|
|
(Deuteronomium 5:6-21)
1 A dyma Duw yn dweud fel yma: ARGLWYDD, eich Duw chi.Fi wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft,
lle roeddech chi'n gaethweision.
3 Does dim duwiau eraill i fod gen ti, dim ond fi.
4 Paid cerfio eilun i'w addoli –
dim byd sy'n edrych fel unrhyw aderyn, anifail na physgodyn.
5 Paid plygu i lawr a'u haddoli nhw.
Dw i, yr
ARGLWYDD dy Dduw di, yn Dduw eiddigeddus.Dw i'n cosbi pechodau'r rhieni sy'n fy nghasáu i,
ac mae'r canlyniadau'n gadael eu hôl ar y plant am dair i bedair cenhedlaeth.
6 Ond dw i'n dangos cariad di-droi'n-ôl am fil o genedlaethau
at y rhai sy'n fy ngharu i ac yn gwneud beth dw i'n ddweud.
ARGLWYDD dy Dduw.Fydda i ddim yn gadael i rywun sy'n camddefnyddio fy enw ddianc rhag cael ei gosbi.
8 Cofia gadw'r dydd Saboth yn sbesial.
Mae'n ddiwrnod cysegredig, gwahanol i'r lleill.
9 Gelli weithio ar y chwe diwrnod arall, a gwneud popeth sydd angen ei wneud.
10 Mae'r seithfed diwrnod i'w gadw yn Saboth i'r
ARGLWYDD.Does neb i fod i weithio ar y diwrnod yma –
ti na dy feibion a dy ferched, dy weision na dy forynion chwaith;
dim hyd yn oed dy anifeiliaid nac unrhyw fewnfudwr sy'n aros gyda ti.
ARGLWYDD wedi creu y bydysawd,y ddaear, y môr a phopeth sydd ynddyn nhw;
wedyn dyma fe'n gorffwys ar y seithfed diwrnod.
Dyna pam wnaeth Duw fendithio'r dydd Saboth,
a'i osod ar wahân, yn ddiwrnod wedi'i gysegru.
12 Rhaid i ti barchu dy dad a dy fam,
a byddi'n byw yn hir yn y wlad mae'r
ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi i ti.16 Paid rhoi tystiolaeth ffals yn erbyn rhywun.
17 Paid chwennych Ref tŷ rhywun arall.
Paid chwennych ei wraig, na'i was, na'i forwyn, na'i darw, na'i asyn,
na dim byd sydd gan rywun arall.”
(Deuteronomium 5:22-33)
18 Roedd y bobl wedi dychryn o achos y mellt a'r taranau, sŵn y corn hwrdd, Ref a'r mynydd yn mygu. Roedden nhw'n crynu mewn ofn, ac eisiau cadw ddigon pell i ffwrdd. 19 Dyma nhw'n dweud wrth Moses, “Siarad di gyda ni, a gwnawn ni wrando. Paid gadael i Dduw siarad â ni, neu byddwn ni'n marw.” 20 Dyma Moses yn ateb, “Peidiwch bod ag ofn. Mae Duw yn eich profi chi, ac eisiau i chi ei barchu e, i chi stopio pechu.” 21 Felly dyma'r bobl yn cadw ddigon pell i ffwrdd, tra aeth Moses at y cwmwl trwchus lle roedd Duw.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity