DEUTERONOMIUM 27
Cyfraith Duw wedi'i hysgrifennu ar garreg
1 Yna dyma Moses, ac arweinwyr Israel gydag e, yn dweud wrth y bobl, “Cadwch y gorchmynion dw i'n eu rhoi i chi heddiw.
2 Pan fyddwch chi'n croesi afon Iorddonen i'r wlad mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi i chi, rhaid i chi godi cerrig mawr ac yna rhoi plastr drostyn nhw.
3 Yna ysgrifennu copi o'r gorchmynion yma arnyn nhw. Wedyn gallwch fynd i mewn i'r wlad – tir ffrwythlon lle mae llaeth a mêl yn llifo, fel gwnaeth yr ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, ddweud wrthoch chi.
4 Mae'r cerrig yma i gael eu codi ar Fynydd Ebal, a'u gorchuddio gyda phlastr.
5 Yna dylech adeiladu allor yno i'r ARGLWYDD eich Duw – allor o gerrig sydd heb eu naddu gydag offer haearn.
6 Defnyddiwch gerrig cyfan i adeiladu'r allor, yna cyflwyno offrymau arni – offrymau i'w llosgi'n llwyr i'r ARGLWYDD eich Duw.
7 Hefyd offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, a gallwch wledda a dathlu o flaen yr ARGLWYDD eich Duw.
8 Peidiwch anghofio ysgrifennu copi o'r gorchmynion yma ar y cerrig sy'n cael eu gosod i fyny, a gwnewch yn siŵr eu bod nhw i'w gweld yn glir.”
9 Yna dyma Moses, gyda'r offeiriaid o lwyth Lefi, yn dweud wrth bobl Israel: “Distawrwydd! Gwrandwch arna i, bobl Israel. Heddiw, dych chi wedi'ch gwneud yn bobl i'r ARGLWYDD.
10 Rhaid i chi wrando arno, a chadw'r rheolau a'r canllawiau dw i'n eu rhoi i chi.”
Canlyniad bod yn anufudd
11 Yr un diwrnod, dyma Moses yn gorchymyn i'r bobl:
12 “Ar ôl i chi groesi afon Iorddonen, mae'r llwythau canlynol i sefyll ar Fynydd Gerisim a bendithio'r bobl: Simeon, Lefi, Jwda, Issachar, Joseff a Benjamin.
13 Yna, mae'r llwythau eraill i sefyll ar Fynydd Ebal tra mae'r melltithion yn cael eu cyhoeddi: Reuben, Gad, Asher, Sabulon, Dan a Nafftali.
14 “Bydd y Lefiaid yn cyhoeddi'n uchel wrth bobl Israel:
- 15 ‘Melltith ar rywun sy'n cael crefftwr i gerfio delw neu i wneud eilun o fetel tawdd, ac yna'n ei osod i fyny i'w addoli (hyd yn oed o'r golwg) – mae peth felly yn hollol ffiaidd gan yr ARGLWYDD.’
r A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
- 16 ‘Melltith ar rywun sy'n dangos dim parch at ei dad a'i fam.’
r A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
- 17 ‘Melltith ar bwy bynnag sy'n symud terfyn i ddwyn tir oddi ar rywun arall.’
r A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
- 18 ‘Melltith ar bwy bynnag sy'n dweud wrth rywun dall am fynd y ffordd rong.’
r A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
- 19 ‘Melltith ar bwy bynnag sy'n gwrthod cyfiawnder i fewnfudwyr, plant amddifad a gweddwon.’
r A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
- 20 ‘Melltith ar rywun sy'n cael rhyw gyda gwraig ei dad. Byddai hynny'n amharchu ei dad.’
r A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
- 21 ‘Melltith ar rywun sy'n cael rhyw gydag anifail.’
r A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
- 22 ‘Melltith ar rywun sy'n cael rhyw gyda'i chwaer – merch i'w dad neu'i fam.’
r A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
- 23 ‘Melltith ar rywun sy'n cael rhyw gyda'i fam-yng-nghyfraith.’
r A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
- 24 ‘Melltith ar bwy bynnag sy'n llofruddio rhywun arall.’
r A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
- 25 ‘Melltith ar bwy bynnag sy'n derbyn tâl i lofruddio rhywun diniwed.’
r A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
- 26 ‘Melltith ar bawb sydd ddim yn gwneud pob peth mae'r gyfraith yma'n ei ddweud.’
r A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
I'r pen