DEUTERONOMIUM 23
Gwahardd o gynulleidfa pobl yr ARGLWYDD
- 1 Dydy dyn sydd â'i geilliau wedi'u niweidio neu ei bidyn wedi'i dorri i ffwrdd ddim i gael perthyn i gynulleidfa pobl yr ARGLWYDD.
- 2 Dydy dyn gafodd ei eni tu allan i briodas ddilys ddim yn cael perthyn i gynulleidfa pobl yr ARGLWYDD. (Na disgynyddion y person hwnnw chwaith, am byth. Ref )
- 3 Dydy pobl Ammon a Moab ddim i gael perthyn i gynulleidfa pobl yr ARGLWYDD. (Na'u disgynyddion nhw chwaith, am byth.)
4 Pan ddaethoch chi allan o'r Aifft, roedden nhw wedi gwrthod rhoi dŵr a bwyd i chi. A dyma nhw hefyd yn talu Balaam fab Beor o Pethor yn Mesopotamia Ref i'ch melltithio chi.
5 Ond dyma'r ARGLWYDD eich Duw yn gwrthod gwrando arno, ac yn troi'r felltith yn fendith! Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn eich caru chi.
6 Felly peidiwch byth gwneud unrhyw beth i helpu Ammon a Moab i lwyddo a ffynnu.
7 “Ond mae pobl Edom yn perthyn i chi, felly rhaid i chi beidio'u ffieiddio nhw. A pheidiwch ffieiddio pobl yr Aifft, gan eich bod wedi byw fel mewnfudwr yn eu gwlad nhw.
8 Gall plant eu plant berthyn i gynulleidfa pobl yr ARGLWYDD.
Cadw'r gwersyll milwrol yn lân
- 9 Pan fyddwch chi'n mynd allan i ymladd yn erbyn eich gelynion, cadwch draw oddi wrth unrhyw beth sydd ddim yn lân.
10 Er enghraifft, os ydy dyn yn gollwng ei had yn ei gwsg, mae'n aflan, a rhaid iddo adael y gwersyll, ac aros allan drwy'r dydd.
11 Yna, gyda'r nos, rhaid iddo olchi'i hun â dŵr. A bydd yn gallu mynd yn ôl i'r gwersyll ar ôl i'r haul fachlud.
- 12 Rhaid trefnu lle tu allan i'r gwersyll i'r dynion fynd i'r tŷ bach.
13 Rhaid i ti fynd â rhaw gyda ti i wneud twll, a gorchuddio dy garthion gyda phridd.
14 Mae'r gwersyll i'w gadw'n lân. Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn cerdded o gwmpas y gwersyll; mae e gyda chi i'ch achub a'ch galluogi chi i ennill y frwydr. Does gynnoch chi ddim eisiau iddo fe weld rhywbeth afiach, a throi cefn arnoch chi.
Cyfreithiau eraill
- 15 Os ydy caethwas o wlad arall wedi dianc i wlad Israel, peidiwch mynd ag e'n ôl i'w feistr.
16 Mae i gael byw ble bynnag mae e eisiau. Caiff ddewis unrhyw un o'ch pentrefi i fynd i fyw yno. Peidiwch â'i gam-drin a chymryd mantais ohono.
- 17 Ddylai merched a dynion ifanc Israel byth wasanaethu fel puteiniaid teml. Ref
- 18 Paid byth dod â thâl putain neu gyflog puteiniwr i deml yr ARGLWYDD dy Dduw er mwyn cadw addewid. Mae'r ddau beth yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD.
- 19 Peidiwch codi llog ar fenthyciad i gyd-Israeliaid – llog ar arian, ar fwyd, nac unrhyw beth arall sydd wedi'i fenthyg.
20 Cewch godi llog ar fenthyciad i bobl sydd ddim yn Israeliaid, ond peidiwch gwneud hynny wrth fenthyg i'ch pobl eich hunain. Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn bendithio popeth wnewch chi yn y wlad dych chi ar fin ei chymryd, os byddwch chi'n ufudd.
- 21 Pan fyddwch chi'n gwneud adduned i'r ARGLWYDD eich Duw, peidiwch oedi cyn ei chyflawni, neu byddwch chi'n cael eich dal yn gyfrifol ganddo.
22 Mae'n well peidio gwneud adduned yn y lle cyntaf.
23 Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cadw'ch adduned, beth bynnag oedd yr adduned honno. Er enghraifft, os gwnaethoch chi addo rhoi rhywbeth iddo yn offrwm gwirfoddol.
- 24 Os ydych chi'n mynd drwy winllan rhywun arall, cewch fwyta faint fynnoch chi o rawnwin, ond peidiwch mynd â dim i ffwrdd mewn basged.
- 25 Os ydych chi'n mynd drwy gae ŷd rhywun, cewch bigo'r tywysennau gyda'ch llaw, ond peidiwch defnyddio cryman i gymryd peth o'r cnwd.
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity