DEUTERONOMIUM 24
Ysgariad ac ailbriodi
- 1 Os ydy dyn wedi priodi, ac yna'n darganfod rhywbeth am ei wraig sy'n codi cywilydd arno, rhaid iddo roi tystysgrif ysgariad iddi cyn ei hanfon hi i ffwrdd.
2 Ar ôl iddi ei adael, mae hi'n rhydd i ailbriodi.
3 Os ydy'r ail ŵr ddim yn hapus gyda hi, rhaid iddo yntau roi tystysgrif ysgariad iddi cyn ei hanfon hi i ffwrdd. Os bydd hynny'n digwydd, neu os bydd e'n marw,
4 dydy'r gŵr cyntaf ddim i gael ei chymryd hi'n ôl, am ei bod hi bellach yn aflan. Byddai peth felly yn ffiaidd yng ngolwg yr ARGLWYDD. Rhaid i chi beidio dod â phechod ar y wlad mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi i chi i'w hetifeddu.
Cyfreithiau amrywiol
- 5 Pan mae dyn newydd briodi, does dim rhaid iddo fynd allan i ymladd yn y fyddin na gwneud unrhyw wasanaeth cyhoeddus arall. Dylai fod yn rhydd i aros adre am flwyddyn gyfan a mwynhau bywyd gyda'i wraig.
- 6 Ddylai neb gymryd maen melin yn warant ar fenthyciad. Byddai gwneud hynny fel cymryd bywyd ei hun yn flaendal.
- 7 Os ydy rhywun yn cael ei ddal yn herwgipio un o'i gyd-Israeliaid, ac yn ei drin fel eiddo a'i werthu, y gosb ydy marwolaeth. Rhaid cael gwared â'r drwg yna o'ch plith.
- 8 Pan fydd rhyw glefyd heintus ar y croen yn dechrau lledu, gwnewch yn union beth mae'r offeiriaid o lwyth Lefi yn ei ddweud. Dylech chi wneud yn union fel dw i wedi gorchymyn iddyn nhw.
9 Cofiwch beth wnaeth yr ARGLWYDD eich Duw i Miriam Ref pan oeddech chi wedi gadael yr Aifft.
- 10 Wrth fenthyg rhywbeth i rywun, paid mynd i mewn i'w dŷ i hawlio beth mae'n ei gynnig yn warant y gwnaiff ei dalu'n ôl.
11 Dylet ddisgwyl y tu allan, a gadael i'r sawl sy'n benthyg gen ti ddod â'i warant allan.
12 Os ydy e'n dlawd, ddylet ti ddim cymryd ei gôt a'i chadw dros nos fel gwystl.
13 Dylet roi'r gôt yn ôl iddo cyn iddi nosi, iddo gysgu ynddi a gofyn i Dduw dy fendithio. Dyna beth sy'n iawn i'w wneud yng ngolwg yr ARGLWYDD eich Duw.
- 14 Os ydy rhywun gwirioneddol dlawd yn gweithio i chi, peidiwch ei gam-drin a chymryd mantais ohono – sdim ots os ydy e'n un o bobl Israel neu'n rhywun o'r tu allan sy'n byw yn eich plith chi.
15 Dylech dalu'i gyflog iddo cyn diwedd y dydd, am ei fod yn dlawd ac angen yr arian i fyw. Os fyddwch chi ddim yn talu iddo, bydd e'n cwyno i'r ARGLWYDD amdanoch chi, a byddwch chi wedi pechu.
- 16 Ddylai rhieni ddim cael eu lladd am droseddau'u plant, na'r plant am droseddau'u rhieni. Dim ond y troseddwr ei hun ddylai farw.
- 17 Peidiwch gwrthod cyfiawnder i fewnfudwyr neu blant amddifad. A pheidiwch cymryd dillad gwraig weddw yn warant ar fenthyciad.
18 Cofiwch eich bod chi wedi bod yn gaethion yn yr Aifft, a bod yr ARGLWYDD wedi'ch gollwng chi'n rhydd. Dyna pam dw i'n gorchymyn i chi wneud hyn i gyd.
- 19 Pan fyddi'n casglu cynhaeaf dy dir, os byddi wedi gadael ysgub yn y cae, paid mynd yn ôl i'w chasglu. Gadael hi i'r bobl dlawd – mewnfudwyr, plant amddifad a gwragedd gweddwon. Wedyn bydd yr ARGLWYDD yn bendithio popeth fyddi di'n ei wneud.
- 20 Pan fyddwch chi'n ysgwyd eich coed olewydd i gasglu'r ffrwyth, peidiwch gwneud hynny ddwywaith. Gadewch beth sydd ar ôl i'r mewnfudwyr, y plant amddifad a'r gweddwon.
- 21 Pan fyddwch chi'n casglu'r grawnwin yn eich gwinllan, peidiwch mynd drwyddi'r ail waith. Gadewch beth sydd ar ôl i'r mewnfudwyr, y plant amddifad a'r gweddwon.
22 Cofiwch eich bod chi wedi bod yn gaethion yn yr Aifft. Dyna pam dw i'n gorchymyn i chi wneud hyn i gyd.
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity