ESTHER 10
Mordecai yn fwy a mwy enwog
1 Roedd y Brenin Ahasferus yn gwneud i bawb dalu trethi gorfodol – yr holl ffordd i'r arfordir a'r ynysoedd ar ymylon y deyrnas.
2 Mae'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, ei lwyddiannau milwrol, a'r datganiad am statws Mordecai pan roddodd y brenin ddyrchafiad iddo, wedi'u cofnodi yn sgrôl Hanes Brenhinoedd Media a Persia.
3 Mordecai oedd y swyddog uchaf yn y deyrnas, ar ôl y brenin ei hun. Roedd yn arwr i'r Iddewon ac yn cael ei edmygu'n fawr gan ei bobl i gyd. Roedd yn gwneud ei orau glas dros ei bobl, ac yn ceisio gwneud yn siŵr y byddai'r cenedlaethau i ddod yn saff.
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity