|
|
Uda, “O na! Mae'r diwrnod wedi dod!”
3 Ydy, mae'r diwrnod mawr yn agos;
dydd barn yr
ARGLWYDD!Diwrnod o gymylau duon bygythiol;
amser anodd i'r gwledydd i gyd.
4 Mae byddin yn dod i ymosod ar yr Aifft
a bydd teyrnas Cwsh Ref mewn panig
wrth weld pobl yr Aifft yn syrthio'n farw,
cyfoeth y wlad yn cael ei gario i ffwrdd
a'i sylfeini'n cael eu dinistrio.
5 “‘Bydd pobl o ddwyrain Affrica, Pwt, Lydia a Libia sy'n byw yn yr Aifft, a hyd yn oed pobl Israel Ref sy'n byw yno yn cael eu lladd yn y rhyfel.’ 6 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:‘Bydd y rhai sy'n cefnogi'r Aifft yn syrthio.
Bydd ei balchder yn ei grym yn chwilfriw!
Bydd pawb yn cael eu lladd yn y brwydro
yr holl ffordd o Migdol i Aswan.’”
—y Meistr, yr
ARGLWYDD, sy'n dweud hyn. 7 “‘Bydd yr Aifft yn anialwch gwaeth nag unrhyw wlad. Bydd ei threfi a'i dinasoedd yn adfeilion. 8 Byddan nhw'n sylweddoli mai fi ydy'r ARGLWYDD pan fydda i'n cynnau tân yn yr Aifft ac yn sathru pawb sy'n ei chefnogi. 9 Pan fydd hynny'n digwydd bydda i'n anfon negeswyr mewn llongau i ddychryn pobl ddibryder teyrnas Cwsh. Pan glywan nhw beth sy'n digwydd i'r Aifft bydd panig yn dod drostyn nhw! Gwyliwch! Mae'n dod!’” 10 “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i ddefnyddio Nebwchadnesar, brenin Babilon, i roi diwedd ar fyddin enfawr yr Aifft. 11 Bydd e a'i fyddin, byddin y wlad fwya creulon yn y byd, yn dod i lawr i ddinistrio'r Aifft. Byddan nhw'n tynnu eu cleddyfau i ymosod, ac yn llenwi'r wlad gyda chyrff marw. 12 Bydda i'n sychu ei ffosydd, ac yn rhoi'r wlad yn nwylo dynion drwg. Bydda i'n defnyddio byddin estron i ddinistrio'r wlad a phopeth ynddi. Yr ARGLWYDD ydw i, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod! 13 “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i ddinistrio dy eilunod, a chael gwared â duwiau diwerth Memffis. Fydd neb ar ôl i arwain gwlad yr Aifft. Bydd dychryn drwy'r wlad i gyd. 14 Bydda i'n dinistrio Pathros, yn cynnau tân yn Soan ac yn cosbi Thebes. 15 Bydda i'n tywallt fy llid ar gaer Pelwsiwm Ref ac yn lladd holl filwyr Thebes. 16 Ydw dw i'n mynd i gynnau tân yn yr Aifft. Bydd Pelwsiwm yn gwingo mewn poen, Thebes yn cael ei thorri i lawr a Memffis yn dioddef trais diddiwedd. 17 Bydd milwyr ifanc Heliopolis a Bwbastis Ref yn cael eu lladd, a'r bobl i gyd yn cael eu cymryd i ffwrdd yn gaethion. 18 Bydd hi'n ddiwrnod tywyll ar Tachpanches pan fydda i'n dod â grym gwleidyddol yr Aifft i ben. Ref Bydd ei balchder yn ei grym wedi darfod. Bydd cwmwl yn ei gorchuddio, a bydd ei merched yn cael eu cymryd i ffwrdd yn gaethion. 19 Dw i'n mynd i farnu'r Aifft. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.’”Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity