|
|
O Tyrus, rwyt yn brolio mai ti
ydy harddwch yn ei berffeithrwydd.
4 Gyda dy ffiniau yng nghanol y moroedd,
cest dy lunio fel y llong berffaith –
5 dy fyrddau o goed pinwydd Senir
a dy fast o goed cedrwydd Libanus.
6 Dy rwyfau o goed derw Bashan,
a dy gorff yn bren cypres, o dde Cyprus,
wedi'i addurno ag ifori.
7 Dy hwyl o liain main gorau'r Aifft
wedi'i brodio'n batrymau,
ac yn faner i bawb dy nabod.
Y llen dros y dec yn borffor a phiws;
defnydd o lannau Elisha.
8 Arweinwyr Sidon ac Arfad oedd dy rwyfwyr,
a dynion medrus Tyrus wrth yr helm yn forwyr.
9 Roedd arweinwyr Gebal ar dy fwrdd
yn trwsio unrhyw niwed.
Roedd y llongau i gyd a'u criwiau
yn galw yn dy borthladdoedd
i gyfnewid nwyddau.
10 Roedd dynion o wledydd pell
– Persia, Lydia a Libia – yn filwyr yn dy fyddin.
Yn hongian tarian a helmed ar dy waliau;
ac yn rhoi i ti enw gwych.
11 “‘Roedd dynion Arfad a Helech yn gwarchod dy waliau, a dynion Gammad ar y tyrau amddiffynnol. Roedden nhw'n hongian eu cewyll saethau ar dy waliau, a gwneud dy harddwch yn berffaith. 12 Roeddet ti'n masnachu gyda Tarshish Ref bell, ac yn cyfnewid arian, haearn, tin a phlwm am dy nwyddau. 13 Roedd Iafan, Twbal a Meshech yn cyfnewid caethweision a nwyddau pres. 14 Beth-togarma yn cyfnewid ceffylau, meirch a mulod. 15 Roeddet ti'n masnachu gyda phobl Rhodos, a llawer o ynysoedd eraill. Roedden nhw'n talu gydag ifori a choed eboni. 16 Roedd Edom Ref yn delio gyda ti am dy fod yn gwerthu cymaint o bethau gwahanol. Roedden nhw'n talu gyda meini gwerthfawr, defnydd porffor, defnydd wedi'i frodio, lliain main drud, cwrel, a rhuddem. 17 A Jwda a gwlad Israel hefyd, yn cyfnewid gwenith o Minnith, ffigys, mêl, olew olewydd a balm. 18 Roedd Damascus yn delio gyda ti am fod gen ti gymaint o nwyddau ac am dy fod ti mor gyfoethog. Roedden nhw'n dod â gwin o Chelbon, gwlân o Sachar, 19 a chasgenni o win o Isal. Haearn bwrw, powdr casia a sbeisiau persawrus hefyd. 20 Roedd Dedan yn cynnig eu carthenni cyfrwy. 21 Arabia a shîcs Cedar yn gwerthu ŵyn, hyrddod a geifr. 22 Masnachwyr Sheba a Raama yn cynnig eu perlysiau gorau, meini gwerthfawr o bob math ac aur. 23 Roedd Haran, Canne ac Eden, a masnachwyr Sheba, Ashŵr a Cilmad yn gwsmeriaid i ti hefyd, 24 yn cynnig dillad costus, defnydd porffor, brodwaith a charpedi amryliw wedi'u clymu a'u plethu'n dynn. 25 Roedd llongau masnach mawr Ref yn cludo dy nwyddau ar draws y moroedd.Roeddet fel llong wedi'i llwytho'n llawn,
yng nghanol y moroedd.
i ganol storm ar y môr mawr!
Daeth gwynt y dwyrain i dy ddryllio
yng nghanol y moroedd.
27 “‘Mae diwrnod dy ddryllio'n dod, a byddi'n suddo yng nghanol y môr, gyda dy gyfoeth i gyd, dy nwyddau, dy fasnach, dy forwyr, dy rwyfwyr, dy grefftwyr, dy fasnachwyr a dy filwyr – pawb sydd ar dy fwrdd.nes i gefn gwlad grynu.
yn gadael eu llongau a sefyll ar dir sych.
30 Byddan nhw'n galaru'n uchel
ac yn crio'n chwerw;
byddan nhw'n taflu pridd ar eu pennau
ac yn rholio mewn lludw.
31 Byddan nhw'n siafio'u pennau
ac yn gwisgo sachliain.
Byddan nhw'n wylo'n chwerw
wrth alaru ar dy ôl.
ar dy ôl:
“Pwy oedd fel Tyrus, fel tŵr yng nghanol y môr?”
33 Roedd dy nwyddau'n cael eu dadlwytho o'r moroedd,
i gwrdd ag angen pobloedd.
Roedd dy gyfoeth mawr a dy nwyddau
yn cyfoethogi brenhinoedd i ben draw'r byd!
34 Ond bellach rwyt yn llong wedi'i dryllio
yn gorwedd ar waelod y môr.
Mae dy nwyddau a'r criw i gyd
wedi suddo a boddi gyda ti.
35 Mae pobl yr arfordir i gyd wedi dychryn yn lân;
brenhinoedd yn crynu mewn braw,
a'r poen i'w weld ar eu hwynebau.
yn chwibanu mewn rhyfeddod arnat.
Roedd dy ddiwedd yn erchyll
a fydd dim sôn eto amdanat.’”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity