|
|
(Exodus 39:1-7)
1 “Mae dy frawd Aaron a'i feibion, Nadab, Abihw, Eleasar ac Ithamar, i wasanaethu fel offeiriaid i mi. 2 Rhaid i ti wneud gwisgoedd cysegredig i dy frawd Aaron – gwisgoedd hardd fydd yn dangos urddas y gwaith fydd yn ei wneud. 3 Rwyt i siarad â'r crefftwyr gorau, sydd wedi'u donio gen i, iddyn nhw wneud urddwisg i Aaron fydd yn dangos ei fod wedi'i ddewis i wasanaethu fel offeiriad i mi. 4 “Dyma'r gwahanol rannau o'r urddwisg sydd i gael eu gwneud: Y boced sydd i fynd dros y frest, effod, mantell, crys patrymog, twrban a sash. Mae'r dillad cysegredig yma i gael eu gwneud i dy frawd Aaron a'i feibion, fydd yn gwasanaethu fel offeiriaid i mi. 5 Mae'r cwbl i gael eu gwneud o'r lliain main gorau, wedi'i frodio gydag edau aur, glas, porffor a coch. 6 Mae'r effod i gael ei gwneud o'r lliain main gorau, wedi'i ddylunio'n gelfydd a'i frodio gydag edau aur, glas, porffor a coch. 7 Mae dau strap i fynd dros yr ysgwyddau, wedi'u cysylltu i'r corneli, i'w dal gyda'i gilydd. 8 Mae'r strap cywrain wedi'i blethu i fod yn un darn gyda'r effod, wedi'i wneud o'r lliain main gorau, ac wedi'i frodio gydag edau aur, glas, porffor a coch. 9 Yna rwyt i gymryd dwy garreg onics a chrafu enwau meibion Israel arnyn nhw, 10 yn y drefn y cawson nhw eu geni – chwech ar un garreg a chwech ar y llall. 11 Mae crefftwr profiadol i grafu'r enwau ar y cerrig, yr un fath ag mae sêl yn cael ei wneud, ac yna eu gosod mewn gwaith ffiligri o aur. 12 Yna cysylltu'r ddwy garreg i strapiau ysgwydd yr effod, fel cerrig coffa i bobl Israel. Bydd Aaron yn gwisgo'r enwau ar ei ysgwyddau o flaen yr ARGLWYDD. 13 Mae'r ffiligri i gael ei wneud o aur, 14 gyda dwy gadwyn o aur pur wedi'u plethu yn hongian o un i'r llall.(Exodus 39:8-21)
15 “Y darn sy'n mynd dros y frest fydd yn cael ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau. Mae i gael ei gynllunio'n gelfydd gan artist, a'i wneud yr un fath â'r effod – allan o liain main wedi'i frodio gydag edau aur, glas, porffor a coch. 16 Mae i'w blygu yn ei hanner i wneud poced 22 centimetr sgwâr. 17 Wedyn mae pedair rhes o gerrig i'w gosod ynddo: y rhes gyntaf yn rhuddem, topas a beryl; 18 yr ail res yn lasfaen, saffir ac emrallt; 19 y drydedd res yn iasinth, calcedon ac amethyst; 20 a'r bedwaredd yn saffir melyn, onics a iasbis. Maen nhw i gyd i gael eu gosod mewn gwaith ffiligri o aur. 21 Mae pob carreg yn cynrychioli un o lwythau Israel, a bydd enw'r llwyth wedi'i grafu ar y garreg, yr un fath ag mae sêl yn cael ei gwneud. 22 Yna mae cadwyni o aur pur wedi'u plethu i'w gosod arno. 23 Yna gwneud dwy ddolen aur, a'u cysylltu nhw i'r corneli uchaf. 24 Wedyn cysylltu'r ddwy gadwyn aur i'r dolenni hynny, 25 a chysylltu pen arall y cadwyni i strapiau ysgwydd yr effod, ar y tu blaen. 26 Wedyn gwneud dwy ddolen aur arall a'u cysylltu nhw i gorneli isaf y darn sy'n mynd dros y frest, ar yr ymyl fewnol agosaf at yr effod. 27 Yna gwneud dwy ddolen aur arall a'u rhoi nhw ar waelod strapiau ysgwydd yr effod, wrth ymyl y gwnïad sydd uwchben strap yr effod. 28 Mae dolenni'r darn dros y frest i gael eu clymu i ddolenni'r effod gydag edau las, i'w gadw uwchben strap yr effod, yn lle ei fod yn hongian yn rhydd. 29 Felly pan fydd Aaron yn mynd i mewn i'r lle sanctaidd, bydd yn cario enwau llwythau Israel ar ei galon. Byddan nhw ar y darn dros y frest, fel cerrig coffa bob amser i bobl Israel. 30 Yna mae'r Wrim a'r Thwmim Ref i'w rhoi tu mewn i'r darn dros y frest sy'n cael ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau.Croes Byddan nhw ar galon Aaron pan fydd e'n mynd i mewn at yr ARGLWYDD. Mae Aaron i gario'r modd o wneud penderfyniadau dros bobl Israel ar ei galon bob amser pan fydd e'n mynd o flaen yr ARGLWYDD.(Exodus 39:22-31)
31 “Mae'r fantell sy'n mynd gyda'r effod i fod yn las. 32 Mae lle i'r pen fynd drwyddo ar y top, gyda hem o'i gwmpas, wedi'i bwytho fel coler i'w atal rhag rhwygo. 33 Wedyn gosod pomgranadau bach o gwmpas ymylon y fantell, wedi'u gwneud o edau las, porffor a coch. A gosod clychau aur rhyngddyn nhw – 34 y clychau a'r ffrwythau bob yn ail. 35 Mae Aaron i wisgo'r fantell yma pan fydd e'n gwasanaethu, a bydd sŵn y clychau i'w clywed wrth iddo fynd i mewn ac allan o'r Lle Sanctaidd o flaen yr ARGLWYDD, rhag iddo farw. 36 “Yna gwneud medaliwn o aur pur, a chrafu arno y geiriau: ‘Wedi ei gysegru i'r ARGLWYDD’. 37 Mae i gael ei glymu gydag edau las ar du blaen y twrban, 38 ar dalcen Aaron. Bydd Aaron yn cymryd y cyfrifoldeb am unrhyw gamgymeriad sy'n cael ei wneud wrth gyflwyno'r offrymau sanctaidd mae pobl Israel wedi'u neilltuo i Dduw. Rhaid iddo wisgo'r medaliwn ar ei dalcen bob amser fel bod offrymau'r bobl yn dderbyniol. 39 “Mae'r crys patrymog a'r twrban i gael eu gwneud o'r lliain main gorau, gyda'r sash wedi'i frodio. 40 “Yna i feibion Aaron rhaid gwneud crysau, sashiau, a phenwisgoedd. Gwisgoedd hardd fydd yn dangos rhywbeth o urddas y gwaith fyddan nhw'n ei wneud. 41 “Yna byddi'n arwisgo dy frawd Aaron a'i feibion, a'u heneinio, eu hordeinio a'u cysegru nhw i wasanaethu fel offeiriaid i mi. 42 “Rhaid gwneud dillad isaf o liain iddyn nhw, i guddio eu cyrff noeth. Mae'r rhain i'w gwisgo o'r canol at y pen-glin. 43 Rhaid i Aaron a'i feibion wisgo'r rhain pan fyddan nhw'n mynd i mewn i babell presenoldeb Duw, neu i weinyddu wrth yr allor yn y Lle Sanctaidd, rhag iddyn nhw bechu a marw. Dyma fydd y drefn bob amser, i Aaron a'i ddisgynyddion ar ei ôl.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity