|
|
(Exodus 36:8-38)
1 “Mae'r Tabernacl ei hun i gael ei wneud o ddeg llen o'r lliain main gorau, gyda lluniau o gerwbiaid wedi'u dylunio'n gelfydd arnyn nhw a'u brodio gydag edau las, porffor a coch. 2 Mae pob llen i fod yn un deg dau metr o hyd a dau fetr o led – i gyd yr un faint. 3 Mae pump o'r llenni i gael eu gwnïo at ei gilydd, a'r pump arall yr un fath. 4 Yna gwneud dolenni o edau las ar hyd ymyl llen olaf pob set – 5 hanner cant o ddolenni ar bob un, fel eu bod gyferbyn a'i gilydd. 6 Wedyn gwneud hanner can bachyn aur i ddal y llenni at ei gilydd, fel bod y cwbl yn un darn. 7 “Yna nesaf gwneud llenni o flew gafr i fod fel pabell dros y Tabernacl – un deg un ohonyn nhw. 8 Mae pob llen i fod yn un deg tri metr o hyd a dau fetr o led – i gyd yr un faint. 9 Mae pump o'r llenni i gael eu gwnïo at ei gilydd, a'r chwech arall i gael eu gwnïo at ei gilydd. Mae'r chweched llen yn yr ail grŵp o lenni i'w phlygu drosodd i wneud mynedfa ar du blaen y babell. 10 Yna gwneud hanner can dolen ar hyd ymyl llen olaf pob set, 11 a hanner can bachyn pres i fynd drwy'r dolenni i ddal y llenni at ei gilydd, a gwneud y cwbl yn un darn. 12 Mae'r hanner llen sydd dros ben i'w adael yn hongian dros gefn y Tabernacl. 13 Yna ar ddwy ochr y Tabernacl bydd yr hanner metr ychwanegol yn golygu fod y darn sy'n hongian dros yr ymyl yn ei gorchuddio hi i'r llawr. 14 “Yna'n olaf, dau orchudd arall dros y cwbl – un wedi'i wneud o grwyn hyrddod wedi'u llifo'n goch, a gorchudd allanol o grwyn môr-fuchod. 15 “Mae fframiau'r Tabernacl i'w gwneud allan o goed acasia. 16 Mae pob un i fod yn bedwar metr o hyd, a chwe deg chwech centimetr o led, 17 gyda dau denon ar bob un i'w cysylltu â'i gilydd. 18 Rhaid gwneud dau ddeg ffrâm i ochr ddeheuol y Tabernacl, 19 a phedwar deg soced arian i ddal y fframiau – dwy soced i'r ddau denon ar bob ffrâm. 20 Wedyn dau ddeg ffrâm ar ochr arall y Tabernacl, sef yr ochr ogleddol. 21 A phedwar deg soced iddyn nhw – dwy soced dan bob ffrâm. 22 Yna chwe ffrâm i gefn y Tabernacl, sef y pen gorllewinol, 23 a dau ffrâm ychwanegol i'r corneli yn y cefn. 24 Yn y corneli, mae dau ffrâm yn ffitio gyda'i gilydd ar y gwaelod, ac yn cael eu dal gyda'i gilydd gan gylch ar y top. Mae'r fframiau ar y ddwy gornel i fod yr un fath. 25 Mae hynny'n gwneud wyth ffrâm gydag un deg chwech o socedi arian – dwy soced dan bob ffrâm. 26-27 “Yna rwyt i wneud croesfarrau o goed acasia – pump i'r fframiau bob ochr i'r Tabernacl, a phump i fframiau cefn y Tabernacl sy'n wynebu'r gorllewin. 28 Mae'r croesfar ar ganol y fframiau i ymestyn o un pen i'r llall. 29 Mae'r fframiau a'r croesfarrau i gael eu gorchuddio gydag aur, ac mae'r cylchoedd sy'n dal y croesfarrau i gael eu gwneud o aur hefyd. 30 “Pan fyddi'n codi'r Tabernacl, rhaid dilyn yr union fanylion gafodd eu rhoi i ti ar y mynydd. 31 “Rwyt i wneud llen arbennig o'r lliain main gorau, gyda lluniau o gerwbiaid wedi'u dylunio'n gelfydd arni, a'u brodio gydag edau las, porffor a coch. 32 Mae'r llen yma i hongian ar bedwar polyn o goed acasia, wedi'u gorchuddio gydag aur a'u gosod mewn socedi arian. 33 Mae'r llen i hongian ar fachau aur, ac wedyn mae Arch y dystiolaeth i'w gosod tu ôl i'r llen. Bydd y llen yn gwahanu'r Lle Sanctaidd oddi wrth y Lle Mwyaf Sanctaidd. 34 Yna mae'r caead i gael ei osod ar Arch y dystiolaeth yn y Lle Mwyaf Sanctaidd. 35 Wedyn mae'r bwrdd a'r menora (sef y stand i'r lampau) i gael eu gosod gyferbyn â'i gilydd tu allan i'r llen – y bwrdd ar ochr y gogledd, a'r menora ar ochr y de. 36 Wedyn rhaid gwneud sgrîn ar gyfer y fynedfa i'r babell. Bydd hon eto wedi'i gwneud o'r lliain main gorau, ac wedi'i brodio gydag edau las, porffor a coch. 37 Mae i hongian ar bump polyn o goed acasia, wedi'u gorchuddio gydag aur. Mae'r bachau i'w gwneud o aur, ac mae pum soced bres i gael eu gwneud i ddal y polion.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity