|
|
(Exodus 27:1-8)
1 Yna dyma fe'n gwneud yr allor i losgi'r aberthau. Gwnaeth hi o goed acasia, yn ddau pwynt dau metr sgwâr, ac yn un pwynt tri metr o uchder. 2 Gwnaeth gyrn ar bedair cornel yr allor, yn un darn gyda'r allor ei hun. Yna ei gorchuddio gyda phres. 3 Pres ddefnyddiodd i wneud yr offer i gyd hefyd – y bwcedi lludw, rhawiau, powlenni taenellu, ffyrc, a'r padellau tân. 4 Yna gwnaeth y gratin, sef rhwyll wifrog o bres o dan silff yr allor, hanner ffordd i lawr. 5 A gwnaeth bedwar cylch i'w gosod ar bedair cornel y gratin, i roi'r polion drwyddyn nhw. 6 Yna gwnaeth y polion allan o goed acasia, a'u gorchuddio nhw gyda phres. 7 Yna gwthiodd y polion drwy'r cylchoedd bob ochr i'r allor, i'w chario hi. Roedd yr allor yn wag y tu mewn, wedi'i gwneud gyda planciau o bren.(Exodus 30:18)
8 Yna gwnaeth y ddysgl fawr bres a'i stand bres allan o ddrychau y gwragedd oedd yn gwasanaethu wrth y fynedfa i babell presenoldeb Duw.(Exodus 27:9-19)
9 Yna gwnaeth yr iard. Roedd yr ochr ddeheuol yn bedwar deg pedwar metr o hyd, a'r llenni wedi'u gwneud o'r lliain main gorau. 10 Roedd yna ddau ddeg postyn yn sefyll mewn dau ddeg o socedi pres, a bachau ar ffyn arian i ddal y llenni. 11 A'r un fath ar yr ochr ogleddol. 12 Ar ochr y gorllewin, dau ddeg dau metr o lenni, gyda deg postyn yn sefyll mewn deg o socedi pres, gyda'r bachau a'r ffyn arian. 13-15 Ar y tu blaen, yn wynebu'r dwyrain, dau ddeg dau metr eto – chwe pwynt chwe metr o lenni, gyda tri postyn mewn tair soced bres, bob ochr i'r giât. 16 Roedd y llenni o gwmpas yr iard i gyd wedi'u gwneud o'r lliain main gorau. 17 Y socedi yn bres. Y bachau a'r ffyn yn arian. Top y polion wedi'u gorchuddio gydag arian, a rhimyn o arian yn rhedeg o gwmpas y polion. 18 Roedd y sgrîn o flaen y fynedfa yn naw metr o hyd – llenni wedi'u gwneud o'r lliain main gorau ac wedi'u brodio gydag edau las, porffor a coch. Fel llenni'r iard ei hun, roedden nhw'n ddau pwynt dau metr o uchder, 19 ac yn cael eu dal ar bedwar polyn mewn pedwar soced bres. Roedd y bachau a'r ffyn yn arian, ac roedd top y polion wedi'u gorchuddio gydag arian. 20 Roedd pegiau y Tabernacl a'r iard o'i gwmpas wedi'u gwneud o bres.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity