|
|
(Exodus 38:1-7)
1 “Mae'r allor i gael ei gwneud o goed acasia. Mae hi i fod yn ddau pwynt dau metr sgwâr, ac yn un pwynt tri metr o uchder. 2 Mae cyrn i fod ar bedair cornel yr allor, yn un darn gyda'r allor ei hun. Yna rwyt i'w gorchuddio gyda phres. 3 Mae'r offer i gyd i'w gwneud o bres hefyd – y bwcedi lludw, rhawiau, powlenni taenellu, ffyrc, a'r padellau tân. 4 Hefyd gratin, sef rhwyll wifrog o bres gyda pedwar cylch pres ar y corneli. 5 Mae i'w gosod o dan silff yr allor, hanner ffordd i lawr. 6 Yna gwneud polion i'r allor, allan o goed acasia, a'u gorchuddio nhw gyda pres. 7 Mae'r polion i gael eu gwthio drwy'r cylchoedd fel bod polyn bob ochr i'r allor i'w chario hi. 8 Dylai'r allor gael ei gwneud gyda planciau pren, fel ei bod yn wag y tu mewn. Dylid ei gwneud yn union fel cafodd ei ddangos i ti ar y mynydd.(Exodus 38:9-20)
9 “Yna rhaid gwneud iard y Tabernacl, gyda llenni o'i chwmpas wedi'u gwneud o'r lliain main gorau. Ar yr ochr ddeheuol 10 bydd dau ddeg postyn yn sefyll mewn dau ddeg o socedi pres, gyda bachau ar ffyn arian i ddal y llenni. 11 Yna'r un fath ar yr ochr ogleddol. 12 Ar y cefn, yn wynebu'r gorllewin, mae lled yr iard i fod yn ddau ddeg dau metr o lenni, a deg postyn yn sefyll mewn deg o socedi pres. 13-15 Yna ar y tu blaen, yn wynebu'r dwyrain, dau ddeg dau metr eto – chwe pwynt chwe metr o lenni, gyda tri postyn mewn tair soced bres bob ochr i'r giât. 16 Yna sgrîn y giât yn naw metr o lenni yn hongian ar bedwar postyn mewn pedair soced bres. Bydd y llenni wedi'u gwneud o'r lliain main gorau ac wedi'u brodio gydag edau las, porffor a coch. 17 Bydd y polion o gwmpas yr iard i gyd wedi'u cysylltu gyda ffyn arian a bachau arian arnyn nhw, ac wedi'u gosod mewn socedi pres. 18 Bydd yr iard yn bedwar deg pedwar metr o hyd ac yn ddau ddeg dau metr o led. Mae uchder y llenni i fod yn ddau pwynt dau metr, yn cael eu dal i fyny gan bolion mewn socedi pres. 19 Mae offer y Tabernacl i gyd (popeth sy'n cael ei ddefnyddio yn y defodau), a'r pegiau, i gael eu gwneud o bres.(Lefiticus 24:1-4)
20 “Hefyd, dywed wrth bobl Israel am ddod ag olew olewydd pur i ti, fel bod y lampau wedi'u goleuo'n gyson. 21 Ym mhabell presenoldeb Duw, Ref tu allan i'r llen sydd o flaen Arch y dystiolaeth, bydd Aaron a'i feibion yn cadw'r lampau'n llosgi o flaen yr ARGLWYDD drwy'r nos. Dyna fydd y drefn bob amser i bobl Israel, ar hyd y cenedlaethau.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity