|
|
“Dw i am ganu i'r
ARGLWYDDa dathlu ei fuddugoliaeth:
Mae e wedi taflu'r ceffylau
a'u marchogion i'r môr!
ARGLWYDD sy'n rhoi nerth a chân i mi!Fe sydd wedi fy achub i.
Dyma'r Duw dw i'n ei addoli –
Duw fy nhad, a dw i'n mynd i'w ganmol!
ARGLWYDD ydy ei enw e.Mae'r
ARGLWYDD yn rhyfelwr.4 Mae wedi taflu cerbydau y Pharo
a'i fyddin i gyd i'r môr!
Cafodd eu swyddogion gorau
eu boddi yn y Môr Coch. Ref
5 Daeth y dŵr dwfn drostyn nhw,
a dyma nhw'n suddo i'r gwaelod fel carreg.
6 Mae dy law gref yn rhyfeddol,
ARGLWYDD;dy law gref di wnaeth ddryllio'r gelyn.
7 Am dy fod mor aruthrol fawr,
rwyt ti'n bwrw i lawr y rhai sy'n codi yn dy erbyn –
Ti'n dangos dy fod yn ddig,
ac maen nhw'n cael eu difa fel bonion gwellt.
8 Wrth i ti chwythu dyma'r dŵr yn codi'n bentwr,
y llif yn sefyll fel argae,
a'r dŵr dwfn wedi caledu yng nghanol y môr.
‘Ar eu holau nhw! Dalia i nhw,
a rhannu'r ysbail!
Dw i'n mynd i gael amser da!
Fydd neb ar ôl i'r cleddyf ei daro –
dw i'n mynd i'w dinistrio nhw'n llwyr!’
a dyma'r môr yn llifo drostyn nhw!
Dyma nhw'n suddo fel plwm yn y tonnau gwyllt!
11 Pa un o'r duwiau sy'n debyg i ti,
ARGLWYDD?Does neb tebyg i ti –
mor wych, ac mor sanctaidd,
yn haeddu dy barchu a dy foli;
ti'n gwneud gwyrthiau rhyfeddol!
a dyma'r ddaear yn llyncu'r gelyn!
13 Yn dy gariad byddi'n arwain
y bobl rwyt wedi'u rhyddhau;
byddi'n eu tywys yn dy nerth
i'r lle cysegredig lle rwyt yn byw.
14 Bydd y bobloedd yn clywed ac yn crynu –
bydd pobl Philistia yn poeni,
15 ac arweinwyr Edom wedi brawychu.
Bydd dynion cryf Moab yn crynu,
a phobl Canaan yn poeni.
16 Bydd ofn a braw yn dod drostyn nhw –
mae dy gryfder di yn eu gwneud yn fud
fel carreg.
Fyddan nhw'n gwneud dim nes bydd dy bobl
wedi pasio heibio,
ARGLWYDD;nes i'r bobl wnest ti eu prynu basio heibio.
17 Ond byddi'n mynd â nhw i mewn
ac yn eu plannu ar dy fynydd dy hun –
ble wyt ti wedi dewis byw,
ARGLWYDD;y cysegr rwyt ti wedi'i sefydlu.
ARGLWYDD sy'n teyrnasu am byth bythoedd!19 Pan aeth ceffylau y Pharo, a'i gerbydau a'i filwyr i'r môr,
dyma'r
ARGLWYDD yn gwneud i ddŵr y môr lifo'n ôl drostyn nhw.Ond roedd pobl Israel wedi cerdded ar dir sych drwy ganol y môr.”
“Canwch i'r
ARGLWYDDi ddathlu ei fuddugoliaeth!
Mae wedi taflu'r ceffylau
a'u marchogion i'r môr!”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity