|
|
‘Roeddet ti'n gweld dy hun fel llew yng nghanol y gwledydd,
ond ti fwy fel draig yn y môr.
Rwyt ti'n sblasio yn y ffosydd,
yn corddi'r dŵr gyda dy draed
a baeddu'r ffosydd.’
3 Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud:Bydda i'n taflu fy rhwyd drosot ti
(bydd tyrfa enfawr o bobl yno),
ac yn dy lusgo allan o'r dŵr gyda'm llusgrwyd.
4 Wedyn bydda i'n dy daflu di ar dir sych,
a bydd yr adar yn dod ac yn byw arnat ti,
a'r anifeiliaid gwyllt yn llenwi eu hunain arnat.
a'r gweddillion yn y dyffrynnoedd.
6 Bydda i'n socian y tir gyda dy waed di,
yr holl ffordd i ben y mynyddoedd,
a bydd dy waed yn llenwi'r ceunentydd i gyd.
7 Pan fydda i'n dy ddiffodd bydda i'n rhoi gorchudd ar yr awyr,
ac yn diffodd y sêr i gyd.
Bydd cwmwl yn cuddio'r haul,
ac yn rhwystro'r lleuad rhag llewyrchu.
8 Bydd pob golau yn yr awyr yn diffodd,
a bydd tywyllwch drwy'r wlad i gyd,”
meddai'r Meistr, yr
ARGLWYDD. 9 “Bydd pobloedd lawer wedi cynhyrfu pan fydd y cenhedloedd yn clywed am dy ddinistr. Hyd yn oed gwledydd dwyt ti erioed wedi clywed amdanyn nhw. 10 Bydd pobl mewn sioc o glywed beth fydd wedi digwydd i ti. Bydd brenhinoedd wedi dychryn am eu bywydau pan fydda i'n chwifio fy nghleddyf o'u blaenau nhw. Ar y diwrnod y byddi di'n syrthio byddan nhw'n crynu drwyddynt yn ofni am eu bywydau eu hunain.” 11 Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Bydd cleddyf brenin Babilon yn ymosod arnat ti.12 Bydda i'n gwneud i gleddyfau milwyr cryfion
ladd dy fyddin enfawr di –
nhw ydy'r milwyr mwyaf creulon sydd.
Byddan nhw'n torri balchder yr Aifft,
a bydd ei byddin enfawr yn cael ei dinistrio.
13 Bydd yr anifeiliaid sy'n pori ar lan y dŵr
yn cael eu lladd i gyd.
Fydd y dŵr ddim yn cael ei faeddu eto
gan draed dynol na charnau anifeiliaid.
14 Bydd y dŵr drwy'r Aifft yn glir,
a'r afonydd yn llifo'n llyfn fel olew.
“Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD.15 Pan fydda i'n troi gwlad yr Aifft yn anialwch
ac yn dinistrio popeth sydd ynddi;
Pan fydda i'n lladd pawb sy'n byw yno,
byddan nhw'n sylweddoli mai fi ydy'r
ARGLWYDD. 16 “Dyma'r gân angladdol fyddan nhw'n ei chanu. Bydd merched y gwledydd i gyd yn ei chanu ac yn galaru am yr Aifft a'i byddin enfawr.” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD.19 Wyt ti'n harddach na'r gwledydd eraill? Na!
Dos i lawr i orwedd gyda'r gwledydd paganaidd.
20 Byddi'n gorwedd gyda phawb arall
sydd wedi'u lladd mewn rhyfel!
Mae'r cleddyf yn barod i'w taro nhw;
bydd yr Aifft a'i byddin yn cael eu llusgo i ffwrdd.
21 Bydd arweinwyr grymus y gwledydd
yn gwawdio'r Aifft a'i chefnogwyr:
‘Dyma nhw wedi cyrraedd,
i orwedd gyda'r paganiaid eraill
sydd wedi'u lladd â'r cleddyf.’
22 “Mae brenin Asyria yna, a beddau ei fyddin enfawr ym mhobman. Pob un wedi'i ladd â'r cleddyf. 23 Mae eu beddau yn gorchuddio llethrau dyfnaf y Pwll, ac mae ei chefnogwyr o'i chwmpas. Ie, dyma nhw, y rhai oedd yn codi dychryn ar bawb drwy'r byd! 24 “Mae Elam yna, a beddau ei byddin enfawr hithau ym mhobman. Pob un wedi'i ladd â'r cleddyf. Hwythau'n baganiaid wedi mynd i lawr i ddyfnder y ddaear, ond ar un adeg yn codi dychryn ar bawb drwy'r byd. Bellach maen nhw'n gorwedd mewn cywilydd gyda phawb arall sy'n disgyn i'r Pwll! 25 Mae hithau'n gorffwys gyda'r meirw, a beddau ei byddin enfawr ym mhobman. Paganiaid wedi'u lladd â'r cleddyf am eu bod wedi codi dychryn ar bawb drwy'r byd. Bellach maen nhw'n gorwedd mewn cywilydd gyda phawb arall sy'n disgyn i'r Pwll! 26 “Mae Meshech a Twbal yna, a beddau eu byddinoedd hwythau ym mhobman. Paganiaid wedi'u lladd â'r cleddyf am eu bod wedi codi dychryn ar bawb drwy'r byd. 27 Dŷn nhw ddim gydag arwyr dewr y gorffennol, wedi'u claddu'n anrhydeddus gyda'u harfau – gyda'r cleddyf wedi'i osod dan y pen a'r darian yn gorwedd ar yr esgyrn. Roedden nhw hefyd yn codi dychryn ar bawb drwy'r byd. 28 A byddi dithau, y Pharo, yn gorwedd wedi dy dorri gyda'r paganiaid eraill gafodd eu lladd â'r cleddyf! 29 “Mae Edom yna, gyda'i brenhinoedd a'i phenaethiaid i gyd. Er eu bod mor gryf ar un adeg, maen nhw'n gorwedd gyda'r rhai sydd wedi'u lladd â'r cleddyf. Maen nhw'n gorwedd gyda'r paganiaid eraill sydd wedi mynd i lawr i'r Pwll. 30 “Mae arweinwyr gwledydd y gogledd yno i gyd, a'r Sidoniaid. Y rhai oedd yn codi dychryn bellach yn gorwedd mewn cywilydd gyda'r meirw – gyda'r paganiaid eraill gafodd eu lladd â'r cleddyf. Maen nhw'n gorwedd mewn cywilydd gyda phawb arall sy'n disgyn i'r Pwll. 31 “Bydd y Pharo yn eu gweld, ac yn cael ei gysuro mai nid ei fyddin enfawr e oedd yr unig un i gael ei lladd â'r cleddyf,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. 32 “Er fy mod wedi'u defnyddio nhw i godi dychryn ar bawb drwy'r byd, bydd y Pharo a'i fyddin yn gorwedd gyda'r paganiaid eraill gafodd eu lladd â'r cleddyf.” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity