|
|
(Exodus 28:1-14)
1 Dyma nhw'n gwneud gwisgoedd i'r rhai fyddai'n gwasanaethu yn y cysegr – gwisgoedd wedi'u brodio'n hardd gydag edau las, porffor a coch. Gwisgoedd cysegredig i Aaron, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. 2 Roedd yr effod wedi'i gwneud o'r lliain main gorau, wedi'i frodio gydag aur, glas, porffor a coch. 3 Dyma'r crefftwyr yn gwneud dalen denau, denau o aur a'i thorri yn stribedi main a'u gwnïo i'r patrwm gyda'r edau las, porffor a coch; y cwbl wedi'i ddylunio'n gelfydd. 4 Dyma nhw'n gwneud dau strap i fynd dros yr ysgwyddau, wedi'u cysylltu i'r corneli, i'w dal gyda'i gilydd. 5 Ac roedd strap cywrain wedi'i blethu i fod yn un darn gyda'r effod. Roedd wedi'i wneud o'r lliain main gorau, ac wedi'i frodio gydag aur, ac edau las, porffor a coch, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. 6 Yna dyma nhw'n gosod y cerrig onics mewn gwaith ffiligri o aur, a chrafu enwau meibion Israel arnyn nhw, yr un fath ag mae sêl yn cael ei gwneud. 7 Yna eu rhoi nhw ar strapiau ysgwydd yr effod, fel cerrig coffa i bobl Israel, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.(Exodus 28:15-30)
8 Wedyn dyma nhw'n gwneud y darn sy'n mynd dros y frest, wedi'i gynllunio'n gelfydd gan artist. Ei wneud yr un fath â'r effod – allan o liain main wedi'i frodio gydag aur, ac edau las, porffor a coch. 9 Roedd wedi'i blygu drosodd i wneud poced 22 centimetr sgwâr. 10 Yna gosod pedair rhes o gerrig arno: y rhes gyntaf yn rhuddem, topas a beryl; 11 yr ail res yn lasfaen, saffir ac emrallt; 12 y drydedd res yn iasinth, calcedon ac amethyst; 13 a'r bedwaredd yn saffir melyn, onics a iasbis – pob un wedi'i gosod mewn gwaith ffiligri o aur. 14 Roedd pob carreg yn cynrychioli un o feibion Israel – un deg dau enw wedi'u crafu arnyn nhw, yr un fath ag mae sêl yn cael ei gwneud. 15 A dyma nhw'n gwneud cadwyni o aur pur wedi'u plethu i'w gosod ar y darn sy'n mynd dros y frest. 16 Yna gwneud dau ffiligri o aur a dwy ddolen aur, a chysylltu'r dolenni i ddwy gornel uchaf y darn sy'n mynd dros y frest. 17 Wedyn cysylltu'r ddwy gadwyn aur i'r dolenni hynny, 18 a chysylltu pen arall y cadwyni i'r ddau ffiligri, a rhoi'r rheiny ar strapiau ysgwydd yr effod, ar y tu blaen. 19 Wedyn gwneud dwy ddolen aur arall a'u cysylltu nhw i gorneli isaf y darn sy'n mynd dros y frest, ar yr ymyl fewnol agosaf at yr effod. 20 Yna gwneud dwy ddolen aur arall eto, a'u rhoi nhw ar waelod strapiau ysgwydd yr effod wrth ymyl y gwnïad sydd uwchben strap yr effod. 21 Wedyn clymu dolenni'r darn dros y frest i ddolenni'r effod gydag edau las, i'w gadw uwchben strap yr effod, yn lle ei fod yn hongian yn rhydd. Roedd hyn i gyd yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.(Exodus 28:31-43)
22 Gwnaeth gwehydd y fantell sy'n mynd gyda'r effod i gyd yn las. 23 Roedd lle i'r pen fynd drwyddo yn y canol, gyda hem o'i gwmpas, wedi'i bwytho fel coler i'w atal rhag rhwygo. 24 Wedyn roedd pomgranadau bach o gwmpas ymylon y fantell, wedi'u gwneud o edau las, porffor a coch, a lliain main. 25 Ac yna gwneud clychau o aur pur a'u gosod nhw rhwng y pomgranadau ar ymylon y fantell – 26 clychau a ffrwythau bob yn ail o gwmpas y fantell fyddai'n cael ei gwisgo i wasanaethu, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. 27 Wedyn dyma nhw'n gwneud crysau o liain main i Aaron a'i feibion. 28 Hefyd twrban a phenwisgoedd o liain main, a dillad isaf o'r lliain main gorau. 29 Ac roedd y sash i'w wneud o'r lliain main gorau hefyd, wedi'i frodio gydag edau las, porffor a coch, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. 30 Wedyn gwneud medaliwn o aur pur, y symbol ei fod wedi'i gysegru i waith Duw, a chrafu arno (fel ar sêl) y geiriau: ‛Wedi ei gysegru i'r ARGLWYDD‛. 31 Wedyn ei glymu ar du blaen y twrban gydag edau las, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.(Exodus 35:10-19)
32 Felly roedd yr holl waith ar y Tabernacl (sef pabell presenoldeb Duw) wedi'i orffen. Roedd pobl Israel wedi gwneud popeth yn union fel dwedodd yr ARGLWYDD wrth Moses. 33 Felly dyma nhw'n dod â'r Tabernacl at Moses, sef y babell ei hun a'r darnau eraill i gyd: y bachau, y fframiau, y trawstiau, y polion a'r socedi. 34 Y gorchudd o grwyn hyrddod wedi'u llifo'n goch, y gorchudd o grwyn môr-fuchod, a llen y sgrîn. 35 Yna Arch y dystiolaeth, y polion i'w chario, a'i chaead (sef Caead y Cymodi), 36 y bwrdd a'i holl gelfi, a'r bara cysegredig. 37 Y menora gyda'i lampau mewn trefn, yr offer oedd gyda hi, a'r olew i'w goleuo. 38 Yr Allor Aur, yr olew eneinio, yr arogldarth persawrus, y sgrîn ar gyfer y fynedfa i'r babell. 39 Yr Allor Bres a'i grât o bres, y polion i'w chario, a'i hoffer i gyd. Y ddysgl fawr a'i stand. 40 Y llenni ar gyfer y wal o gwmpas yr iard, y polion i'w dal a'r socedi, y sgrîn ar gyfer y fynedfa i'r iard, y rhaffau a'r pegiau, a'r holl offer oedd ei angen ar gyfer y gwaith yn y Tabernacl, sef pabell presenoldeb Duw. 41 Hefyd gwisgoedd y rhai fyddai'n gwasanaethu yn yr addoliad yn y lle sanctaidd (i gyd wedi'u brodio'n hardd), a gwisgoedd cysegredig Aaron yr offeiriad, a'i feibion fyddai hefyd yn gwasanaethu fel offeiriaid. 42 Roedd pobl Israel wedi gwneud y gwaith i gyd yn union fel dwedodd yr ARGLWYDD wrth Moses. 43 Yna dyma Moses yn archwilio'r cwbl, ac yn wir, roedd y cwbl wedi'i wneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud. A dyma Moses yn eu bendithio nhw.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity