EXODUS 30
Yr Allor i losgi Arogldarth
(Exodus 37:25-28)
1 “Rwyt i wneud allor i losgi arogldarth. Gwna hi allan o goed acasia,
2 yn 45 centimetr sgwâr ac yn 90 centimetr o uchder. Mae'r cyrn arni i fod yn un darn gyda'r allor ei hun.
3 Yna gorchuddia hi i gyd gyda haen o aur pur – y top, yr ochrau a'r cyrn. A gosod forder aur o'i chwmpas i'w haddurno.
4 Gosod ddau gylch aur ar ddwy ochr iddi, gyferbyn â'i gilydd o dan y border, i roi'r polion drwyddyn nhw i gario'r allor.
5 Mae'r polion i gael eu gwneud o goed acasia, wedi'u gorchuddio gydag aur.
6 Yna gosod yr allor o flaen y llen mae Arch y dystiolaeth tu ôl iddi (y llen o flaen caead yr Arch sydd dros y dystiolaeth). Dyna lle bydda i'n dy gyfarfod di.
7 “Bob bore, pan fydd Aaron yn trin y lampau, rhaid iddo losgi arogldarth persawrus ar yr allor yma.
8 A'r un fath pan fydd e'n goleuo'r lampau ar ôl iddi ddechrau nosi. Mae hyn i ddigwydd yn rheolaidd ar hyd y cenedlaethau.
9 Rhaid peidio llosgi arogldarth gwahanol arni, na'r offrwm sydd i'w losgi'n llwyr, na'r offrwm o rawn, a rhaid peidio tywallt offrwm o ddiod arni.
10 Ond un waith y flwyddyn bydd Aaron yn puro'r allor, iddi fod yn iawn i'w defnyddio, drwy roi peth o waed yr offrwm dros bechod ar y cyrn. Mae hyn i fod i ddigwydd bob blwyddyn ar hyd y cenedlaethau. Bydd yn cael ei chysegru'n llwyr i'r ARGLWYDD.”
Y Dreth at Wasanaeth y Tabernacl
11 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
12 “Pan fyddi'n cynnal cyfrifiad o bobl Israel, mae pob dyn sy'n cael ei gyfri i dalu iawndal am ei fywyd. Wedyn fydd pla ddim yn eu taro nhw wrth i ti eu cyfrif nhw.
13 Maen nhw i gyd i dalu treth o hanner sicl (sef bron chwe gram o arian) pan maen nhw'n cael eu cyfrif. (Mesur safonol y cysegr sydd i gael ei ddefnyddio – sef un sicl yn pwyso dau ddeg gera.) Mae'r arian yma i'w roi'n offrwm i'r ARGLWYDD.
14 Mae pob un sy'n ugain oed neu'n hŷn i roi offrwm i'r ARGLWYDD.
15 Dydy'r cyfoethog ddim i roi mwy, a'r tlawd ddim i roi llai. Mae pob un i dalu'r hanner sicl yn iawndal am ei fywyd.
16 Rwyt i gasglu'r arian gan bobl Israel a'i roi tuag at gynnal pabell presenoldeb Duw. Bydd yn atgoffa'r ARGLWYDD o bobl Israel, eu bod wedi talu iawndal am eu bywydau.”
Y ddysgl fawr bres
17 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
18 “Rwyt hefyd i wneud dysgl fawr bres gyda stand bres oddi tani. Mae hon ar gyfer ymolchi, i'w gosod rhwng pabell presenoldeb Duw a'r allor, a'i llenwi â dŵr.
19 Bydd Aaron a'i feibion yn golchi eu dwylo a'u traed ynddi.
20 Maen nhw i ymolchi â dŵr pan fyddan nhw'n mynd i mewn i babell presenoldeb Duw, rhag iddyn nhw farw. A hefyd pan fyddan nhw'n mynd at yr allor i losgi offrwm i'r ARGLWYDD.
21 Maen nhw i olchi eu dwylo a'u traed, rhag iddyn nhw farw. Dyma fydd y drefn bob amser, ar hyd y cenedlaethau.”
Yr Olew eneinio
22 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
23 “Cymer y perlysiau gorau – pum cilogram a hanner o fyrr, hanner hynny (sef dau gilogram a thri-chwarter) o sinamon melys, yr un faint o sbeisiau pêr,
24 a phum cilogram a hanner o bowdr casia (a defnyddia fesur safonol y cysegr i bwyso'r rhain). Hefyd pedwar litr o olew olewydd.
25 Mae'r rhain i gael eu defnyddio i wneud olew eneinio cysegredig – cymysgedd persawrus wedi'i wneud gan arbenigwr yn y grefft o wneud persawr.
26 Mae'r olew yma i gael ei ddefnyddio i eneinio pabell presenoldeb Duw, Arch y dystiolaeth,
27 y bwrdd a'i lestri i gyd, y menora (sef y stand i'r lampau) a'i hoffer, allor yr arogldarth,
28 yr allor i losgi'r offrymau a'r offer sy'n mynd gyda hi, a'r ddysgl fawr gyda'i stand.
29 Dyna sut maen nhw i gael eu cysegru, a byddan nhw'n sanctaidd iawn. Bydd unrhyw beth fydd yn eu cyffwrdd yn gysegredig.
30 Rwyt hefyd i eneinio Aaron a'i feibion, a'u cysegru nhw i wasanaethu fel offeiriaid i mi.
31 Ac rwyt i ddweud wrth bobl Israel, ‘Hwn fydd yr olew eneinio cysegredig ar hyd y cenedlaethau.
32 Dydy e ddim i gael ei ddefnyddio ar bobl gyffredin, a does neb i wneud olew tebyg iddo gyda'r un cynhwysion. Mae'n gysegredig, a rhaid i chi ei drin yn sanctaidd.
33 Os bydd rhywun yn gwneud cymysgedd tebyg iddo, neu yn ei ddefnyddio ar rywun sydd ddim yn offeiriad, bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.’”
Yr Arogldarth
34 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Cymer berlysiau, sef gwm resin, onicha a galbanwm, gyda'r un faint o fyrr pur,
35 a'u cymysgu i wneud arogldarth – cymysgedd persawrus wedi'i wneud gan arbenigwr yn y grefft o wneud persawr. Rhaid iddo fod wedi'i falu'n fân, ac yn gymysgedd pur, cysegredig.
36 Mae peth ohono i gael ei falu yn llwch mân, a'i roi o flaen Arch y dystiolaeth tu mewn i babell presenoldeb Duw, lle bydda i'n dy gyfarfod di. Rhaid iddo gael ei drin yn sanctaidd iawn.
37 Does neb i ddefnyddio'r un cynhwysion i wneud arogldarth tebyg iddo. Arogldarth yr ARGLWYDD ydy e, ac mae i gael ei drin yn sanctaidd.
38 Os bydd rhywun yn gwneud cymysgedd tebyg iddo i bwrpas arall, bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.”
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity