DEUTERONOMIUM 34
Moses yn marw
1 Yna dyma Moses yn mynd o wastatir Moab i ben Mynydd Nebo, ac i gopa Pisga, sydd gyferbyn â Jericho. Dangosodd yr ARGLWYDD y wlad gyfan iddo – o Gilead i Dan,
2 tir Nafftali i gyd, Effraim a Manasse, tir Jwda i gyd yr holl ffordd draw i'r môr,
3 y Negef a'r gwastatir o ddyffryn Jericho (tref y coed palmwydd), yr holl ffordd i Soar.
4 Yna meddai'r ARGLWYDD wrtho, “Dyma'r wlad wnes i ei haddo i Abraham, Isaac a Jacob pan ddwedais, ‘Dw i'n mynd i'w rhoi hi i'ch disgynyddion chi.’ Dw i wedi gadael i ti ei gweld, ond dwyt ti ddim yn mynd i gael croesi drosodd yno.”
5 Felly dyma Moses, gwas yr ARGLWYDD, yn marw yno yn Moab, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud.
6 Cafodd ei gladdu yng ngwlad Moab wrth ymyl Beth-peor, ond does neb yn gwybod yn union yn lle hyd heddiw.
7 Roedd Moses yn 120 oed pan fuodd farw, ond roedd yn dal i weld yn glir, ac mor gryf ag erioed.
8 Buodd pobl Israel yn galaru ar ôl Moses ar wastatir Moab am fis cyfan. Yna daeth y cyfnod o alar i ben.
9 Cyn i Moses farw, roedd e wedi gosod ei ddwylo ar Josua fab Nwn, ac roedd yr ARGLWYDD wedi gwneud Josua yn berson doeth iawn. Roedd pobl Israel yn gwrando arno ac yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.
Teyrnged i Moses
10 Fuodd yna erioed broffwyd arall tebyg i Moses yn Israel – roedd Duw yn delio gydag e wyneb yn wyneb.
11 Gwnaeth bopeth roedd yr ARGLWYDD wedi'i anfon i'r Aifft i'w wneud. Gwnaeth wyrthiau rhyfeddol yn erbyn y Pharo a'i swyddogion, a phawb arall drwy'r wlad.
12 Roedd Moses wedi dangos nerth mawr a gwneud pethau rhyfeddol o flaen pobl Israel i gyd.
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity