|
|
(Numeri 21:31-35)
1 “Yna dyma ni'n troi i'r gogledd, ac yn mynd i gyfeiriad Bashan. A dyma Og brenin Bashan, yn dod â'i fyddin gyfan i ymladd yn ein herbyn ni yn Edrei. 2 Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, ‘Paid bod â'i ofn. Dw i'n mynd i roi Og a'i fyddin a'i dir i gyd i ti. Byddi'n gwneud yr un fath iddo fe ag a wnest ti i Sihon brenin yr Amoriaid oedd yn byw yn Cheshbon.’ 3 “A dyna wnaeth yr ARGLWYDD. Dyma ni'n taro Og, brenin Bashan a'i fyddin i gyd – cawson nhw i gyd eu lladd. 4 Dyma ni'n concro pob un o'i drefi – chwe deg ohonyn nhw – i gyd yn ardal Argob. 5 Roedden nhw i gyd yn gaerau amddiffynnol, gyda waliau uchel a giatiau dwbl hefo barrau i'w cloi. Ac roedd llawer iawn o bentrefi agored yno hefyd. 6 Dyma ni'n gwneud yn union yr un fath ag a wnaethon ni i drefi Sihon, brenin Cheshbon – eu dinistrio nhw i gyd, a lladd pawb oedd yn byw ynddyn nhw, hyd yn oed gwragedd a phlant. 7 Ond dyma ni'n cadw'r anifeiliaid ac unrhyw beth arall oedd yn werthfawr. 8 “Dyna pryd gwnaethon ni gymryd tir dau frenin yr Amoriaid, yr ochr draw i'r Iorddonen – o Ddyffryn Arnon yn y de yr holl ffordd i Fynydd Hermon yn y gogledd. 9 (Sirion ydy enw pobl Sidon ar Hermon, ac mae'r Amoriaid yn ei alw yn Senir.) 10 Roedden ni wedi concro trefi'r byrdd-dir, Gilead i gyd a Bashan, yr holl ffordd i drefi Salca ac Edrei, oedd yn perthyn i deyrnas Og. 11 (Og, brenin Bashan, oedd yr unig un o'r Reffaiaid oedd yn dal ar ôl. Roedd ei arch yn bedwar metr o hyd, a bron dau fetr o led, ac wedi'i gwneud o garreg basalt du. Gellir ei gweld yn Rabba, prif dref yr Ammoniaid.)(Numeri 32:1-42)
12 “Felly, dyma'r tir wnaethon ni ei gymryd i'r dwyrain o afon Iorddonen: dyma fi'n rhoi'r tir sydd i'r gogledd o Aroer, ger Dyffryn Arnon, a hanner bryniau Gilead, i lwythau Reuben a Gad. 13 Wedyn dyma fi'n rhoi gweddill Gilead a theyrnas Og, sef Bashan, i hanner llwyth Manasse. (Roedd ardal Argob i gyd, sef Bashan, yn arfer cael ei galw yn Wlad y Reffaiaid. 14 Dyma Jair, o lwyth Manasse, yn cymryd ardal Argob, sef Bashan. Mae'r ardal yn ymestyn at y ffin gyda Geshwr a Maacha. Rhoddodd ei enw ei hun ar yr ardal – Hafoth-jair – a dyna'r enw ar yr ardal hyd heddiw.) 15 “Dyma fi'n rhoi Gilead i ddisgynyddion Machir, mab Manasse. 16 “Yna i lwythau Reuben a Gad dyma fi'n rhoi'r tir sy'n ymestyn o Gilead i Ddyffryn Arnon (Dyffryn Arnon oedd y ffin), ac ymlaen at Afon Jabboc a ffin Ammon. 17 “Y ffin i'r gorllewin oedd afon Iorddonen, o Lyn Galilea Ref i lawr i'r Môr Marw, Ref gyda llethrau Pisga i'r dwyrain. 18 Dwedais wrthoch chi bryd hynny, ‘Mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi rhoi'r tir yma i chi. Ond rhaid i'ch milwyr chi groesi o flaen gweddill pobl Israel, yn barod i ymladd. 19 Bydd eich gwragedd a'ch plant yn cael aros yn y trefi dw i wedi'u rhoi i chi. A'r holl anifeiliaid sydd gynnoch chi hefyd – mae gynnoch chi lawer iawn o wartheg. 20 Wedyn bydd eich dynion yn cael dod yn ôl pan fydd yr ARGLWYDD wedi rhoi buddugoliaeth i weddill pobl Israel, fel y gwnaeth gyda chi; hynny ydy, pan fyddan nhw wedi cymryd drosodd y tir mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei roi iddyn nhw yr ochr draw i afon Iorddonen.’ 21 “A dyma fi'n dweud wrth Josua, ‘Dych chi wedi gweld beth wnaeth yr ARGLWYDD i'r ddau frenin yna. Bydd yn gwneud yr un fath i'r teyrnasoedd lle dych chi'n mynd. 22 Peidiwch bod ag ofn. Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn ymladd drosoch chi.’Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity