EXODUS 40
Codi a chysegru'r Tabernacl
1 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
2 “Ar ddiwrnod cynta'r flwyddyn Ref rwyt i godi'r Tabernacl – pabell presenoldeb Duw.
3 Rho Arch y dystiolaeth ynddi, gyda'r sgrîn o'i blaen yn cuddio'r Arch.
4 Yna dod â'r bwrdd i mewn, a gosod popeth mewn trefn arno. Wedyn y menora, a gosod ei lampau yn eu lle arni.
5 Rho'r allor aur (allor yr arogldarth) o flaen Arch y dystiolaeth, a sgrîn wrth y fynedfa i'r Tabernacl.
6 Yna gosod yr allor i losgi'r offrymau o flaen y fynedfa i'r Tabernacl, pabell presenoldeb Duw.
7 Rho'r ddysgl fawr rhwng pabell presenoldeb Duw a'r allor, a'i llenwi â dŵr.
8 Yna gosod yr iard o'i chwmpas, a hongian llenni mynedfa'r iard.
9 “Wedyn cymer yr olew eneinio, a'i daenellu ar y Tabernacl a phopeth sydd ynddi, i'w cysegru a'u gwneud yn sanctaidd.
10 Eneinia'r allor i losgi'r offrymau a'i hoffer i gyd. Cysegra'r allor i'w gwneud hi'n gwbl sanctaidd.
11 Yna eneinia'r ddysgl fawr a'i stand, i'w chysegru hi.
12 “Wedyn rwyt i ddod ag Aaron a'i feibion at fynedfa pabell presenoldeb Duw a'u golchi nhw â dŵr.
13 Arwisga fe gyda'r gwisgoedd cysegredig, a'i eneinio a'i gysegru i wasanaethu fel offeiriad i mi.
14 Wedyn arwisga'r meibion yn eu crysau,
15 a'u heneinio nhw fel gwnest ti eneinio eu tad, iddyn nhw wasanaethu fel offeiriaid i mi. Drwy eu heneinio ti'n rhoi'r cyfrifoldeb iddyn nhw o wasanaethu fel offeiriaid i mi ar hyd y cenedlaethau.”
16 Felly dyma Moses yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho.
17 Cafodd y Tabernacl ei godi ar ddiwrnod cynta'r ail flwyddyn. Ref
18 Dyma Moses yn ei godi drwy roi'r socedi yn eu lle, yna codi'r fframiau, cysylltu'r croesfarrau a rhoi'r polion yn eu lle.
19 Wedyn dyma fe'n lledu'r babell dros fframwaith y Tabernacl, a'r gorchudd dros hwnnw, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
20 Yna dyma fe'n gosod Llechi'r Dystiolaeth yn yr Arch, cysylltu'r polion iddi a rhoi'r caead arni.
21 Wedyn mynd â'r Arch i'r Tabernacl a gosod llen y sgrîn o'i blaen, i guddio Arch y Dystiolaeth, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
22 Wedyn dyma fe'n gosod y bwrdd tu mewn i babell presenoldeb Duw, ar ochr ogleddol y Tabernacl, o flaen y sgrîn.
23 A gosod y bara mewn trefn ar y bwrdd, o flaen yr ARGLWYDD, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
24 Wedyn gosod y menora tu mewn i babell presenoldeb Duw, gyferbyn â'r bwrdd ar ochr ddeheuol y Tabernacl.
25 Yna gosod y lampau yn eu lle arni, o flaen yr ARGLWYDD, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
26 Wedyn rhoi'r allor aur (allor yr arogldarth) tu mewn i babell presenoldeb Duw, o flaen y sgrîn,
27 a llosgi arogldarth persawrus arni, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
28 Wedyn gosod y sgrîn wrth y fynedfa i'r Tabernacl.
29 Rhoddodd yr allor i losgi'r offrymau o flaen y fynedfa i'r Tabernacl hefyd, sef pabell presenoldeb Duw. Yna cyflwyno offrymau i'w llosgi ac offrymau o rawn arni fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
30 Wedyn gosod y ddysgl fawr rhwng pabell presenoldeb Duw a'r allor, a'i llenwi hi â dŵr ar gyfer ymolchi.
31 Byddai Moses ac Aaron a'i feibion yn golchi eu dwylo a'u traed gyda'r dŵr ynddi.
32 Bydden nhw'n ymolchi bob tro roedden nhw'n mynd i mewn i babell presenoldeb Duw neu'n mynd at yr allor, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
33 Wedyn dyma fe'n gosod yr iard o gwmpas y Tabernacl a'r allor, a rhoi'r sgrîn o flaen y fynedfa i'r iard. Felly dyma Moses yn gorffen y gwaith.
Y cwmwl dros babell presenoldeb Duw
(Numeri 9:15-23)
34 A dyma'r cwmwl yn dod i lawr dros babell presenoldeb Duw, ac roedd ysblander yr ARGLWYDD yn ei llenwi (sef y Tabernacl).
35 Doedd Moses ddim yn gallu mynd i mewn i'r babell o achos y cwmwl oedd wedi setlo arni, ac am fod ysblander yr ARGLWYDD yn ei llenwi.
36 Pan oedd y cwmwl yn codi oddi ar y Tabernacl, roedd pobl Israel yn mynd ymlaen ar eu taith.
37 Os nad oedd y cwmwl yn codi, doedden nhw ddim yn symud o'u lle.
38 Roedd cwmwl yr ARGLWYDD ar y Tabernacl yn ystod y dydd, ac roedd tân yn y cwmwl drwy'r nos. Roedd pobl Israel i gyd yn gallu ei weld, yr holl amser buon nhw'n teithio.
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity