyg iddo. Bydd e'n cwyno i'r ARGLWYDD amdanoch chi, a byddwch chi wedi pechu. 10 Dylech chi fod yn frwd i'w helpu, a pheidio bod yn flin eich bod wedi gwneud hynny. Bydd yr ARGLWYDD yn talu'n ôl i chi, ac yn bendithio popeth wnewch chi. 11 Bydd yna bobl dlawd yn y wlad bob amser, a dyna pam dw i'n dweud wrthoch chi am fod yn hael tuag at eich cydwladwyr tlawd.(Exodus 21:1-11)
12 “Os ydy un o'ch pobl, Hebrëwr neu Hebraes, yn gwerthu'i hun i chi, dylai weithio i chi am chwe mlynedd, ond yna ar ddechrau'r seithfed flwyddyn rhaid i chi ei ollwng yn rhydd. 13 A pheidiwch ei anfon i ffwrdd yn waglaw – 14 dylech roi defaid a geifr iddo, a digon o ŷd a gwin. Fel mae'r ARGLWYDD wedi bod yn hael atoch chi, rhaid i chi fod yn hael atyn nhw. 15 Cofiwch eich bod chi wedi bod yn gaethion yn yr Aifft, a bod yr ARGLWYDD wedi'ch gollwng chi'n rhydd. Dyna pam dw i'n gorchymyn i chi wneud hyn heddiw. 16 “Ond os ydy'r gwas yn dweud, ‘Dw i ddim eisiau dy adael di,’ am ei fod yn hapus gyda ti a dy deulu, a bod bywyd yn dda arno, 17 cymer fynawyd a gwneud twll drwy ei glust i'r drws. Wedyn bydd yn was i ti am weddill ei oes (ac mae'r un peth i'w wneud gyda dy forwyn). 18 “Paid cwyno os ydy'r gwas neu'r forwyn am gael mynd yn rhydd. Wedi'r cwbl, byddi wedi cael chwe blynedd o wasanaeth am hanner y gost o gadw gwas cyflog. Bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn bendithio popeth wnei di os byddi di'n ufudd.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity