|
|
(Numeri 35:9-34; Josua 20:1-9)
1 “Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn mynd i ddinistrio'r bobloedd yn y wlad dych chi'n mynd i mewn iddi. Byddwch yn cymryd eu tir nhw, ac yn symud i fyw i'w trefi a'u tai. 2-3 Rhaid i chi rannu'r wlad yn dair, dewis tair tref lloches ac adeiladu ffyrdd da i'r trefi hynny. Bydd pwy bynnag sy'n lladd rhywun arall yn gallu dianc am loches i'r agosaf o'r tair tref. 4 “Dyma fydd y drefn os bydd rhywun yn lladd ar ddamwain, heb fod unrhyw ddrwg wedi'i fwriadu. 5 Er enghraifft, lle mae dau ddyn wedi mynd i'r goedwig i dorri coed, ac wrth i un godi'i fwyell, mae blaen y fwyell yn dod i ffwrdd o'r goes ac yn taro'r llall a'i ladd. Mae'r dyn wnaeth ladd yn gallu dianc i un o'r trefi yma. 6 Os na fydd yn gwneud hynny, gall perthynas agosa'r dyn laddwyd ei ddal, a dial arno a'i ladd. Ond doedd e ddim wir yn haeddu hynny, am nad oedd e wedi bwriadu unrhyw ddrwg pan ddigwyddodd y ddamwain. 7 Dyna pam dw i'n gorchymyn i chi ddewis tair tref i'r pwrpas yma. 8 “Wedyn, pan fydd yr ARGLWYDD eich Duw yn rhoi mwy eto o dir i chi, (sef yr holl dir wnaeth e addo ei roi i'ch hynafiaid chi,) 9 a chithau'n gwneud yn siŵr eich bod chi'n cadw'r holl orchmynion dw i'n eu rhoi i chi (sef caru'r ARGLWYDD eich Duw a byw fel mae e eisiau i chi fyw), rhaid i chi ddewis tair tref arall at y tair sydd gynnoch chi eisoes. 10 Does dim eisiau i bobl gael eu dienyddio os ydyn nhw'n ddieuog. Ddylai peth felly ddim digwydd yn y wlad mae'r ARGLWYDD yn ei rhoi i chi. 11 “Ond os ydy rhywun yn casáu person arall, disgwyl amdano, ymosod arno a'i ladd, ac wedyn yn dianc i un o'r trefi yma, dyma sydd i ddigwydd: 12 Rhaid i arweinwyr y dref lle mae'n byw anfon dynion i'w arestio, a gadael i berthynas agosaf y sawl gafodd ei ladd ddial arno a'i ladd e. 13 Peidiwch teimlo trueni dros lofrudd. Ddylai pobl ddiniwed ddim cael eu lladd yn Israel.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity