|
|
‘Sut un oedd dy fam di?
Onid llewes gyda'r llewod,
yn gorwedd gyda'r llewod ifanc
ac yn magu ei chenawon?
a thyfodd i fod yn llew ifanc cryf.
Dysgodd sut i hela a rhwygo'i ysglyfaeth;
roedd yn bwyta cnawd dynol.
4 Clywodd y gwledydd o'i gwmpas amdano,
a chafodd ei ddal yn eu trap.
Dyma nhw'n ei gymryd gyda bachau
yn gaeth i'r Aifft.
5 Pan welodd y fam ei fod wedi mynd,
a bod ei gobaith wedi chwalu,
cymerodd un arall o'i chenawon,
a'i fagu i fod yn llew ifanc cryf.
6 Cerddodd yng nghanol y llewod,
wedi tyfu i fod yn llew ifanc cryf.
Dysgodd sut i hela a rhwygo'i ysglyfaeth;
roedd yn bwyta cnawd dynol.
7 Cymerodd y gweddwon iddo'i hun
a dinistrio'r trefi'n llwyr.
Pan oedd yn rhuo,
roedd yn codi ofn ar bawb drwy'r wlad.
8 Daeth byddinoedd y gwledydd o'i gwmpas
i ymosod arno.
Dyma nhw'n taflu eu rhwyd drosto
a'i ddal yn eu trap;
9 rhoi coler a bachyn am ei wddf,
a mynd ag e at frenin Babilon.
Cafodd ei ddal yn gaeth yn y carchar
fel bod ei ruo i'w glywed ddim mwy
ar fynyddoedd Israel.
10 Roedd dy fam fel gwinwydden gyda brigau hir
wedi'i phlannu ar lan y dŵr.
Roedd ei changhennau yn llawn ffrwyth
am fod digon o ddŵr iddi.
11 Tyfodd ei changhennau'n ddigon cryf
i wneud teyrnwialen brenin ohonyn nhw.
Tyfodd yn uchel at y cymylau;
roedd pawb yn ei gweld am ei bod mor dal ac mor ganghennog.
12 Ond cafodd ei thynnu o'r gwraidd a'i thaflu ar lawr.
Chwythodd gwynt poeth y dwyrain
a chrino ei changhennau ffrwythlon.
Llosgodd yn y tân.
13 Bellach mae wedi'i phlannu yn yr anialwch
mewn tir sych, cras.
14 Lledodd y tân o'i changen gref
a'i llosgi o'i gwraidd i'w brigau.
Doedd dim cangen ddigon cryf ar ôl
i wneud teyrnwialen ohoni.’
Dyma gân i alaru! Cân ar gyfer angladd ydy hi!”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity