|
|
(Numeri 20:1-13)
1 Dyma bobl Israel i gyd yn gadael Anialwch Sin ac yn teithio yn eu blaenau bob yn dipyn, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud. Dyma nhw'n gwersylla yn Reffidim, ond doedd dim dŵr iddyn nhw ei yfed yno. 2 A dechreuodd y bobl ddadlau gyda Moses, a dweud, “Rhowch ddŵr i ni i'w yfed!” Atebodd Moses, “Pam dych chi'n swnian? Pam dych chi'n profi'r ARGLWYDD?” 3 Ond roedd y fath syched ar y bobl, roedden nhw'n dechrau troi yn erbyn Moses eto, “Pam yn y byd wnest ti ddod â ni allan o'r Aifft? Dŷn ni i gyd yn mynd i farw o syched – ni a'n plant a'n hanifeiliaid!” 4 Dyma Moses yn gweddïo'n daer ar yr ARGLWYDD, “Beth dw i'n mynd i'w wneud? Maen nhw ar fin fy lladd i!” 5 A dyma'r ARGLWYDD yn ateb Moses, “Dos allan o flaen y bobl, gyda'r ffon wnest ti daro afon Nîl gyda hi. A dos â rhai o arweinwyr Israel gyda ti. 6 Bydda i'n disgwyl amdanat ti ar y graig ar Fynydd Sinai. Ref Dw i eisiau i ti daro'r graig, a bydd dŵr yn llifo allan ohoni, i'r bobl gael yfed.” A dyma Moses yn gwneud hynny o flaen llygaid arweinwyr Israel. 7 Dyma fe'n enwi'r lle yn Massa (“Lle'r profi”) a Meriba (“Lle'r ffraeo”), o achos yr holl ffraeo, a'r ffordd wnaeth pobl Israel roi'r ARGLWYDD ar brawf yno drwy ofyn, “Ydy'r ARGLWYDD gyda ni neu ddim?”Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity