DEUTERONOMIUM 21
Llofruddiaeth heb ei datrys
1 “Os byddwch chi'n darganfod corff yn rhywle yn y wlad mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi i chi, a neb yn gwybod pwy sydd wedi'i ladd,
2 rhaid i'r arweinwyr a'r barnwyr fynd allan a phenderfynu pa dref sydd agosaf at y corff.
3 Yna rhaid i arweinwyr y dref agosaf gymryd heffer ifanc (un sydd erioed wedi gweithio gydag iau),
4 a mynd â hi i ddyffryn lle mae dŵr yn llifo, ond lle mae'r tir heb ei drin, a dim wedi'i hau yno. Wedyn maen nhw i ladd yr heffer.
5 Yna bydd yr offeiriaid o lwyth Lefi yn camu ymlaen (sef, y rhai sydd wedi'u dewis gan yr ARGLWYDD i'w wasanaethu ac i fendithio pobl ar ei ran, a dyfarnu achosion yn y llysoedd).
6 A bydd arweinwyr y dref agosaf yn golchi'u dwylo uwchben corff yr heffer gafodd ei lladd yn y dyffryn.
7 Yna byddan nhw'n gwneud datganiad, ‘Wnaethon ni ddim lladd y person yma, a does neb yn gwybod pwy wnaeth.
8 Felly, ARGLWYDD, paid rhoi'r bai ar dy bobl Israel a'u dal nhw'n gyfrifol am dywallt gwaed rhywun diniwed.’ A bydd yr ARGLWYDD yn maddau'r drosedd.
9 Dyna sut mae symud yr euogrwydd fod person diniwed wedi'i ladd, a sut mae gwneud beth sy'n iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD.
Sut i drin gwraig wedi'i chymryd yn garcharor rhyfel
10 “Dyma sydd i ddigwydd os byddwch yn mynd i ryfel, a'r ARGLWYDD yn gadael i chi ennill y frwydr, a chymryd pobl yn garcharorion:
11 Os bydd un o'r carcharorion yn ferch hardd, ac un o'ch dynion chi yn ei ffansïo hi ac eisiau ei chymryd hi'n wraig,
12 mae i fynd â hi adre. Rhaid iddi siafio'i phen, a thorri'i hewinedd,
13 a thaflu i ffwrdd y dillad roedd hi'n eu gwisgo pan gafodd ei dal. Yna rhaid iddi aros yn y tŷ am fis cyfan, yn galaru am ei thad a'i mam. Dim ond ar ôl gwneud hynny y gall y dyn ei chymryd hi'n wraig a chael rhyw gyda hi.
14 Os na fydd hi'n ei blesio wedyn, rhaid iddo adael iddi fynd yn rhydd. Dydy e ddim yn gallu'i gwerthu hi. Ddylai e ddim cymryd mantais ohoni, am ei fod eisoes wedi cael rhyw gyda hi.
Siâr y mab hynaf
15 “Cymrwch fod gan ddyn ddwy wraig, ac mae'n caru un fwy na'r llall. Mae'r ddwy yn cael meibion iddo, ond y wraig mae'n ei charu leiaf sydd wedi cael y mab hynaf.
16 Pan mae'r dyn yn rhannu'i eiddo rhwng ei feibion, dydy e ddim i roi siâr y mab hynaf i fab ei hoff wraig, yn lle'i roi i'r mab hynaf go iawn.
17 Rhaid iddo dderbyn mai mab ei wraig arall ydy'r hynaf, a rhoi'r siâr ddwbl i hwnnw. Wedi'r cwbl, fe oedd y mab cyntaf i gael ei eni.
Mab sy'n gwrthryfela
18 “Os oes gan rywun fab penstiff, sy'n gwrthryfela, ac yn gwrthod gwrando ar ei dad a'i fam pan maen nhw'n ei ddisgyblu,
19 rhaid i'w rieni fynd ag e at yr arweinwyr hŷn i'r llys wrth giât y dre.
20 Yna maen nhw i wneud y datganiad yma: ‘Mae ein mab ni'n benstiff ac yn gwrthryfela. Mae e'n gwrthod gwrando ar beth dŷn ni'n ddweud – mae e'n folgi ac yn feddwyn!’
21 Yna rhaid i ddynion y dref ladd y bachgen drwy daflu cerrig ato. Drwy wneud hynny, byddwch chi'n cael gwared â'r drwg o'ch plith. A bydd pobl Israel yn clywed am y peth ac yn dychryn.
Gwahanol gyfreithiau
- 22 Os ydy rhywun yn cael ei ddienyddio am gyflawni trosedd oedd yn haeddu'r gosb eithaf, a'r corff yn cael ei hongian ar bren,
23 rhaid peidio gadael y corff i hongian dros nos. Rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod yn ei gladdu yr un diwrnod. Mae rhywun sydd wedi'i grogi ar bren dan felltith Duw. Rhaid i chi beidio halogi'r wlad mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi i chi.
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity