ESECIEL 11
Bydd Jerwsalem yn Syrthio
1 Dyma'r ysbryd yn fy nghodi ac yn mynd â fi at giât ddwyreiniol teml yr ARGLWYDD. Yno, wrth y fynedfa i'r giât, dyma fi'n gweld dau ddeg pump o ddynion. Yn eu plith roedd Iaasaneia fab Asswr a Plateia fab Benaia, oedd yn arweinwyr sifil.
2 A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Ddyn, y dynion yma sydd yn cynllwynio drwg ac yn rhoi cyngor gwael i bobl y ddinas.
3 ‘Fydd dim angen adeiladu tai yn y dyfodol agos,’ medden nhw. ‘Y crochan ydy'r ddinas yma, a ni ydy'r cig sy'n cael aros ynddo.’
4 Felly, proffwyda yn eu herbyn nhw! Gad iddyn nhw glywed y neges yn glir, ddyn!”
5 A dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod arna i, a dwedodd wrtho i am ddweud: “Dyma neges yr ARGLWYDD: ‘Dyna beth ydych chi'n ddweud, ie? Wel, dw i'n gwybod beth sy'n mynd drwy eich meddyliau chi!Croes
6 Chi sy'n gyfrifol am farwolaeth llawer iawn o bobl yn y ddinas yma. Mae ei strydoedd yn llawn o gyrff y meirw.’
7 Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Y ddinas yma ydy'r crochan, a'r holl gyrff meirw sydd wedi'u taflu ar y strydoedd ydy'r cig. Chi ydy'r rhai dw i'n mynd i'w taflu allan!
8 Mae gynnoch chi ofn i'r gelyn ymosod gyda'i gleddyf. Wel, bydda i'n gwneud i'r gelyn hwnnw ymosod arnoch chi,’ meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.
9 ‘Bydda i'n eich barnu chi, drwy eich taflu chi allan o'r ddinas a'ch rhoi chi yn nwylo pobl o wlad arall.
10 Byddwch chi'n cael eich lladd yn y rhyfel. Bydd y farn yma'n digwydd o fewn ffiniau gwlad Israel, a byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.
11 Fydd y ddinas yma ddim yn grochan i chi, a nid chi fydd y cig ynddo! Bydda i'n eich barnu chi ar dir Israel,
12 a byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD. Dych chi wedi torri fy rheolau i, a gwrthod gwrando arna i. Dych chi wedi ymddwyn fel pobl y gwledydd paganaidd o'ch cwmpas chi!’”
13 Wrth i mi gyhoeddi'r neges yma, dyma Plateia fab Benaia yn syrthio'n farw. A dyma fi'n mynd ar fy wyneb ar lawr, a gweddïo'n uchel ar Dduw, “O na! ARGLWYDD, Feistr. Wyt ti'n mynd i ladd pawb sydd ar ôl yn Israel?”
Gair o gysur i'r bobl yn y gaethglud
14 Yna dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges arall i mi:
15 “Ddyn, mae'r bobl sy'n byw yn Jerwsalem wedi bod yn dweud am dy frodyr a dy berthnasau di a phawb o bobl Israel sydd wedi'u cymryd yn gaethion, ‘Maen nhw'n bell i ffwrdd oddi wrth yr ARGLWYDD. Mae'r wlad yma wedi cael ei rhoi i ni bellach.’
16 “Felly dywed di fel yma: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Er fy mod i wedi'u hanfon nhw yn bell i ffwrdd, a'u chwalu nhw drwy'r gwledydd eraill, dw i fy hun wedi bod yn lle saff iddyn nhw aros dros dro yn y gwledydd hynny.’
17 “Dwed fel yma: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud wrthyn nhw: Dw i'n mynd i'ch casglu chi o'r gwledydd lle dych chi ar chwâl, a dw i'n mynd i roi gwlad Israel yn ôl i chi.’
18 “Byddan nhw'n dod yn ôl ac yn cael gwared â'r holl eilunod a'r pethau ffiaidd sy'n cael eu gwneud yma.
19 Bydda i'n rhoi calon newydd iddyn nhw, ac ysbryd newydd hefyd. Bydda i'n cael gwared â'r galon galed, ystyfnig sydd ynddyn nhw, ac yn rhoi calon dyner iddyn nhw.
20 Byddan nhw'n cadw fy rheolau i, ac yn gwneud beth dw i'n ddweud. Nhw fydd fy mhobl i, a fi fydd eu Duw nhw.
21 Ond am y bobl hynny sy'n addoli'r eilunod ac yn mynd drwy'r defodau ffiaidd yma, bydda i'n talu'n ôl iddyn nhw am beth maen nhw wedi'i wneud.” Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud.
Ysblander Duw yn gadael Jerwsalem
22 Yna dyma'r cerwbiaid yn lledu eu hadenydd i hedfan. Roedd yr olwynion wrth eu hymyl, ac ysblander Duw Israel yn hofran uwch eu pennau.
23 Dyma ysblander yr ARGLWYDD yn codi a gadael y ddinas, yna aros uwchben y mynydd sydd i'r dwyrain o'r ddinas. Ref
24 Yna cododd yr ysbryd fi, ac aeth Ysbryd Duw a fi yn ôl yn fy ngweledigaeth at y caethion yn Babilon. A dyna ddiwedd y weledigaeth.
25 Felly dyma fi'n dweud wrth y bobl yn y gaethglud am bopeth roedd yr ARGLWYDD wedi'i ddangos i mi.
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity