|
|
Dw i'n mynd i ddelio gyda ti!
y Pharo, brenin yr Aifft;
y ddraig fawr sy'n gorwedd
yng nghanol ei ffosydd.
“Fi piau afon Nîl,” meddet ti,
“a fi sydd wedi'i chreu hi.”
4 Bydda i'n rhoi bachyn yn dy ên
ac yn dy lusgo allan o'r dŵr
gyda physgod o'r ffosydd yn
glynu wrth dy groen.
5 Bydda i'n dy daflu i'r anialwch,
ti a physgod y ffosydd.
Byddi'n gorwedd, heb dy gladdu,
i farw ar dir agored –
yn fwyd i'r anifeiliaid ac i'r adar.
6 Yna bydd pawb sy'n byw yn yr Aifft
yn gweld mai fi ydy'r
ARGLWYDD.Rwyt wedi bod yn ffon fagl wan fel brwynen
i bobl Israel bwyso arni.
7 Dyma nhw'n gafael ynot, ond dyma ti'n torri
ac yn bwrw eu hysgwydd o'i lle.
Wrth iddyn nhw bwyso arnat dyma ti'n hollti
a gadael eu cluniau'n sigledig.Croes
8 “‘Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n anfon byddin i ymosod arnat ti, a bydd yr holl bobl a'r anifeiliaid yn cael eu lladd. 9 Bydd yr Aifft yn dir diffaith gwag. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD. “‘Am dy fod wedi dweud, “Fi piau afon Nîl, a fi sydd wedi'i chreu hi,” 10 dw i'n mynd i ddelio gyda ti a dy ffosydd. Dw i'n mynd i droi gwlad yr Aifft yn anialwch diffaith yr holl ffordd o Migdol yn y gogledd i Aswan yn y de, sydd ar y ffin gydag Ethiopia. Ref 11 Fydd neb yn gallu byw yno am bedwar deg o flynyddoedd – fydd dim pobl nac anifeiliaid yn crwydro yno. 12 Bydda i'n gwneud gwlad yr Aifft yn anialwch gwaeth nag unrhyw wlad. Bydd ei threfi a'i dinasoedd yn adfeilion. Bydd pobl yr Aifft yn cael eu gyrru ar chwâl drwy'r gwledydd i gyd. 13 “‘Ond yna, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Ar ddiwedd y pedwar deg mlynedd bydda i'n casglu pobl yr Aifft o'r gwledydd lle roedden nhw ar chwâl. 14 Bydda i'n adfer sefyllfa pobl yr Aifft a dod â nhw yn ôl i ardal Pathros, i wlad eu mebyd. Ond gwlad ddi-nod fydd yr Aifft. 15 Bydd hi'n un o'r gwledydd lleia dylanwadol, a fydd hi byth yn rheoli gwledydd eraill eto. 16 A fydd Israel ddim yn pwyso arni byth eto. Bydd hi'n atgoffa Israel o'i phechod yn troi at yr Aifft am help. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.’”Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity