|
|
(Exodus 12:1-20)
1 “Cadwch Ŵyl y Pasg yn mis Abib, Ref am mai dyna pryd wnaeth yr ARGLWYDD eich Duw eich achub chi o'r Aifft yn ystod y nos. 2 Rhaid i anifail gael ei aberthu i'r ARGLWYDD eich Duw yn y lle mae e wedi'i ddewis – un o'r gwartheg, y defaid neu'r geifr. 3 A pheidiwch bwyta bara gyda burum ynddo. Fel symbol o galedi, rhaid i chi fwyta bara heb furum ynddo am saith diwrnod, am eich bod wedi gadael yr Aifft ar frys. Dych chi i wneud hyn er mwyn cofio, am weddill eich bywydau, y diwrnod hwnnw y daethoch chi allan o'r Aifft. 4 Ddylai fod dim mymryn o furum yn y wlad am saith diwrnod. A ddylai dim o gig yr anifail gafodd ei aberthu gyda'r nos ar y diwrnod cyntaf fod wedi'i adael tan y bore wedyn. 5 “Dydy aberth y Pasg ddim i gael ei ladd yn unrhyw bentref mae'r ARGLWYDD wedi'i roi i chi. 6 Rhaid iddo gael ei aberthu yn y lle mae e wedi'i ddewis iddo'i hun, gyda'r nos, pan mae'r haul yn machlud – sef yr adeg o'r dydd y daethoch chi allan o'r Aifft. 7 Rhaid ei goginio a'i fwyta yn y lle mae'r ARGLWYDD wedi'i ddewis, yna'r bore wedyn cewch fynd yn ôl i'ch pebyll. 8 Bara heb furum ynddo sydd i gael ei fwyta am chwe diwrnod. Yna bydd cyfarfod arbennig i addoli'r ARGLWYDD eich Duw yn cael ei gynnal ar y seithfed diwrnod. Rhaid i chi beidio gweithio ar y diwrnod hwnnw.(Exodus 34:22; Lefiticus 23:15-21)
9 “Saith wythnos ar ôl dechrau'r cynhaeaf ŷd, 10 dych chi i ddathlu Gŵyl y Cynhaeaf Ref o flaen yr ARGLWYDD eich Duw. A rhaid i chi ddod â pheth o'r cynhaeaf mae'r ARGLWYDD wedi'i roi i chi, yn offrwm sy'n cael ei roi'n wirfoddol. 11 Byddwch yn dathlu o'i flaen – gyda'ch meibion a'ch merched, eich gweision a'ch morynion, y rhai o lwyth Lefi sy'n byw yn eich pentrefi, y mewnfudwyr, y plant amddifad a'r gweddwon. 12 Cofiwch eich bod chi wedi bod yn gaethion yn yr Aifft, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cadw'r canllawiau yma dw i'n eu rhoi i chi.(Lefiticus 23:33-43)
13 “Rhaid i chi gadw Gŵyl y Pebyll am saith diwrnod ar ôl i chi orffen casglu'r grawn o'r llawr dyrnu a gwasgu'r grawnwin. 14 Byddwch yn dathlu'r Ŵyl gyda'ch meibion a'ch merched, eich gweision a'ch morynion, y rhai o lwyth Lefi sy'n byw yn eich pentrefi, y mewnfudwyr, y plant amddifad a'r gweddwon. 15 Byddwch yn dathlu o flaen yr ARGLWYDD eich Duw am saith diwrnod, yn y lle mae e wedi'i ddewis, am ei fod e wedi bendithio'ch holl waith chi. Felly bydd gynnoch chi le i ddathlu go iawn! 16 “Felly dair gwaith bob blwyddyn, mae'r dynion i gyd i fynd o flaen yr ARGLWYDD eich Duw yn y lle mae e wedi'i ddewis – ar Ŵyl y Bara Croyw, Gŵyl y Cynhaeaf, a Gŵyl y Pebyll. A rhaid iddyn nhw fynd â rhywbeth i'w offrymu bob tro. 17 Dylai pob un roi beth mae'n gallu, fel mae'r ARGLWYDD wedi'i fendithio.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity