DEUTERONOMIUM 22
- 1 Os wyt ti'n gweld buwch, dafad neu afr rhywun ar goll, paid â'i hanwybyddu. Dos â'r anifail yn ôl at y perchennog.
2 Os nad wyt ti'n gwybod pwy ydy'r perchennog, neu os ydy e'n byw yn rhy bell, dos â'r anifail adre a gofalu amdano. Ond pan ddaw'r perchennog i edrych amdano, rhaid i ti roi'r anifail yn ôl iddo.
3 Gwna'r un fath gydag unrhyw beth ti'n dod o hyd iddo – asyn, dilledyn, unrhyw beth biau rhywun arall. Paid dim ond anwybyddu'r peth.
- 4 Os wyt ti'n dod ar draws rhywun mewn trafferth am fod ei asyn neu ych wedi syrthio ac yn methu codi, paid â'i anwybyddu. Helpa fe i gael yr anifail ar ei draed unwaith eto.
- 5 Ddylai merch ddim gwisgo dillad dyn, a ddylai dyn ddim gwisgo dillad merch. Mae gwneud peth felly yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD.
- 6 Os wyt ti'n digwydd dod ar draws nyth (mewn coeden neu ar lawr) gyda cywion neu wyau ynddi, a'r iâr yn eistedd arnyn nhw, paid cymryd yr iâr oddi ar y rhai bach.
7 Cei gymryd y rhai bach, ond gad i'r fam fynd. Wedyn bydd pethau'n mynd yn dda i ti, a chei fyw'n hir.
- 8 Wrth adeiladu tŷ newydd, rhaid i ti adeiladu wal isel o gwmpas y to. Wedyn os bydd rhywun yn syrthio oddi ar y to, nid dy fai di fydd e.
- 9 Rhaid peidio plannu unrhyw gnwd arall mewn gwinllan. Bydd beth bynnag gafodd ei blannu, a'r grawnwin, wedi'u halogi ac yn dda i ddim.
- 10 Ddylai ych ac asyn ddim cael eu defnyddio gyda'i gilydd i aredig.
- 11 Paid gwisgo dillad wedi'u gwneud o frethyn sy'n gymysgedd o wlân a llin.
- 12 Gwna daselau i'w gosod ar bedair cornel dy fantell.
Dyn yn cyhuddo'i wraig ifanc
13 “Dyma sydd i ddigwydd os ydy dyn yn priodi merch, ac yn cymryd yn ei herbyn ar ôl cael perthynas rywiol gyda hi.
14 Mae'n ei chyhuddo hi o gamfihafio, ac yn dweud, ‘Dw i wedi priodi'r ferch yma, ond wrth gael rhyw gyda hi, wedi darganfod ei bod hi ddim yn wyryf!’
15 Pan mae hyn yn digwydd, rhaid i rieni'r ferch ifanc fynd â'r dystiolaeth ei bod hi'n wyryf i'w ddangos i arweinwyr y dref yn y llys wrth giatiau'r dref.
16 Yna rhaid i'r tad ddweud wrth yr arweinwyr, ‘Rôn i wedi rhoi fy merch yn wraig i'r dyn yma, ond mae e wedi troi'n ei herbyn hi,
17 a'i chyhuddo hi, ei bod hi ddim yn wyryf. Ond dyma'r prawf ei bod hi'n wyryf!’ Yna rhaid i rieni'r ferch ledu cynfas y gwely priodas o flaen yr arweinwyr, iddyn nhw weld y dystiolaeth.
18 Wedyn rhaid i arweinwyr y dref arestio'r dyn a'i gosbi.
19 Maen nhw i roi dirwy o gant o ddarnau arian iddo, a rhoi'r arian hwnnw i dad y ferch ifanc. Roedd ei gyhuddiad wedi rhoi enw drwg i un o ferched ifanc Israel, a hithau'n wyryf. Bydd y ferch yn aros yn wraig iddo am weddill ei fywyd, a fydd ganddo ddim hawl i'w hysgaru hi.
20 “Ond os ydy'r cyhuddiad yn cael ei brofi'n wir, a'r ferch ifanc ddim yn wyryf,
21 rhaid i ddynion y dref fynd â'r ferch at ddrws tŷ ei thad, a'i lladd drwy daflu cerrig ati. Roedd hi wedi actio fel putain pan oedd hi'n dal i fyw gyda'i rhieni – peth gwarthus i'w wneud yn Israel! Rhaid i chi gael gwared â'r drwg o'ch plith.
22 “Os ydy dyn yn cael ei ddal yn cael rhyw gyda gwraig rhywun arall, rhaid i'r ddau ohonyn nhw farw. Rhaid cael gwared â'r drwg o Israel.
Achosion o anfoesoldeb rhywiol
23 “Os ydy merch, sy'n wyryf ac wedi'i dyweddïo, yn cyfarfod dyn arall yn y dref ac yn cael rhyw gydag e,
24 rhaid mynd â'r ddau ohonyn nhw i'r llys wrth giât y dref a'u lladd nhw drwy daflu cerrig atyn nhw. Mae'r ferch ifanc yn euog am ei bod hi heb weiddi am help, er fod y peth wedi digwydd yn y dref. Ac mae'r dyn i gael ei gosbi am dreisio dyweddi dyn arall. Rhaid cael gwared â'r drwg o'ch plith!
25 “Ond os digwyddodd y peth yng nghefn gwlad, a'r dyn wedi fforsio'i hun arni a'i threisio hi, dim ond y dyn sydd i farw.
26 Dydy'r ferch ifanc ddim i gael ei chosbi o gwbl. Wnaeth hi ddim byd o'i le i haeddu marw. Mae'r un fath â pan mae rhywun wedi ymosod ar berson arall a'i lofruddio –
27 roedd y peth wedi digwydd yng nghefn gwlad, lle doedd neb i'w hachub hi pan oedd hi'n gweiddi.
28 “Os ydy dyn yn cael ei ddal yn treisio merch ifanc sydd heb ei dyweddïo,
29 rhaid i'r dyn dalu pum deg darn arian i'w thad, ac yna priodi'r ferch. Am ei fod e wedi'i threisio hi, fydd e byth yn cael ei hysgaru hi.
30 “Dydy dyn ddim i briodi merch oedd ar un adeg yn wraig i'w dad. Byddai hynny'n amharchu'i dad.
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity